Skip to main content

Rhondda Cynon Taf Council - Scrutiny Blog

Y Cynghorydd Jill Bonetto - Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned - Blog y Cadeirydd

Wedi ei bostio ar 27/04/2023

A minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned newydd, rydw i'n falch o gael cyfle i ysgrifennu'r blog yma a thynnu sylw at y gwaith rydyn ni wedi'i gyflawni eleni, a'r dulliau rydyn ni wedi'u mabwysiadu i gynnal proses herio a chraffu adeiladol, gan hefyd cadw mewn cof yr hyn sy'n bwysig i bobl leol yn ein cymunedau. 

Yn dilyn ailstrwythuro'r Pwyllgorau Craffu ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ym Mai 2022, mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ganolbwyntio ar y gwasanaethau hynny sy'n cael eu darparu gan y Cyngor sy'n cefnogi Iechyd a Lles ein cymunedau. Mae'r Pwyllgor wedi trafod gwasanaethau cymdeithasol i oedolion, yn ogystal â'r holl ffactorau eraill sy'n cyfrannu at Iechyd a Lles y Fwrdeistref Sirol, megis Gwasanaethau Hamdden a Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd. Mae'r Awdurdod wedi tueddu defnyddio dull thematig yn ei drefniadau craffu newydd, mae'r Pwyllgor hefyd yn gweithredu fel Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn y Cyngor (a hynny yn unol ag Adran 19 a 20 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006).

Roedd Aelodau'r Pwyllgor wedi derbyn hyfforddiant craffu manwl ym mis Mehefin a Gorffennaf 2022 cyn ein cyfarfod cyntaf ym mis Hydref 2022. Yn ystod y cyfarfod yma, roedden ni wedi trafod y Rhaglen Waith (ddrafft) ar gyfer y dyfodol yn ogystal â manteisio ar y cyfle i dderbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2021/22. Roedd yr adroddiad yma'n pennu sut gyflawnodd y Cyngor ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan gynnwys gwerthuso cyflawniad a nodi blaenoriaethau wrth symud ymlaen.  Roedd y Pwyllgor wedi nodi faint o waith y mae'r gwasanaeth wedi'i wneud ac wedi diolch i'r staff am eu gwaith caled a'u hymrwymiad, gan gydnabod y pwysau parhaus sydd ar y gwasanaeth. Felly mae'r gwasanaeth yn parhau i flaenoriaethu gweithio tuag at gyflawni dulliau cynaliadwy fyddai'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau dros gyfnod hir dymor. 

Roedd y Pwyllgor hefyd wedi croesawu cyfle i gyflawni gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â Strategaeth Trawsnewid Gwasanaeth Preswyl y Gwasanaethau i Blant sy'n pennu gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth preswyl i blant - hynny yw, erbyn 1 Ebrill 2027, bydd pob person ifanc sydd angen gofal preswyl yn RhCT yn derbyn gofal mewn lleoliad o safon uchel yn agos at ei gartref. Bydd modd i'r bobl ifainc ffynnu yn y lleoliad, gan dderbyn gofal gan garfan sefydlog sydd â chefnogaeth gadarn. Bydd y garfan yn cynnwys staff medrus sydd â chymeriad gwydn. Cawsom wybod ei bod hi wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf nad yw'r ddarpariaeth breswyl sy'n cael ei darparu gan sefydliad allanol wedi darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen i fodloni anghenion newidiol y bobl ifainc sy'n derbyn gofal a dydy'r systemau comisiynu ddim wedi bod yn effeithiol. Yn dilyn trafodaeth fanwl am yr heriau sy'n cael eu hwynebu, roedd y goblygiadau sylweddol yn glir i ni a chafodd y strategaeth ei chyflwyno i Aelodau gan fod angen cynyddu'r capasiti a sicrhau bod hynny'n cael ei wneud yn gyflym ac yn agosach i'r cartref, fel bod plant a phobl ifainc yn debygol o gael deilliannau gwell, yn ogystal â derbyn cymorth gwell yn eu cymunedau.  Cytunodd Aelodau y dylai diweddariad pellach gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ystod y 6-12 mis nesaf, bydd hyn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr ystod o ddarparwyr a'r goblygiadau ar gyfer pobl ifainc.

