Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn y tymor canolig ac mae'n ystyried ystod o opsiynau er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid.
Mae pob un o'r 92 ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf a 3 ysgol arbennig yn darparu clybiau brecwast am ddim, ac mae pob disgybl, o'r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6, yn gymwys i'w mynychu. Mae Gwasanaethau Arlwyo Addysg y Cyngor yn cyflenwi'r staff a'r bwyd i ysgolion cynradd ac arbennig er mwyn hwyluso mynediad at glybiau brecwast am ddim.
Cynigir cyflwyno tâl am yr elfen gofal plant ychwanegol sy'n cael ei darparu yn ystod clwb brecwast, o ddechrau tymor y gwanwyn 2024.
Cynigir cyflwyno tâl o £1 y dydd. Yn seiliedig ar 190 o ddiwrnodau fesul blwyddyn, byddai'r swm yma'n cael ei dalgrynnu i lawr i £60 y tymor. Felly, y tâl fesul blwyddyn i rieni/gwarcheidwaid fyddai £180.
Cynigir peidio â chodi tâl yn achos y disgyblion hynny sydd wedi cyflwyno cais am ddarpariaeth prydau ysgol am ddim ac sy'n gymwys i'w chael.
Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar y dudalen we Cwestiynau Cyffredin ac yn adroddiad y Cabinet sydd i'w weld isod o dan yr adran dogfennau perthnasol.
Mae'r adroddiad Cabinet llawn yma.
I ddweud eich dweud, cwblhewch yr arolwg isod.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 8 Ionawr 2024.
Byddwn ni'n cynnal 3 sesiwn galw heibio lle bydd modd i chi ofyn cwestiynau i'n Swyddogion a llenwi'r arolwg.
- Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad 4 Rhagfyr 2023, 4.00pm-7.00pm
- Canolfan Hamdden Llantrisant, Llantrisant 6 Rhagfyr 2023, 12 noon-2.00pm & 4.00-7.00pm
- Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr 11 Rhagfyr 2023, 4.00pm-7.00pm
Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfodydd.
Mae modd i chi hefyd...
E-bostio ni - ymgynghori@rctcbc.gov.uk
Ysgrifennu aton ni:
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ffonio:
Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,
Rhif Ffôn: 01443 425014 rhwng 9.00am a 5.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.