Skip to main content

Rhwydweithiau Cymdogaeth

Mae Rhwydweithiau Cymdogaeth yn bartneriaethau lleol o wasanaethau'r Cyngor, sefydliadau a grwpiau lleol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau ac i ddatblygu cymunedau ymhellach. Mae Rhwydweithiau Cymdogaeth yn canolbwyntio ar Ganolfannau Cydnerthedd y Gymuned ac mae modd iddyn nhw ddylanwadu ar ddatblygiadau mewn cymunedau.

 NN Ven Diagram FINAL Welsh

 

  • Galluogi cymunedau i ddweud eu dweud am y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, y blaenoriaethau, a sut maen nhw'n cael eu trefnu a'u darparu.
  • Sicrhau bod y bobl gywir yn cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.
  • Darparu lle i bobl a phartneriaid lleol ganfod atebion i faterion lleol.
  • Rhoi cymorth i gymunedau fod yn fwy cydnerth trwy rannu sgiliau a phrofiadau pobl
  • Gwella ein cryfderau a'n hadnoddau, e.e. cyfleusterau cymunedol, grwpiau cymunedol a phobl
  • Gwella gwybodaeth, cyngor, cymorth a chefnogaeth i unigolion
  • Cynyddu cyfleoedd i gymunedau gael llais, cael eu clywed a sicrhau bod eraill yn gwrando arnyn nhw
  • Annog pobl i chwarae rhan fwy wrth newid a llunio eu cymdogaethau

Os hoffech chi wybod rhagor am Rwydweithiau Cymdogaeth yn eich ardal a sut i gymryd rhan, cysylltwch â'ch Cydlynydd Datblygu'r Gymuned lleol

Mae'r map yma'n dangos meysydd gwaith y Rhwydwaith Cymdogaeth.  Bydd gwaith trawsffiniol hefyd yn cael ei gynnal.

Community Resilience Hub and Neighbourhood Network Areas1