Skip to main content

Rhondda Cynon Taf Council - Scrutiny Blog

Y Cynghorydd Craig Middle - Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant - Blog y Cadeirydd

Wedi ei bostio ar 13/04/23

Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ym mis Mai 2022, roeddwn i'n falch iawn o gael fy ethol yn Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant.

Dros y misoedd diwethaf, mae ein Pwyllgor ni wedi chwarae rhan hanfodol yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau, a thrwy weithredu fel ffrind beirniadol i'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau ynghyd ag ychwanegu gwerth yng nghyd-destun llywio cyfeiriad polisi yn y meysydd hynny o dan ein cylch gorchwyl.

Mae'r Pwyllgor wedi magu cryn hyder a chryfder dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag Aelodau'n cyd-dynnu'n un yn ein ffordd o fynd ati i graffu ar ddarpariaethau a chynlluniau'r Cyngor mewn perthynas â'i agenda ar gyfer Materion Newid Hinsawdd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Ffyniant.

Derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor raglen hyfforddi eang ar faterion craffu ym mis Mehefin a Gorffennaf 2022 a chafodd ein cyfarfod pwyllgor cyntaf ei gynnal ar 29 Medi 2022. Yn ystod y cyfarfod yma, ymgynghorwyd ag Aelodau yn rhan o Ymgynghoriad Arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2022 ac Ymgynghoriad y Cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth 2022 i 2027. Cafodd y ddau ymgynghoriad eu cynnal gan Lywodraeth Cymru a chafodd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru eu gwahodd i gyfarfod y Pwyllgorau Craffu er mwyn darparu trosolwg o'r wybodaeth gefndirol mewn perthynas â'r ddau ymgynghoriad. Manteisiodd Aelodau'r Pwyllgor ar y cyfle yma i sicrhau bod llesiant cymunedau lleol a'u trigolion yn cael ei ystyried, a bod gwasanaethau trafnidiaeth cyfleus a chyflym ar gael i bawb am bris teg, fel bod modd annog pobl i'w defnyddio. Yn unol â bwriad y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg, cytunodd yr Aelodau y byddai cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn golygu y bydd teithwyr yn gweld a chlywed yr iaith Gymraeg yn fwy aml. Cytunodd Aelodau y byddai hyn yn cyfrif fel argymhelliad allweddol i'w rannu â Llywodraeth Cymru. Rydw i'n falch iawn o ddweud bod y Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant wedi chwarae rôl hollbwysig fel ymgynghorai yn rhan o waith pwysig iawn a fydd yn cael effaith ar llesiant trigolion RhCT.

Cafodd Aelodau'r Pwyllgor gyfle i graffu ar gyflawniad y Cyngor o ran materion Ailgylchu. Ar 26 Hydref 2022, cafodd Aelodau gyfle i dderbyn cyflwyniad PowerPoint gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Gofal y Strydoedd mewn perthynas â chynnydd y Cyngor hyd yn hyn yn y maes yma. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y bydd angen gweithredu ymyraethau radical er mwyn cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru (70% erbyn 2024/25) a'r targedau a gafodd eu pennu'n rhan o Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor (80% erbyn 2025) yn ogystal ag ystyried pob opsiwn posibl. Mae'n hanfodol ein bod ni fel Cyngor yn cwrdd â'r targedau yma ac rydw i'n falch bod gan Aelodau'r Pwyllgor gyfle i drafod dulliau pellach y mae modd i'r Cyngor eu mabwysiadu i'n helpu ni i gyflawni'r newidiadau pwysig yma wrth symud ymlaen. Roedd Aelodau wedi cynnig sawl awgrym, gan gynnwys gosod biniau ailgylchu ar y Stryd Fawr a chynllun ar gyfer casglu gwastraff gwyrdd i'w gompostio a fydd hefyd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd fynd i gasglu'r compost am ddim i'w ddefnyddio. Roedd Aelodau'r Pwyllgor hefyd wedi ymweld â safle ailgylchu Bryn Pica ar ddau achlysur ac roedd effeithlonrwydd y gwasanaeth a'r cyfleusterau addysg wedi creu argraff ar Aelodau'r Pwyllgor. Byddwn i'n annog pob trigolyn i ymweld â'r ganolfan yma i ddysgu sut mae ein gweithredoedd fel trigolion ac arweinwyr y gymuned yn hollbwysig wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd a chadw'n strydoedd a'n cymunedau'n ddiogel ac yn lân. Rydw i'n falch iawn o nod y Pwyllgor yma i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd ac mae Aelodau'r Pwyllgor yn frwdfrydig ac wedi ymrwymo i'r gwaith.

Mae cyfarfodydd dilynol y Pwyllgor wedi rhoi cyfle i graffu ar feysydd gwaith pwysig megis menter terfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru. Ar 16 Ionawr 2023, derbyniodd Aelodau gyngor ar gynnig Llywodraeth Cymru i leihau'r terfyn cyflymder cenedlaethol o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru, ac effaith bosibl y cynnig ar drigolion RhCT. Mae'n bosibl y bydd y cynllun newydd yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a bysiau, gan arwain at amseroedd teithio hirach a diwygio amserlenni gyda chwmnïau'n darparu gwasanaethau neu gerbydau ychwanegol i gynnal y cytundeb lefel gwasanaeth. Cafodd y pryder yma'i godi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chytunodd Aelodau y dylai pryderon y Pwyllgor gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru fel bod modd nodi unrhyw effaith anrhagweledig a bod cyllid LlC ar gyfer lliniaru'r effaith yn cael ei ystyried cyn gweithredu'r newid.

Unwaith eto, rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i wneud Rhondda Cynon Taf yn le gwell ar gyfer ei drigolion. Byddwn ni'n parhau i gyflawni'n rôl hollbwysig fel Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant y Cyngor gan ganolbwyntio ar faterion sy'n effeithio ar gymunedau lleol a phryderon y trigolion rydyn ni'n eu cynrychioli. Mae'r Cyngor yn chwarae ei ran i fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd ac wedi nodi ei dargedau a'i ymrwymiadau yn ei Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd 2022–25 – Hinsawdd Ystyriol. Wrth symud ymlaen, rydw i'n gobeithio y byddwn ni'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Cyngor i gyflawni'i ymrwymiad a'r targedau sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Newid Hinsawdd, gan gynnal safon uchel y gwasanaethau rheng flaen ar gyfer trigolion RhCT.

Wedi ei bostio ar 13/04/23