O'r llwybr hwn dros y bryniau cewch olygfeydd hyfryd o'r dref, yn ogystal â cherdded drwy goedydd hynafol, tir comin agored, rhostir, tir ffermio a ffridd. Mae'n esgyn wedyn i fannau uchel sy'n cynnig golygfeydd godidog ar draws y cymoedd tua'r môr a thua Bannau Brycheiniog. Ar lwybrau troed cefn gwlad a lonydd gwledig tawel.