Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ffenestri sy'n troi dwy ffordd

Ffenestri sy'n troi dwy ffordd

  • Mae ein ffenestri'n troi dwy ffordd sy'n golygu eu bod nhw'n hawdd i'w glanhau o'r tu mewn i'r adeilad, ac mae modd gwneud hynny'n ddiogel
  • Ar gael mewn ystod o liwiau ac arddulliau
  • Opsiwn o wydr dwbl a thriphlyg
  • Achrediad Fensa, Diogelu  Drwy Ddylunio, a Sefydliad Safonau Prydain
  • Wedi'u creu gan ddefnyddio PVCu o ansawdd uchel ac sy'n hawdd ei gynnal
  • Gwarant gynhwysfawr 10 mlynedd
Hawdd eu glanhau'n ddiogel

Mae'r ffenestr yn troi dwy ffordd wedi dod yn fwy poblogaidd mewn eiddo aml-lawr a chartrefi preifat oherwydd ei fod yn hawdd ei gynnal. Mae eu dyluniad unigryw yn golygu eu bod yn troi dwy ffordd ac maen nhw'n hawdd eu glanhau'n ddiogel o'r tu mewn i'r adeilad. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n ddatrysiad delfrydol ar gyfer lleoliadau neu adeiladau lle mae glanhau o'r tu fas yn broblem.

Eich ffenestri chi, fel rydych chi eu heisiau nhw

Mae'r ffenestri ar gael mewn amrywiaeth eang o arddulliau a lliwiau modern a thraddodiadol, gan gynnwys gorffeniadau llyfn a graen pren, gallwch ddewis y ffenestr gywir i weddu i'ch eiddo.

UPVC-Window-Open-Close-Up
UPVC-Window-Hinge-Factory
Rydyn ni'n blaenoriaethu diogelwch

Mae ein ffenestri'n cael eu cynhyrchu i fodloni Safonau'r Diwydiant Prydeinig o ran ansawdd a diogelwch fel y gallwch fod yn sicr bod gan eich cartref y lefel uchaf posib o ran diogelwch ffenestri. Mae gan bob un o'n cynnyrch achrediad Diogelu Drwy Ddylunio, sef menter swyddogol yr Heddlu.

Rydyn ni'n gwarantu y byddwch chi'n fodlon â'n gwasanaeth

Yma yn Vision Products, ein nod yw bodloni gofynion ein cwsmeriaid drwy gynnig gwasanaeth di-dor o'r dechrau i'r diwedd. Pan ddewiswch chi Vision Products, byddwch chi'n elwa ar ein gwarant 10 mlynedd ynghyd â'r gwasanaeth gosod gan ein carfan o osodwyr medrus.

Get-In-Touch-Square

Cysylltwch â ni heddiw!

Rhagor o ddewisiadau PVCU
Two-UPVC-Windows-Old-Building

Casment

  • Ein ffenest fwyaf effeithlon o ran ynni
  • 26 opsiwn o ran lliw gyda gorffeniadau llyfn a graen pren
  • Opsiynau gwydr dwbl/gwydr triphlyg
  • Proffil ansawdd PVCu sy'n arwain y farchnad
  • Gwarant gynhwysfawr 10 mlynedd
  • Wedi'i achredu gan Fensa, Diogelu Drwy Ddylunio a'r Sefydliad Safonau Prydeinig
UPVC-2-Windows-Black

Ffenestri y mae modd eu troi/troi ar ogwydd

  • Hawdd i'w glanhau
  • Wedi'u gwydro'n fewnol i sicrhau'r diogelwch mwyaf posibl
  • Ffenestri y mae modd eu troi ar ogwydd ar gyfer awyru diogel
  • 26 opsiwn o ran lliw gyda gorffeniadau llyfn a graen pren
  • Gwarant gynhwysfawr 10 mlynedd
  • Wedi'i achredu gan Fensa, Diogelu Drwy Ddylunio a'r Sefydliad Safonau Prydeinig

 

VP-Feedback-Tab