Skip to main content

Cefnogaeth i Fusnesau Bach a Chanolig

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol a busnesau bach a chanolig.

Rydyn ni wedi creu bas data er mwyn i fusnesau lleol gofrestru ar-lein er mwyn cael gwybod am gyfleoedd tendro lleol. Pe hoffech chi gofrestru i fod yn rhan o'r Bas Data o Fusnesau Lleol, cliciwch yma.

Hefyd, os ydych chi'n anghyfarwydd â'r broses gontractio, mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am Werthu i'r Cyngor ac argymhellion am sut i fod yn llwyddiannus yma.

Cymorth am ddim

Mae'r sefydliadau canlynol yn darparu cymorth ychwanegol i fusnesau:

GwerthwchiGymru

Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r sefydliad yn ceisio rhoi cymorth i'r canlynol:

  • busnesau i ennill contractau gyda’r sector cyhoeddus ledled Cymru
  • prynwyr y sector cyhoeddus i hysbysebu cyfleoedd tendro a'u rheoli
  • busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
  • busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd contractau

Ffôn: 0800 222 9004

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth am ddim sy'n cynnig cymorth a chyngor annibynnol a diduedd i bobl sy'n dechrau busnes yng Nghymru a phobl sydd eisoes yn rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru. Mae modd derbyn cyngor arbenigol a chymryd rhan mewn gweithdai sy'n rhoi cymorth â phob cam o redeg busnes, o'i ddechrau hyd at edrych ar sut i fod yn fwy cynaliadwy. Mae modd i ymgynghorwyr arbenigol roi cyngor wedi'i deilwra i chi o ran y broses dendro a sut i ddod o hyd i gyfleoedd tendro.

Ffôn: 0300 060 3000

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn ariannu busnesau maen nhw o'r farn bydd yn fuddiol i Gymru a'i phobl. Maen nhw'n ariannu busnesau cyfrifol - rheiny sydd â safonau cymdeithasol, moesol ac amgylcheddol cadarn a busnesau maen nhw'n credu sydd â photensial. 

Ffôn: 0800 587 4140