Skip to main content

Asesiadau Gwasanaethau Oedolion

Hysbysiad Preifatrwydd mewn perthynas â Gwasanaethau i Oedolion yn prosesu data personol at ddibenion asesu a/neu gwasanaethau ailalluogi.

Ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n esbonio sut bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ('CBSRhCT', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') eich gwybodaeth bersonol (neu 'data') i gynnal eich asesiad ac i ddarparu gwasanaethau i chi.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei phrosesu.

Er ein bod ni wedi ceisio gwneud yr hysbysiad preifatrwydd yma mor glir a chryno â phosibl, mae'n bosibl y bydd y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu'n amrywio yn dibynnu ar natur eich asesiad a'r rheswm drosto, a'r cymorth rydyn ni'n ei ddarparu i chi.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd yma ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd diogelu data cyffredinol y Cyngor. Mae modd dod o hyd i'r hysbysiad ar wefan y Cyngor: www.rctcbc.gov.uk/diogeludata

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol rydyn ni'n eu prosesu, oni nodir yn wahanol. Mae hyn yn cynnwys y data personol sydd wedi'u prosesu gan ein staff ni. Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Sut i gysylltu â ni ynglŷn â materion diogelu data neu bryderon ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Hoffech chi drafod unrhyw faterion sydd yn yr hysbysiad preifatrwydd yma? E-bostiwch y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion:

Fel arall, mae modd i chi e-bostio Swyddog Diogelu Data y Cyngor:

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu’r categorïau canlynol o ddata personol i gyflawni ein swyddogaethau statudol sy’n ymwneud â'ch asesiad;

Data personol sy'n ymwneud a chi:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Manylion eich meddyg teulu
  • Unrhyw gyflyrau iechyd/meddygol sy'n cael effaith ar y cymorth sydd ei angen arnoch chi
  • Manylion am eich anghenion gofal a chymorth a sut y dylid diwallu'r rhain

Data personol sy'n ymwneud â theulu/ffrindiau

  • Eu henwau a manylion cyswllt
  • Eu perthynas â chi

Os byddwch chi'n rhoi gwybodaeth i ni am eich teulu a ffrindiau fel bod modd cysylltu â nhw mewn argyfwng, er enghraifft, sicrhewch eich bod wedi gofyn am eu cydsyniad i rannu'u data â ni a'u bod yn deall y byddwn ni'n cadw eu manylion ar ein cronfa ddata.

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu data personol er mwyn cynnal asesiad statudol o'ch anghenion er mwyn darparu gwasanaethau ail-alluogi ar eich cyfer. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Asesiad Gofal Cymdeithasol
  • Asesiad Galluedd Meddyliol
  • Cynllunio ac adolygu gofal a chymorth
  • Cynllunio Gofal a Thriniaeth 
  • Comisiynu gofal a chymorth
  • Gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys diogelu
  • Gofal Cymdeithasol

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

Yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), dyma ein sail cyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol er mwyn cynnal asesiad statudol o'ch anghenion ac i ddarparu gwasanaethau ailalluogi ar eich cyfer;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6 (c) – gwaith prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Tasg Gyhoeddus Erthygl 6 (e) – gwaith prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Gofal Iechyd a Chymdeithasol Erthygl 9 (h) – gwaith prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol.

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan yr unigolion neu'r sefydliadau canlynol:

  • Chi
  • Eich cynhaliwr
  • Aelodau teulu neu ffrindiau sy'n eich helpu chi
  • Eich gweithiwr cymdeithasol
  • Gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, e.e. meddygon, therapyddion galwedigaethol
  • Sefydliadau trydydd parti, er enghraifft, darparwyr gofal cartref, darparwyr cartrefi gofal, awdurdodau lleol eraill ac ati

Gyda phwy byddwn ni'n rhannu eich data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu eich data personol â'r unigolion a sefydliadau canlynol er mwyn cynnal eich asesiad a darparu gwasanaethau ail-alluogi ar eich cyfer.

Pwy

Diben

Bwrdd Iechyd Lleol gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys rhanbarthol, staff ysbytai, seiciatryddion a ffisiotherapyddion.

