Skip to main content

Y Ras

 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o fod yn fan cychwyn ar gyfer Taith Prydain – Cam 5. Bydd Cam 5 yn dechrau ym Mharc Aberdâr ddydd Iau 8 Medi.

TOB-Race-Shot
Taith Prydain 2016

Mae ras beicio broffesiynol fwyaf mawreddog Prydain yn dechrau yn Glasgow ddydd Sul, Medi 4.

Mae'n dychwelyd i Gymru am ddau gam, y cyntaf ddydd Mercher Medi 7, pan fydd rhai o'r beicwyr gorau yn y byd yn rasio o Ddinbych i Lanfair-ym-Muallt, gan orffen ar faes y Sioe Amaethyddol.

Ar Fedi 8, byddan nhw'n parhau â'u ras o Aberdâr, drwy Rondda Cynon Taf, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Torfaen a Sir Fynwy cyn gorffen yng Nghaerfaddon.

Bydd y ddau gam yn cynnwys rasio ar hyd 300 cilomedr o ffyrdd Cymru. Cam 4 fydd yr hwyaf yn Nhaith Prydain 2016; o Ddinbych i Lanfair-ym-Muallt, sef 218 cilomedr. Mae'r cam yma hefyd yn cynnwys y llethr hiraf yn y daith; dros 4000 metr o ddringo.

Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Mae'r ras yn gyfle gwych i ni arddangos tirwedd hardd Cymru i'r beicwyr sy'n cymryd rhan, yn ogystal â'r miloedd o bobl sy’n gwylio’r gystadleuaeth gyffrous.

“Yn dilyn twrnamaint anhygoel yr Ewro 2016, mae llwyddiannau chwaraeon Cymru'n cael eu cydnabod a'u hanrhydeddu ledled y byd.

“Rwy'n gobeithio bydd bod yn rhan o Daith Prydain yn parhau i ysbrydoli pobl Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon. Gan fod 2016 yn Flwyddyn Antur Cymru, mae'n gyfle gwych i bobl ddechrau bod yn weithredol a chynllunio antur chwaraeon.”

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Rydyn ni wrth ein bodd y bydd dechrau Cam 5 o'r Daith yn cael ei gynnal ym Mharc Aberdâr - parc sydd â hanes balch.

“Mae Taith Prydain yn achlysur chwaraeon mawr gyda miliynau o gefnogwyr o amgylch y byd. Mae cynnal y ras, un o'r ddau fan cychwyn yng Nghymru, yn rhoi cyfle i ni arddangos y Fwrdeistref Sirol hardd, a phopeth sydd ganddi i'w gynnig.

“Mae Taith Prydain yn mynd i dynnu sylw at Rondda Cynon Taf. Bydd bob heol yn arwain at Aberdâr ar y diwrnod hwnnw - yn llythrennol!

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at roi croeso cynnes i'r holl feicwyr, eu timoedd a'r holl wylwyr a fydd, rwy'n siŵr, yn llenwi'r palmentydd i wylio'r ras wrth iddi hi ddilyn y llwybr trwy'r sir."

Bydd Cam 5 Taith Prydain yn dechrau ym Mharc Aberdâr am 10.45am ddydd Iau, Medi 8 a bydd y cam 205 milltir yma'n gorffen yng Nghaerfaddon. Bydd y beicwyr yn teithio drwy ganol tref Aberdâr, Aberaman, Abercwmboi a Glenboi cyn mynd dros bont tref Aberpennar a theithio ar hyd yr A4059 i gylchfan Abercynon.

Meddai Mick Bennett, Cyfarwyddwr Ras Feicio Taith Prydain: “Rydyn ni'n edrych ymlaen at gamau Cymru yn ystod Taith Prydain a gweld lleoliadau a llethrau newydd.

“Heb syndod, bydd camau Cymru ymhlith y rhai mwyaf anodd yn ystod y Daith gyfan, a does dim yn wahanol eleni. Mae'r ddau gam dros 200 cilomedr o hyd ac yn cynnwys digon o ddringo.”

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru, Anne Adams-King: "Mae Beicio Cymru yn falch iawn o groesawu Taith Prydain i Gymru eto eleni.

“Mae gyda ni haf yn llawn gweithgareddau beicio gwych yma yng Nghymru y gall bawb eu mwynhau.

“Bydd ein hathletwyr elitaidd yn cystadlu yn y Tour de France a Gemau Olympaidd Rio, ac achlysuron mawr eraill megis Taith Prydain - sydd ar drothwy ein drws. Rydyn ni'n gobeithio bydd Cymru yn cael ei hysbrydoli i feicio'r haf yma.”