Mae cefnogaeth y teulu yn ddylanwad mawr ar p'un a yw'r sgiliau, yr hyder a'r cymhelliant gyda phlant i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn ystod eu bywyd.
Cliciwch isod i lawrlwytho adnoddau teuluol.
Cerdyn Bingo
Helfa Sborion
Symud sy'n bwysig
Oeddech chi'n gwybod bod modd llogi pecynnau adnoddau a bagiau offer Symud sy'n Bwysig o lyfrgelloedd Pontypridd, Aberdâr a Threorci? Rhagor o fanylion: www.rctcbc.gov.uk/symudsynbwysig
Fideos Hyfforddi Chwaraeon RhCT
Mae gyda ni ystod o fideos hyfforddi ar y wefan yma. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw ar gyfer grwpiau o blant. Fodd bynnag, mae modd addasu rhai ohonyn nhw a'u chwarae gyda 2 neu 3 o blant. Rydyn ni'n argymell Oxo (Noughts a Crosses), Cestyll Tywod, Domes and Dishes, Rasys Cyfnewid Coconyt a Gêm Precision Passing.
Gweithgareddau Newid am Oes
Mae'r GIG yn ariannu cynllun Newid am Oes, sydd â gweithgareddau gwych i blant ar ei wefan. Mae wedi cydweithio â Disney er mwyn creu ymarferion 10 munud o hyd. Mae modd i chi eu gweld nhw yma.