Er mwyn darparu'r gofal a chymorth sydd eu hangen

Darparwyr gofal yn y cartref, mewnol ac allanol

Er mwyn darparu'r gofal a chymorth sydd eu hangen yn eich cartref

Darparwyr cartrefi gofal, mewnol ac allanol

Er mwyn darparu'r gofal a chymorth sydd eu hangen arnoch chi o fewn lleoliad cartref gofal

Yr Heddlu

Dyletswydd i rannu unrhyw bryderon yn ymwneud â diogelwch neu les person agored i niwed

Y Llysoedd

Er mwyn darparu'r gofal a chymorth sydd eu hangen

Darparwyr Tai

Er mwyn darparu'r gofal a chymorth sydd eu hangen yn eich cartref

Darparwyr y 3ydd Sector

Er mwyn darparu'r gofal a chymorth sydd eu hangen

Sefydliadau rydyn ni wedi'u comisiynu i gynnal gwaith ar ein rhan

Er mwyn darparu'r gofal a chymorth sydd eu hangen

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ran rheolwr. Mae'r Cyngor yn defnyddio proseswyr data sy'n darparu gwasanaethau i ni. Dyma’r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio er mwyn asesu eich anghenion a darparu gwasanaethau ailalluogi ar eich cyfer:

  • Cyflenwyr systemau TG cyffredinol

Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Am ba mor hir byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw data personol am

Cofnod

Darpariaeth statudol

Cyfnod cadw'r wybodaeth

Statudol

 

 

7 mlynedd ar ôl i unrhyw waith gofal cymdeithasol ddod i ben a 10 mlynedd ar gyfer cofnodion iechyd meddwl

Cynllun Gofal a Chymorth neu Gynllun Gofal a Thriniaeth

 

7 mlynedd ar ôl i unrhyw waith gofal cymdeithasol ddod i ben a 10 mlynedd ar gyfer cofnodion iechyd meddwl

Adolygu

 

7 mlynedd ar ôl i unrhyw waith gofal cymdeithasol ddod i ben a 10 mlynedd ar gyfer cofnodion iechyd meddwl

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

O dan gyfraith diogelu data, mae hawliau gyda chi y mae angen i ni eich gwneud chi'n effro iddyn nhw. Mae'r hawliau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu eich data personol.

Eich hawl i weld eich data personol

Mae'r hawl gyda chi i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. Mae'r hawl yma'n berthnasol ar bob adeg. Mae rhai eithriadau, sy'n golygu efallai na fyddwch chi'n derbyn yr holl ddata rydyn ni'n eu prosesu bob amser. Mae modd i chi ddarllen rhagor am yr hawl yma ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Eich hawl i'ch data gael eu cywiro 

Mae'r hawl gyda chi i ofyn i ni gywiro data personol sy'n anghywir yn eich barn chi.  Hefyd, mae gyda chi'r hawl i ofyn i ni gwblhau data sy'n anghyflawn yn eich barn chi. Mae'r hawl yma'n berthnasol ar bob adeg. Mae modd i chi ddarllen rhagor am yr hawl yma ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Eich hawl i gael eich data wedi'u dileu

Mae'r hawl gyda chi i ofyn i ni ddileu eich data personol mewn rhai amgylchiadau  Mae modd i chi ddarllen rhagor am yr hawl yma ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Eich hawl i gyfyngu ar sut mae sefydliadau'n defnyddio'ch data 

Mae'r hawl gyda chi i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau. Mae modd i chi ddarllen rhagor am yr hawl yma ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Eich hawl i wrthwynebu'r defnydd o'ch data 

Mae'r hawl gyda chi i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau. Mae modd i chi ddarllen rhagor am yr hawl yma ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Eich hawl i drosglwyddo data

Mae hyn ond yn berthnasol i ddata personol rydych chi wedi eu rhoi i ni. Mae'r hawl gyda chi i ofyn i ni drosglwyddo'r data personol rydych chi wedi'u rhoi i ni o un sefydliad i'r llall neu eu rhoi i chi. Mae'r hawl yma ond yn berthnasol os ydyn ni'n prosesu'r data personol yn seiliedig ar eich caniatâd neu o dan ymrwymiad i gontract, neu wrth drafod derbyn contract, a bod y prosesu'n awtomataidd. Mae modd i chi ddarllen rhagor am yr hawl yma ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Does dim rhaid i chi dalu am arfer eich hawliau. Mae mis gyda ni i ymateb i'ch cais o'r dyddiad y caiff eich cais ei ddilysu. Mae modd i ni ymestyn y cyfnod yma am ddau fis arall os yw'r cais yn gymhleth neu os byddwn ni'n derbyn nifer o geisiadau gennych chi.   

Eich hawl i wneud cwyn ynghylch diogelu data 

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Os hoffech chi wneud cwyn ffurfiol mae modd i chi wneud hynny drwy ein polisi cwynion. 

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data, ond rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn y lle cyntaf.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:                       

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk