Skip to main content

Y Llwybr

Bydd Cam Pump yn ddiwrnod caled arall ar yr heol ddydd Iau 8 Medi. Ar y diwrnod hwnnw, bydd y beicwyr yn teithio 205 cilomedr fydd yn cynnwys 3,675 metr o lethrau. Bydd y cam yma'n mynd â'r Daith ar draws De Cymru ac i mewn i Sir Gaerloyw, gan orffen yng Nghaerfaddon - dinas drawiadol treftadaeth y byd UNESCO.

O Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf, bydd llwybr y ras yn mynd tua’r dwyrain drwy Bont-y-pŵl a Brynbuga, ymlaen drwy'r Forest of Dean ac i fyny ar hyd Aber Afon Hafren yn Swydd Gaerloyw.

Ar ôl teithio trwy'r ddinas gadeiriol, bydd y beicwyr yn mynd i gyfeiriad y de i'r Cotswolds, cyn teithio trwy Stroud a Dursley ar eu ffordd i ddiwedd y ras yn ninas brydferth Caerfaddon. Dyma'r ail waith y bydd y ras fodern wedi ymweld â'r ddinas, ond dyma'r tro cyntaf iddi orffen yno.