Skip to main content

Mannau Gwefru Cerbydau Trydan Clenergy EV Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Rheoli Mannau Gwefru Cerbydau Trydan Clenergy EV.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Rheoli Mannau Gwefru Cerbydau Trydan Clenergy EV.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw’r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei brosesu.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ynni a Lleihau Carbon:

Drwy e-bostio: GwefruCerbydauTrydan@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 281186

Neu drwy lythyr i: Ynni a Lleihau Carbon, Eiddo'r Cyngor, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar. CF45 4UQ

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i hyrwyddo a hwyluso rhwydwaith gwefru eang trwy wella darpariaeth mannau gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae cwmni Clenergy EV wedi'i benodi i ddarparu System Rheoli Mannau Gwefru Cerbydau Trydan i'r Cyngor.

Bydd y rhan fwyaf o fannau gwefru sy'n cael eu darparu'n cael eu defnyddio ar gyfer cerbydau'r Cyngor, ond bydd ambell un ohonyn nhw ar gael i aelodau o staff ac aelodau'r cyhoedd.

Bydd cerbydau fflyd y Cyngor yn derbyn Cerdyn Adnabod Amledd Radio (RFID) sydd wedi'i gysylltu â'r car er mwyn defnyddio'r mannau gwefru.

Bydd rhaid i staff ac aelodau'r cyhoedd lawrlwytho ap gwefru Clenergy EV a chreu cyfrif.

Mae mannau gwefru Clenergy EV yn defnyddio System Leoli Fyd-eang (GPS) i olrhain lleoliad y cerbyd. Mae modd cysylltu'r wybodaeth yma â gyrrwr y cerbyd.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol at ddibenion y System Mannau Gwefru Cerbydau Trydan.

Cerbydau'r Fflyd

  • Cerdyn Adnabod Amledd Radio
  • Rhif Cofrestru'r Cerbyd Fflyd

Aelodau'r cyhoedd/staff

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cod Post
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Manylion ariannol

Meddalwedd Leoli Fyd-eang (GPS)

Mae modd cysylltu gwybodaeth sy'n cael ei chasglu gan ddefnyddio GPS â gyrrwr y cerbyd. Felly bydd olrhain GPS ar gerbydau yn casglu'r data personol canlynol sy'n ymwneud â'r gyrrwr yn anuniongyrchol:

  • Lleoliad y mannau gwefru a'r gyrrwr
  • Pa mor hir cafodd y cerbyd ei wefru a'r ffi cafodd ei dalu

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu'r data personol i reoli'r Mannau Gwefru Cerbydau Trydan. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Darparu cardiau Cerdyn Adnabod Amledd Radio i gerbydau fflyd y Cyngor er mwyn gwefru cerbydau trydan mewn sawl lleoliad.
  • Darparu ap gwefru Clenergy EV i aelodau'r cyhoedd/staff er mwyn defnyddio'r mannau gwefru a thalu amdanyn nhw.
  • Rheoli taliadau sy'n cael eu derbyn trwy ap gwefru Clenergy EV.
  • Rheoli'r broses o osod, comisiynu a chynnal a chadw mannau gwefru cerbydau trydan ac isadeiledd y Cyngor.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Contract - Erthygl 6(1)(b) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract y mae testun y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau gweithredu ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract.

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i; 

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Rydyn ni'n casglu data yn uniongyrchol gan System Rheoli Mannau Gwefru Cerbydau Trydan Clenergy EV

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae gyda ni fynediad at System Rheoli Mannau Gwefru Cerbydau Trydan Clenergy EV ac mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth â'r adrannau mewnol canlynol:

Pwy

Diben

Y Garfan Ynni a Lleihau Carbon

Rheoli'r broses o osod, comisiynu a chynnal a chadw mannau gwefru cerbydau trydan y Cyngor

Gwasanaethau Cerbydau'r Cyngor

Rheoli'r mannau gwefru o ddydd i ddydd

 

Adran Ariannol

Er mwyn rheoli taliadau sydd wedi'u cronni trwy ddefnyddio'r mannau gwefru

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. 

Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Rydyn ni wedi penodi Clenergy EV i ddarparu mannau gwefru.

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion y System Mannau Gwefru Cerbydau Trydan am:

Faint o amser

Rheswm

7 mlynedd

 

Angen busnes yn unol â gofynion ariannol

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.   Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Ynni a Lleihau Carbon yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • Ffôn: 01443 281186
  • Neu drwy lythyr i: Ynni a Lleihau Carbon, Eiddo'r Cyngor, CBS Rhondda Cynon Taf, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar. CF45 4UQ

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk