Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cwm Gran Meadows

 

Cwm Gran Meadows, Cwm Gran Farm, Y Ddôl, Llanhari

Rhandy unllawr hyfryd yw Cwm Gran Meadows, ynghlwm wrth cartref y perchnogion. Saif filltir a hanner o bentref Llanhari, a naw milltir o dref Pen-y-bont. Dwy ystafell wely sydd gan y bwthyn hwn, sef un a chanddi bár o welyau, ynghyd ag ystafell gawod.  Yn ogystal â hyn, mae gan y bwthyn ardal fyw gynllun agored gyda chegin, ardal fwyta ac ardal fyw gyda stof drydan. Y tu allan i'r bwthyn ceir defnydd cyffredin a rennir o ardd gaeedig gyda lawnt gyda patio wedi'i godi a lleoedd parcio oddi ar y ffordd i ddau gar. Mae Cwm Gran Meadows yn ganolfan ddelfrydol.

Cyfleusterau:
*Gwres canolog olew (a reolir o gartref y perchnogion) gyda stof drydan
*Ffwrn trydan gyda hob anwytho trydan, meicrodon, oergell, peiriant golchi, peiriant sychu dillad, peiriant golchi llestri, teledu gyda Freeview.
*Tanwydd a phŵer wedi'u cynnwys yn y rhent
*Dillad gwely a thyweli wedi'u cynnwys yn y rhent
*Defnydd cyffredin a rennir o leoedd parcio oddi ar y ffordd i ddau gar
*Defnydd cyffredin a rennir o ardd gaeedig gyda lawnt, gyda phatio gyda dec
*Croeso i ddau gi sy'n ymddwyn yn dda
*Dim ysmygu
*Taith gerdded o filltir a hanner i siop a thafarn

Noder: Mae technoleg WiFi ar gael, er y gall fod yn ysbeidiol
Noder: Ceir mynediad i'r eiddo ar hyd llwybr hir ac anwastad. Byddwch yn cerdded i'r ardal barcio, heibio i heulfan a drws cefn y perchnogion i fynedfa'r eiddo.

WiFi-Zone-Logo