Ym mis Ionawr eleni, roedden ni wedi craffu ar y cymorth y mae'r Cyngor yn ei gynnig i ffoaduriaid, gwladolion Wcráin a cheiswyr lloches yn RhCT. Roedden ni wedi edrych ar yr holl waith y mae'r Cyngor a'i sefydliadau partner wedi'i wneud er mwyn ymateb i bob cynllun ailsefydlu mewn modd cadarnhaol ac effeithiol. Roedden ni hefyd wedi clywed gan ffoadur o Affganistan ynglŷn â'i brofiad fel ffoadur yng Nghymru. Rydyn ni'n cefnogi'r gwaith sy'n cael ei gynnal gan y garfan ailsefydlu ar gyfer ceiswyr lloches y mae disgwyl iddyn nhw ddod i RCT a byddwn ni'n parhau i fonitro hyn i sicrhau bod y broses yma'n cael ei chynnal mewn modd parchus. Roedden ni'n awyddus i sicrhau bod y strategaeth cydlyniant cymunedol mor gryf â phosibl i sicrhau bod gan y bobl fwyaf agored i niwed fynediad i'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw.

Yn ystod ein cyfarfod ym mis Ionawr, roedden ni wedi cael cyfle i graffu ar Bolisi Dyrannu Tai Rhondda Cynon Taf (RhCT). Rhoddodd hyn gyfle i'r Pwyllgor ddeall sut mae'r polisi yn gweithio ac i ba raddau y mae'r polisi yn helpu'r Cyngor a'i bartneriaid i fodloni anghenion tai'r bobl sy'n byw yn RhCT. Roedden ni wedi trafod argaeledd tai o faint digonol a dyraniadau tai lle mae pobl yn rhannu tŷ. Roedden ni'n falch o glywed bod y Polisi Dyrannu Tai yn cael ei adolygu a bydd manylion llawn y polisi yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor er mwyn i Aelodau'r Pwyllgor graffu ar fanylion y polisi. Mae'r pwyllgor yma'n cydnabod pa mor bwysig yw hi i gael tai da a'r effaith y mae modd i hyn ei chael ar bobl ac rydyn ni'n croesawu'r cyfle i barhau i weithio ar y pwnc yma.

Rydyn ni'n parhau i graffu ar waith datblygu model gweithredu newydd ar gyfer y Gwasanaethau Oriau Dydd a'r Strategaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn RhCT. Ym mis Mawrth, cawsom gyfle i gyflwyno sylwadau ar ddeilliannau'r ymgynghoriad ymgysylltu a'r gwaith cydgynhyrchu sydd wedi'i gynnal hyd yn hyn yn rhan o brosiect cynhwysfawr 'Fy Niwrnod i, Fy Newis i' y Gwasanaeth Anableddau Dysgu. Roedden ni wedi nodi'r gwaith arbennig gafodd ei wneud yn rhan o'r broses ymgynghori ac roedden ni'n falch o weld bod y broses wedi cael ei nodi fel enghraifft wych o gydgynhyrchu gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth. Cafodd yr ymatebion gan unigolion ag anableddau dysgu, rhieni a chynhalwyr, a staff effaith drawiadol ar y Pwyllgor gan gadarnhau ein barn ni, hynny yw bod angen newid y ffordd ymlaen o ran y gwasanaeth a'r hyn sy'n cael ei gynnig er mwyn cefnogi unigolion. Rydyn ni'n cydnabod gwaith parhaus y prosiect ac yn croesawu cyfleoedd i gynnal gwaith cyn y cam craffu yn y dyfodol mewn perthynas â'r strategaeth ddrafft a chynlluniau gweithredu cysylltiedig.

Eleni rydyn ni wedi arloesi'r ffordd ar gyfer y 'normal newydd' o ran sut mae modd i bwyllgorau craffu weithredu gan ddefnyddio dull hybrid sy'n cynnig rhagor o gyfleoedd i gynnwys Aelodau a llunio deilliannau pellgyrhaeddol. Mae modd i ni fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a theimlo'n falch o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y flwyddyn o'n blaenau, byddwn ni'n parhau gyda'n rôl hollbwysig gan ganolbwyntio ar faterion a gwasanaethau sy'n effeithio ar gymunedau lleol.

Wedi ei bostio ar 27/04/2023