Skip to main content

Gwybodaeth a chyngor allweddol

 

 

  • Bydd ras feicio uchaf ei pharch y DU yn cyrraedd yn Aberdâr fis nesaf – ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi gwybodaeth a chyngor allweddol i sicrhau bod yr achlysur mynd rhagddo heb unrhyw broblemau.

    Bydd rhai o'r seiclwyr mwyaf blaenllaw, eu cefnogwyr a chyfryngau'r byd yn ymweld ag Aberdâr a'r cylch pan fydd Cam 5 Taith Prydain yn dechrau ym Mharc Aberdâr ddydd Iau, 8 Medi.

    Dyma'r tro cyntaf y bydd Rhondda Cynon Taf yn cynnal yr achlysur, sydd yn y gorffennol wedi cynnwys yr arwyr o'r byd beicio Mark Cavendish a Bradley Wiggins.

    Mae'r Cyngor yn llawn cyffro ei fod yn cynnal yr achlysur pwysig, yn enwedig yn sgil llwyddiant seiclwyr Tîm GB yn Rio 2016 a phoblogrwydd cynyddol RhCT fel lleoliad beicio.

    Mae gan yr achlysur botensial mawr o ran rhoi hwb i fusnesau lleol ac atyniadau twristiaid ac o ran arddangos yr hyn sydd gan RhCT i'w gynnig i weddill y byd, ac yn enwedig i feicwyr. 

    Mae hefyd yn gyfle i breswylwyr fwynhau achlysur chwaraeon o'r safon uchaf ar garreg y drws. A fydd yn eich ysbrydoli i roi cynnig ar feicio?

    Mae'r Cyngor yn gwahodd cymaint o bobl â phosibl i fwynhau yn y bore a dod yn llu wrth ymyl y llwybr i annog y beicwyr. Byddan nhw'n dechrau yn y parc, ac yn mynd drwy'r dref ac ar draws dwyrain Cymru tuag at y llinell derfyn yng Nghaerfaddon.

    Dywedodd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Mae lansio Cam 5 Taith Prydain yn fraint arbennig i Gyngor Rhondda Cynon Taf a'i gymunedau.

    "Oherwydd urddas yr achlysur a safon ei gystadleuwyr, yn ogystal â'r cyfryngau rhyngwladol a'r gwylwyr y mae'n eu denu, bydd modd i ni arddangos popeth sydd gan RCT i'w gynnig.

    "Mae beicio yn mynd yn fwyfwy poblogaidd yn RhCT, diolch i'n gwastadleoedd a llwybrau awyr agored y mae modd eu mwynhau wrth feicio. Rydyn ni'n gobeithio y bydd Taith Prydain yn ysbrydoli rhagor o bobl i fwynhau beicio. Rwy'n siwr bydd yn beth braf i feicwyr ymroddedig a phroffesiynol niferus y Fwrdeistref Sirol.

    "Mewn blynyddoedd blaenorol mae degau o filoedd o wylwyr wedi dod i'r achlysur, felly, mae hyn hefyd yn gyfle i gefnogi ac i roi hwb i fusnesau lleol, darparwyr llety ac atyniadau twristiaid.

    "Rydyn ni wedi cynllunio'r achlysur ers misoedd ac mae rhagor o waith i'w wneud cyn i'r beicwyr ddechrau ym Mharc Aberdâr am 10.45am ddydd Iau, 8 Medi. Rydyn ni'n gwybod y bydd yr ymdrech yn talu ar ei ganfed.

    "Rydyn ni angen i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr gofio manylion allweddol. Hoffen ni ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad a chymorth i sicrhau bod yr achlysur bythgofiadwy yn rhedeg yn ddidrafferth, er mwynhad i bawb.

    Mae llythyron wedi cael eu hanfon at breswylwyr a busnesau yn Aberdâr, a hefyd at y rheini sy'n byw ar bwys llwybr y ras, er mwyn rhoi gwybodaeth a chyfarwyddiadau ar gyfer y diwrnod.

    Darllen y llythyr i breswylwyr

    Darllen y llythyr i fusnesau os yw eich busnes yn Aberdâr

    Darllen y llythyr i fusnesau yn Aberpennar

    Pwyntiau allweddol:

    • Mae'r ras yn dechrau ym Mharc Aberdâr am 10.45am ddydd Iau, 8 Medi. Bydd beicwyr yn teithio drwy ganol y dref ac yna drwy Aberaman, Abercwmboi, heibio Fernhill ac i ganol tref Aberpennar, cyn ymuno a'r A4059 i'r dwyrain tuag at Fwrdeistref Sirol Caerffili. Lawrlwytho'r llwybr
    • Bydd gorchymyn traffig dros dro yn weithredol ar hyd y llwybr yn ystod y ras, a chewch chi ddim parcio neu aros yn y ffyrdd canlynol rhwng 6am a 11.45am ar ddiwrnod y ras. Mae'n bosibl y caiff cerbydau o fewn ardaloedd y gorchymyn eu cludo ymaith gan y Cyngor.
    • Mae'r gorchymyn yn gwahardd parcio ac aros, rhwng 6am a 11.45am ddydd Iau, 8 Medi yn: Glan Rd, Gadlys Rd, High Street, Canon Street, Victoria Square, Cardiff Street a Chylchfan Tinney yn Aberdâr, Cardiff Road yn Aberaman, Park View Terrace, John Street, Bronallt Terrace yn Abercwmboi, Aberdare Rd, Commercial Street, Ffrwrd Crescent, ffordd newydd yr A4059 (rhwng Aberpennar a'r A470), Pont Tref Aberpennar a Chylchfan Abercynon, gan gynnwys yr heolydd sy'n arwain ati o'r gogledd ac o'r de.
    • Does dim llefydd parcio ym Mharc Aberdâr a dim ond hyn a hyn o lefydd parcio sydd ger y parc.
    • Mae'r parc mewn ardal breswyl felly gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn ystyried hynny os byddwch yn parcio gerllaw. Parciwch eich cerbyd mewn lle parcio y tu allan i'r parc neu mewn maes parcio gerllaw yn unig.
    • Mae 8 maes parcio yn yr ardal. Dod o hyd i faes parcio
    • Bydd hefyd wasanaeth Parcio a Theithio o Ganolfan Hamdden Sobell/Ysgol Gymunedol Aberdâr ar fore'r achlysur. Bydd y gwasanaeth cyntaf o'r ganolfan hamdden i'r parc am 8am, a'r un olaf am 10.30am. Bydd y gwasanaeth olaf o'r parc i'r Sobell am 11am. Neu beth am fynd am dro drwy'r dref, i fwynhau'r siopau a chaffis? Dod o Hyd i Ganolfan Hamdden Sobell
    • Os yw'ch gwastraff ailgylchu neu sbwriel fel arfer yn cael ei gasglu ar ddydd Iau, bydd yn cael ei gasglu ddydd Sadwrn yr wythnos yma yn unig. Peidiwch â gadael eich biniau/bagiau allan i'w casglu Dod o hyd i'ch diwrnod casglu gwastraff
    • Er gwybodaeth i fusnesau, bydd rhaid i nwyddau gael eu derbyn cyn 9.30am, neu ar ôl 12pm, ddydd Iau, 8 Medi.
    • Nodwch y bydd gwastraff masnachol sydd fel arfer yn cael ei gasglu ar ddydd Iau yn cael ei gasglu ddydd Mercher, 7 Medi.
    • Mae ffactorau y tu allan i reolaeth y Cyngor megis newidiadau munud olaf i'r llwybr, a'r tywydd. Fydd y Cyngor ddim yn gyfrifol am y rhain. Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf ar gyfrifon Twitter y Cyngor, @CyngorRhCT a @RCTCouncil
    • Rydyn ni'n gofyn i bawb a fydd yn teithio yn eu cerbyd yn ystod y bore fod yn ofalus a sicrhau eu bod yn dilyn cyfarwyddiadau trefnwyr yr achlysur neu Heddlu De Cymru.