Skip to main content

Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Mai 2024

 

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) yn cael eu hethol yn ddemocrataidd bob pedair blynedd.

Mae’r etholiad nesaf sydd wedi’i drefnu i’w gynnal ddydd Iau 2 Mai 2024.

 Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardaal heddlu De Cymru - Hysbysiad o Etholiadau 

Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio - Ardal Bleidleisio Rhondda Cynon Taf

Mae Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn gyfrifol am faterion cyffredinol yn ymwneud â chynnal yr etholiad mewn ardal benodol. Mae ei rolau'n cynnwys:

  • cysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid
  • coladu canlyniad yr etholiad ar ôl dilysu a chyfrif pleidleisiau

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi'i benodi'n awdurdod Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu arweiniol ar gyfer ardal heddlu De Cymru. Ewch i wefan Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu bwrpasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gael rhagor o wybodaeth am yr etholiad yma a’r amserlen gysylltiedig.

Y Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer RhCT yw Andrew Wilkins. Mae’r Swyddog Canlyniadau Lleol yn gyfrifol o fewn ardal bleidleisio’r Cyngor am:

  • sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu'n effeithiol
  • darpariaethau gorsafoedd pleidleisio
  • argraffu papurau pleidleisio
  • cynnal y bleidlais
  • penodi staff gorsaf bleidleisio
  • rheoli'r broses bleidleisio drwy'r post
  • dilysu a chyfrif y pleidleisiau yn eu hardal bleidleisio
  • trosglwyddo'r cyfansymiau lleol i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu

Pwy sy'n cael pleidleisio?

I fod yn gymwys i bleidleisio yn Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu rhaid i chi fod:

  • Wedi'ch cofrestru i bleidleisio Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru
  • Yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad - 2 Mai 2024
  • Yn Ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu'r Gymanwlad

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner nos, dydd Mawrth 16 Ebrill 2024.

Eisoes wedi cofrestru? Byddwch chi'n derbyn eich cerdyn pleidleisio ddiwedd mis Mawrth.

Os ydych chi fel arfer yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, bydd eich cerdyn pleidleisio yn dweud wrthoch chi ble i bleidleisio a pha amseroedd y mae'r orsaf bleidleisio ar agor ar gyfer bleidleisio. ​ Mae modd i chi hefyd chwilio ble mae eich gorsaf bleidleisio ar y dudalen gwybodaeth gorsafoedd pleidleisio.

Does dim eisiau ichi fynd â'r cerdyn pleidleisio gyda chi i fwrw pleidlais.

Rhif adnabod y pleidleiswr

Mae bellach yn ofynnol cyflwyno cerdyn adnabod â llun sy’n dderbyniol wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y mathau derbyniol o gardiau adnabod ewch i'n tudalen ID Pleidleisiwr

Pleidleisio drwy'r post

Os oes angen i chi bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad yma, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r bost, neu ganslo neu ddiwygio pleidlais drwy'r post presennol yn yr etholiad yma yw 5pm ddydd Mercher 17 Ebrill.

Rheolau newydd ar gyfer trin pleidleisiau drwy'r post

Mae rheolau newydd wedi’u cyflwyno ynghylch trin pleidleisiau drwy'r post:

  • ydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy'r post y mae modd i berson eu cyflwyno.
  • Os byddwch yn colli’r post, gallwch gyflwyno eich pleidlais bost eich hun a/neu bleidleisiau post pobl eraill yn unig yn Gwasanaethau Etholiadau yn ystod oriau swyddfa, neu mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal bleidleisio.
  • bydd dim hawl i chi gyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr eraill ynghyd â’ch pecyn chi (cyfanswm o 6)
  • os bydd person yn cyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr eraill, bydd yr holl bleidleisiau post (ac eithrio eu rhai nhw) yn cael eu gwrthod
  • bydd angen i unrhyw un sy’n cyflwyno pleidleisiau drwy'r post lenwi ffurflen ‘dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy’r post’
  • does dim modd i ni dderbyn pleidleisiau drwy'r post a adawyd yn y blwch llythyrau unrhyw swyddfeydd y Cyngor bellach
  • bydd unrhyw bleidleisiau drwy'r post sy’n cael eu gadael yn unrhyw un arall o adeiladau’r Cyngor yn cael ei gwrthod
  • rydyn ni'n argymell bod pleidleisiau drwy'r post yn cael eu dychwelyd atom drwy'r Post Brenhinol cyn gynted â phosibl cyn y diwrnod pleidleisio.​

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os hoffech chi i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad yma, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm dydd Mercher 24 Ebrill.

Ar ôl 5pm ar 24 Ebrill, os byddwch chi'n methu â phleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio, oherwydd rhesymau meddygol neu waith, efallai y bydd gennych chi hawl i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys. ​

Cysylltwch â'r garfan Gwasanaethau Etholiadol am ragor o wybodaeth.