Ers blynyddoedd, mae trigolion ieuengaf Rhondda Cynon Taf a'u ffrindiau fflwfflyd wedi mwynhau Picnic y Tedis, sef diwrnod llawn cerddoriaeth a hwyl yng nghanol y parc.
Caiff rhieni a chynhalwyr plant 5 oed ac iau eu gwahodd i achlysur llawn hwyl, gemau, stondinau a gwybodaeth ddefnyddiol.
Bydd cyfle i'r plantos fwynhau gweithgaredd gyda Juan Bubbles, peintio wynebau, creu modelau balŵn, hwyl gyda Tommy Tumble y clown, sesiwn cadw'n heini gyda Heini o S4C, a theganau gwynt, tra bod eu rhieni a'u cynhalwyr yn cael gwybodaeth a chyngor hollbwysig.
Bydd modd i chi gwrdd â gweithwyr o nifer o wasanaethau cymorth yn yr achlysur, gan gynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Bydd modd iddyn nhw roi cyngor i chi ar ddewis y gofal plant, gweithgareddau teuluol ac achlysuron priodol, ogystal â gwybodaeth a chyngor ynglŷn â dechrau'r ysgol, cael cymorth a llawer yn rhagor.
Bydd y stondinau gwybodaeth eraill yn cynnwys:
- Gwasanaeth Derbyn Disgyblion Rhondda Cynon Taf
- Teuluoedd Cydnerth, sy'n cynnig amrywiaeth o sesiynau cymorth a chymorth un-i-un
- Siarad a Chwarae, sy'n cynnig sesiynau rhifedd a llythrennedd llawn hwyl am ddim
- Cymraeg i Blant sy'n cynnig sesiynau Cymraeg ar gyfer ein trigolion ieuengaf
- Gwasanaethau Hamdden Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau hamdden ar gyfer plant a theuluoedd, gan gynnwys gwersi nofio am ddim i bobl o dan 16 oed ac iau yn ystod gwyliau'r ysgol
- Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf, sy'n darparu llyfrau, adnoddau, cylchgronau, achlysuron a llawer yn rhagor.
Roedd achlysur Picnic y Tedis eleni yn llwyddiant ysgubol! Cadwch olwg am y manylion ar gyfer y flwyddyn nesaf!