Skip to main content

EICH GWYBODAETH, EICH HAWLIAU - TROSOLWG

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi

Mae crynodeb o'ch prif hawliau isod. Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â phob hawl drwy glicio ar y dolenni ym mhob adran.

Hawl i gael gwybod

Mae'r hawl yma'n amlinellu pa wybodaeth y dylai'r Cyngor ei rhannu â chi pan fyddwn ni'n casglu'ch gwybodaeth bersonol ac yn ei defnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i gael gwybod

Hawl i weld gwybodaeth

Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i'r Cyngor os oes ganddo wybodaeth bersonol amdanoch chi ac at ba ddiben y mae e'n defnyddio'r wybodaeth yma, yn ogystal â gwneud cais am gopi o'r wybodaeth yma. 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Hawl i gywiro gwybodaeth anghywir

Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i'r Cyngor gywiro eich gwybodaeth bersonol os yw hi'n anghywir neu'n anghyflawn. 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i gywiro gwybodaeth

Hawl i ddileu gwybodaeth

Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i'r Cyngor ddileu eich gwybodaeth bersonol os does dim rheswm digonol dros barhau i'w defnyddio. Dydy'r hawl yma ddim yn ddiamod, ac mae hi ond yn gymwys o dan amgylchiadau penodol.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i ddileu gwybodaeth

Hawl i gyfyngu ar sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio

Mae hyn yn rhoi hawl i chi ofyn i'r Cyngor atal eich gwybodaeth bersonol neu roi'r gorau i'w defnyddio hi os bydd hyn yn peri niwed a straen sylweddol a diangen i chi. Dydy'r hawl yma ddim yn ddiamod, ac mae hi ond yn gymwys o dan amgylchiadau penodol.

 I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i gyfyngu ar sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio

Hawl i gludo gwybodaeth

Mae'r hawl yma yn eich galluogi chi i ofyn i'r Cyngor am gopi electronig o'ch gwybodaeth mewn modd darllenadwy, a hynny fel bod modd i chi ei rannu â sefydliad neu ddarparwr gwasanaeth arall. Mae'r hawl i gludo gwybodaeth ond yn gymwys o dan rai amgylchiadau penodol.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i gludo gwybodaeth

Hawl i wrthod gadael i'r Cyngor ddefnyddio eich gwybodaeth

Mae'r hawl yma yn eich galluogi chi i wrthod gadael i'r Cyngor brosesu eich gwybodaeth bersonol o dan amgylchiadau penodol.

 At ddibenion marchnata uniongyrchol

  • Pan gaiff yr wybodaeth ei phrosesu yn seiliedig ar fudd gwirioneddol neu gyflawni tasg er budd y cyhoedd / gweithredu awdurdod swyddogol*
  • Proffilio*
  • Dibenion gwaith ymchwil*

 *Dydy'r hawl yma ddim yn ddiamod, ac eithrio mewn perthynas â dibenion marchnata uniongyrchol.

 I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i wrthod gadael i'r Cyngor ddefnyddio eich gwybodaeth

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio.

Mae'r hawl yma yn eich galluogi chi (o dan rai amgylchiadau) i wrthod gadael i'r Cyngor wneud penderfyniadau sylweddol amdanoch chi pan fo'r penderfyniadau hynny yn gwbl awtomatig heb unrhyw fewnbwn gan unigolyn.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio