Skip to main content

Fforwm Mynediad Lleol Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gweithwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Fforwm Mynediad Lleol Hawliau Tramwy Cyhoeddus  

 

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Fforwm Mynediad Lleol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Lleol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â Charfan y Fforwm Mynediad Lleol:

Drwy e-bostio: FfMLl@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 562240

Neu trwy ysgrifennu at: Adran Cefn Gwlad, Uned 7C, Parc Busnes Hepworth, Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9DX

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

A ninnau'n Awdurdod Lleol, mae gofyn i ni sefydlu Fforwm Mynediad Lleol yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Mae Fforymau Mynediad Lleol yn cynnwys gwirfoddolwyr sy'n gwneud cais i fod yn aelod ac sy'n cael eu penodi am gyfnod o 3 blynedd.

Mae gofyn i aelodau fynychu'r Fforwm o leiaf 2 waith y flwyddyn er mwyn cynorthwyo'r Cyngor i wella mynediad cyhoeddus i dir at ddibenion hamdden.  Yn ogystal â hynny, mae'r Fforwm yn cynorthwyo gyda gweithredu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau data canlynol er mwyn penodi aelodau'r Fforwm Mynediad Lleol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Data iechyd (er mwyn nodi unrhyw broblemau mynediad cyn mynychu'r fforwm)

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu data personol i benodi aelodau'r Fforwm Mynediad Lleol.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i benodi aelodau'r Fforwm Mynediad Lleol yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6 (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd - Erthygl 9 (2) (g) - prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
  • Atodlen 1, Rhan 2, Paragraff 6 Deddf Diogelu Data 2018

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i; 

  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Rydyn ni'n casglu data yn uniongyrchol gan ymgeiswyr sy'n gwneud cais i fod yn aelod o'r Fforwm Mynediad Lleol.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau canlynol:

Pwy

ddiben

Aelodau'r Fforwm Mynediad Lleol

Rydyn ni'n rhannu eich cyfeiriad e-bost ag aelodau eraill y fforwm er mwyn hwyluso cyfathrebu ymysg yr aelodau

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw data personol ymgeiswyr am y cyfnodau canlynol:

Hyd amser

Rheswm

Ymgeiswyr llwyddiannus - 3 blynedd ar ôl penodi

 

Ymgeiswyr aflwyddiannus - 3 blynedd ar ôl ymgeisio

Anghenion busnes 

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â Charfan y Fforwm Mynediad Lleol yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: FfMLl@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 562240
  • Neu trwy ysgrifennu at: Adran Cefn Gwlad, Uned 7C, Parc Busnes Hepworth, Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9DX

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk