Bydd yr ardal chwarae antur newydd yma yn cynnig hwyl a sbri i blant o bob oed a gallu.
Dyma'r lle delfrydol i chwarae'n ddiogel a gwneud ffrindiau newydd. Caiff plant chwarae ar siglenni, sleidiau, si-sos ac offer cydbwyso – a'r cyfan â naws leol – yn ogystal â chwarae llawn dychymyg a chwarae'n rhydd.