Cyn i Gynghorwyr edrych ar yr adborth gawson ni yn dilyn ein proses ymgynghori ar y gyllideb, rydw i wedi bod yn ymgyfarwyddo â'r sylwadau oddi wrth drigolion cyn i'r Cabinet benderfynu ar ein blaenoriaethau gwario ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Er gwaethaf yr heriau ariannol anodd rydyn ni'n parhau i'w hwynebu, credaf ei bod hi'n hynod bwysig i gael y cyfryw flaenoriaethau a dyheadau ar gyfer ein Sir.  A diolch i'n trefnau cadarn ar gyfer rheoli arian, mae modd inni dargedu buddsoddiad 'unwaith-ac-am-byth' ar gyfer prosiectau a mentrau a all wneud gwahaniaeth o ddifrif.

"A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n buddsoddi'n sylweddol yn ein seilwaith trafnidiaeth a'n priffyrdd. Mae hynny'n cynnwys buddsoddi £26.5 miliwn yn rhan o raglen tair blynedd ehangach BuddsoddiadRhCT gwerth £200 miliwn. Mae hynny'n ychwanegol at y £53 miliwn rydyn ni eisoes wedi'i fuddsoddi ers 2011. Felly, erbyn 2018/19 byddwn ni wedi buddsoddi dros £79.5 miliwn yn y meysydd allweddol yma. Mae'r buddsoddiad yma'n bwysig dros ben i ddiogelu'n seilwaith ar gyfer y dyfodol, ac mae'n rhywbeth y mae trigolion wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw eisiau inni roi sylw iddo.

Diolch i'r sylfeini ariannol cadarn rydyn ni wedi'u gosod, mae cyfle gyda ni i fuddsoddi. Dw i ddim yn gwybod am unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru sy'n buddsoddi gymaint, nac yn yr un ffordd. "Yn y sefyllfa ariannol bresennol rydyn ni'n parhau i fod yn uchelgeisiol ynglŷn â gwella'r seilwaith sy'n cynnal ein cymunedau a'n busnesau ac sy'n denu buddsoddiad newydd. 

Yn dilyn sesiynau ymgynghori'r Arweinydd, rwy'n gwybod yn llwyr bod y buddsoddiad yn cael croeso brwd.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod yr hyn mae'r Cyngor yn ceisio'i gyflawni trwy fynd ati fel hyn; dywedodd pawb mai dyma'r ffordd o fynd ati y bydden nhw eisiau inni barhau â hi. Mae tudalennau rhaglen #buddsoddiadRhCT ar ein gwefan, www.rctcbc.gov.uk/buddsoddiadRhCT yn rhoi'r modd i bawb chwilio yn ôl côd post i weld sut mae'r arian wedi'i wario yn lleol.

Er mwyn gofalu bod hyn yn parhau, bydd angen i fi a'r Cabinet ddod i'r penderfyniadau iawn yn rhan o broses pennu'r gyllideb eleni i sicrhau bod y Cyngor ddim yn unig yn bwrw ymlaen â'i ddyheadau tymor byr ar gyfer y Sir, ond bod hefyd fodd i sicrhau bydd modd symud RhCT yn ei flaen yn y tymor hir, waeth mor anodd fydd yr heriau ariannol. Yn rhan o'r broses yma, fe geisiwn sicrhau ein bod ni'n buddsoddi yn y meysydd a'r gwasanaethau y mae trigolion eu heisiau.

Mae popeth a wnawn ni yn rhan o ddarlun ehangach yn nhermau'r dyfodol rydyn ni'n gallu ei gynnig a'i wireddu ar gyfer ein cymunedau. Dyna un o'r rhesymau pam mae'r Cabinet, heddiw, wedi cytuno i ddileu ffïoedd meysydd parcio yn y Porth, Tonypandy ac Aberpennar, ac i ostwng prisoedd yn sylweddol yn Aberdâr a Phontypridd.

Wedi ei bostio ar 18/01/17