Skip to main content

ID Pleidleisiwr

Y dyddiad cau i wneud cais am gerdyn adnabod pleidleisiwr am ddim ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a gynhelir ddydd Iau 2 Mai, yw 5pm ddydd Mercher 24 Ebrill.
O 4 Mai 2023, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Bydd hyn ond yn berthnasol i:

  • Etholiadau Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig
  • Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Is-etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig
  • Deisebau adalw

Fydd pleidleiswyr yng Nghymru ddim angen dangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau'r Senedd na mewn etholiadau cynghorau lleol.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar fathau o ID i bleidleiswyr ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Ffurfiau o ID ffotograffig a dderbynnir

Mae modd i chi ddefnyddio unrhyw un o'r ffurfiau ID ffotograffig canlynol wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Categori

Derbynnir y ddogfen

Teithio dramor

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad

Gyrru a Pharcio

  • Trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE
  • Bathodyn Glas
  • Teithio lleol
  • Tocyn mantais y bysiau ar gyfer pobl hŷn
  • Tocyn mantais y bysiau ar gyfer pobl anabl
  • Cerdyn Oyster 60+
  • Tocyn Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban
  • Cerdyn Teithio Rhatach ar gyfer pobl 60 oed a hŷn a gyhoeddir yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach ar gyfer pobl anabl a gyhoeddir yng Nghymru
  • SmartPass ar gyfer pobl hŷn a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass ar gyfer pobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon

Tystiolaeth o'ch oedran

  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)

Dogfennau eraill a gyhoeddir gan y llywodraeth

  • Dogfen mewnfudo fiometrig
  • Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddir gan wladwriaeth AEE
  • Cerdyn adnabod etholiadol a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen etholwr dienw

Dim ond un math o ID ffotograffig bydd angen i chi ei ddangos. Mae'n rhaid iddo fod yn fersiwn gwreiddiol ac nid llungopi.

ID ffotograffig nad yw’n gyfredol

Mae dal modd i chi ddefnyddio ID ffotograffig os nad yw'n gyfredol, cyn belled â bod y llun yn edrych yn debyg i chi.

Dylai'r enw ar eich ID fod yr un enw â'r enw y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i gofrestru i bleidleisio.

 Os nad oes gyda chi fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Mae modd i chi wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr rhad ac am ddim, sydd hefyd yn cael ei galw’n Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os:

  • does gyda chi ddim ID ffotograffig a dderbynnir
  • rydych chi'n ansicr a yw eich ID ffotograffig yn dal i fod yn debyg i chi
  • rydych chi'n poeni am ddefnyddio math cyfredol o ID am unrhyw reswm arall, megis defnydd marciwr rhywedd

Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Mae modd dod o hyd i wybodaeth ar sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar wefan y Comisiwn Etholiadol.