Gweithgareddau awyr agored, lleoedd i ymlacio, golygfeydd i'ch ysbrydoli neu drysorau hanesyddol - mae rhywbeth ar gyfer pawb yn Rhondda Cynon Taf.
Mae ein mannau agored, eang, yn cynnig digonedd o gyfleoedd i fentro allan i'r awyr agored – i fynd am dro bach neu i wneud rhywbeth mwy egnïol byth!
Rydyn ni'n enwog am ein croeso cynnes yn Rhondda Cynon Taf – a byddwch chi'n dod o hyd i ddewis da o lety i gyd-fynd â'r croeso cynnes hwnnw.
Cafodd y parc ei agor ar 27 Gorffennaf 1869 ac mae'n enghraifft berffaith o barc cyhoeddus o oes Fictoria.
Mae Aberdâr, sef 'Brenhines y Cymoedd' yn gartref i tua 35,000 o bobl. Man gan y dref ganolfan siopa brysur a bywiog – mae siopau modern yn sefyll ochr yn ochr â siopau hirsefydlog ac adeiladau hanesyddol.