Mae Cyfarwyddwr 'Top DIY Tools Ltd' sy'n masnachu dan yr enw Ynyshir Stores wedi'i erlyn gan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am arddangos a gwerthu bwydydd ar ôl eu dyddiadau 'defnyddio erbyn' i swyddog yr awdurdod.
Mewn achos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 5 Gorffennaf 2023, plediodd Mr Ajaykumar Patel, cyfarwyddwr Top DIY Tools Ltd, yn euog ac roedd rhaid iddo dalu cyfanswm o £1,864.
Roedd hyn yn cynnwys dirwy o £600, costau gwerth £1024, a gordal i ddioddefwyr gwerth £240.
Daeth y trosedd i sylw'r garfan Safonau Masnach ar ôl iddyn nhw dderbyn cwyn. Yn dilyn y gŵyn roedd y garfan Safonau Masnach wedi ymweld â'r lleoliad er mwyn gwirio cydymffurfiad ym mis Mehefin 2022. Yn ystod yr ymweliad daeth y swyddog o hyd i fwydydd ar werth ar ôl eu dyddiadau 'defnyddio erbyn'. Yn y lle cyntaf roedd y swyddog wedi rhoi cyngor i'r busnes cyn ymweld â'r lleoliad unwaith yn rhagor i sicrhau doedd dim rhagor o fwydydd yn cael eu harddangos ar ôl eu dyddiadau. Yn anffodus, yn ystod yr ymweliad nesaf roedd y swyddog wedi sylwi ar fwydydd yn y cyflwr yma ar werth, ac roedd modd i'r swyddog eu prynu.
Meddai Rhian Hope, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae swyddogion Safonau Masnach yn ymateb i'r cwynion sy'n cael eu derbyn er mwyn sicrhau bod y bwydydd a'r diodydd sydd ar werth i'r cyhoedd yn ddiogel.
"Mae'r math yma o drosedd yn rhoi'r cyhoedd mewn perygl pe baen nhw'n bwyta'r bwydydd sydd ddim yn ddiogel. Mae cyfrifoldeb gan fusnesau bwyd i amddiffyn eu cwsmeriaid drwy sicrhau bod y bwydydd sydd ar werth yn addas i'w bwyta gan bobl.
Rwy'n gobeithio bod yr achos yma'n arddangos i'r cyhoedd bod y garfan Safonau Masnach yn gwneud gwiriadau, ac fe fydd y math yma o drosedd yn derbyn ymateb prydlon er mwyn sicrhau does dim risg i'r cyhoedd o fwyta bwydydd sydd ddim yn addas i'w bwyta gan bobl.
Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â safonau masnach a hawliau defnyddwyr, ewch i www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach
Wedi ei bostio ar 10/08/23