Pen y Banc, Cefn Rhigos, Rhigos CF44 9YT
Dyma randy hyfryd sy'n rhan o gartref y perchnogion ym mhentref bach Cefn y Rhigos. Mae'r llety yn sefyll ar dir uchel gyda golygfeydd panoramig ar draws Bannau Brycheiniog. Mae'r llety i gyd ar y llawr gwaelod. Mae lle i ddau oedolyn yn yr ystafell wely, gyda chawod en-suite, ac mae set deledu yn yr ystafell wely a'r lolfa. Lle parcio preifat, a phatio preifat gyda dodrefn. Ymddiheuriadau – dim ysmygu a dim anifeiliaid anwes.
£35–£50 y noson