Skip to main content

Sut mae'r Cyngor yn gweithio

Mae Cyngor RhCT yn cynnwys 75 Aelod Etholedig / Cynghorydd sy'n pennu polisïau a chyllideb gyffredinol y Cyngor fel yr amlinellir isod. Mae prif ddyletswydd cynghorwyr i’r gymuned gyfan, ond mae gyda nhw ddyletswydd arbennig i drigolion yn eu ward. Mae Cynghorwyr yn cael eu hethol yn ystod yr Etholiad Llywodraeth Leol am dymor o 5 mlynedd neu drwy isetholiad (os oes angen) yn ystod tymor yn y swydd. Dewch o hyd i'ch Cynghorydd lleol ar-lein.

RCT-ChambersFel rheol, mae Cynghorwyr yn cyfarfod bob mis mewn cyfarfodydd ar gyfer y Cyngor llawn ac yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn ystod mis Mai bob blwyddyn. Mae cyfrifoldebau'r Cyngor llawn yn cynnwys;

  • pennu cyllideb
  • cymeradwyo'r strategaethau a'r cynlluniau sy'n rhan o'r 'fframwaith polisi'
  • cymeradwyo'r cyfansoddiad
  • penodi'r Prif Weithredwr ac uwch staff
  • mabwysiadu cynllun lwfansau i aelodau

Llywydd

Mae'r Cyngor yn ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd ym mhob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Nhw sy'n cadeirio cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer pob Blwyddyn y Cyngor y maen nhw wedi'u hethol. (Cliciwch yma i weld manylion y Llywydd)

Maer

Mae'r Cyngor yn ethol Maer a Dirprwy Faer ym mhob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Maen nhw'n gweithredu fel cynrychiolwyr cyhoeddus ar ran y Cyngor, gan hyrwyddo'r Cyngor mewn achlysuron dinesig a seremonïau.  Does gan y Maer ddim rôl weithredol wrth redeg y Cyngor a dylai fod yn anwleidyddol wrth gyflawni ei rôl. Dysgwch ragor am y Maer yma.

Cabinet

Mae'r Cyngor Llawn yn dewis Arweinydd y Cyngor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac mae ef neu hi yn penodi hyd at 9 Aelod Cabinet.  Mae'r 9 Aelod yma (gan gynnwys yr Arweinydd) yn ffurfio'r Cabinet sy'n gweithredu'n Adain Weithredol. Nhw sy'n gwneud penderfyniadau, gyda'r holl Aelodau eraill (yn amodol ar Gydbwysedd Gwleidyddol) yn cymryd rhan mewn gwaith Trosolwg a Chraffu (fel aelodau anweithredol). Darllenwch ragor am waith y Cabinet.

Pwyllgorau

Mae'r Ddeddf Llywodraeth Leol yn diffinio beth yw swyddogaethau'r Adain Weithredol, sef penderfyniadau y gall y Cabinet neu'r Adain Weithredol eu cyflwyno.  Mae unrhyw swyddogaethau sy'n weddill yn cael eu hystyried yn swyddogaethau i'r Cyngor ac mae modd i'r Cyngor Llawn neu ei Bwyllgorau eu cyflwyno.  Rhestr lawn o Bwyllgorau yma.

Craffu

Mae craffu yn dwyn yr Adain Weithredol i gyfrif am eu penderfyniadau, eu polisïau a chyflawniad gwasanaethau'r Cyngor.  Nid yw craffu'n gorff gwneud penderfyniadau. Rhagor o wybodaeth am waith craffu.

Pwyllgorau Rheoleiddio

Mae Pwyllgorau Rheoleiddio yn trafod materion Cynllunio (Rheoli Datblygu) a Thrwyddedu.  Mae rhagor o fanylion mewn perthynas â phroses gynllunio'r Cyngor i'w gweld yma

Cyfansoddiad y Cyngor

Mae'r Cyngor yn cael ei lywodraethu drwy gadw at gyfansoddiad. Mae'r cyfansoddiad yn darparu gwybodaeth am reolau gweithdrefn yn ogystal â Chod Ymddygiad i Aelodau. Mae'n rhaid i bob Aelod gadw at y Cod Ymddygiad. Darllenwch y Cyfansoddiad yma.

Rydyn ni'n gwneud y canlynol wrth gynnal pob cyfarfod:

  • cyhoeddi agenda sy'n nodi pryd a ble y cynhelir y cyfarfod a pha eitemau fydd yn cael eu trafod
  • cyhoeddi adroddiad sy'n cynnig argymhellion i'r cynghorwyr, a rhoi cyfle i gytuno neu anghytuno â'r argymhellion
  • cyhoeddi cofnodion y cyfarfod, sy'n cynnwys yr holl benderfyniadau a wnaed

Mae modd i chi gymryd rhan yn ein cyfarfodydd fel a ganlyn:

Bydd ein strategaeth cyfranogiad y cyhoedd yn darparu rhagor o fanylion am sut y gallwch chi gymryd rhan.