Skip to main content

Plac Glas Er Cof Am Yr Unig Brentis Gowper yng Nghymoedd y Rhondda.

KG3

Cafodd Plac Glas er cof am yr unig Gowper yng Nghymoedd y Rhondda ei ddadorchuddio'n ddiweddar ym Mhont-y-gwaith. 

21 oed oedd Keith Gregory pan ddaeth yn brentis Gowper yng nghwmni The Fernvale Brewery Co, ym Mhont-y-gwaith.  Mae Cowper yn grefftwr â chryn sgiliau a'i arbenigedd yw creu casgenni a barilau allan o bren, ymysg cistiau pren eraill.  Mae'n grefft a ddaeth i'r amlwg mwy na 4000 o flynyddoedd yn ôl, a hyd heddiw, mae'n sgil na all peiriannau ei hefelychu yn yr un modd.

Fe fu Mr Gregory'n brentis am bum mlynedd er mwyn dod yn Gowper. Wedi iddo orffen y brentisiaeth, bu iddo gymryd rhan mewn hen ddefod draddodiadol o greu hocsied (baril fawr), cyn iddo ef ei hun gael ei godi a'i wthio i mewn i gasgen, ac i naddion a llwch lli gael eu taflu drosto'n un gawod.    Cafodd y cylchoedd dur eu rhoi yn eu lle ar y gasgen â morthwyl, cyn iddi gael ei rholio o gwmpas y cowperdy, y cyfan â Mr Gregory'r prentis y tu mewn iddi. Wedi i'r ddefod ddod i ben, cafodd Mr Gregory ei dystysgrif, ac o'r eiliad honno, roedd yn Gowper.

 Cafodd y Plac Glas ei ddadorchuddio ar y tŷ yn Stryd y Bragdy, Pont-y-gwaith, lle roedd Mr Gregory yn arfer byw, a lle mae ei weddw, Mrs Marion Gregory'n byw o hyd. Y Dirprwy Faer Dan Owen-Jones ddadorchuddiodd y plac. Dywedodd:

Mae sawl cofeb wedi’i chodi’n ymwneud â'r diwydiant glofaol ffyniannus oedd yn Rhondda Cynon Taf ar un adeg. Yna dra phriodol, mae gennym ni nawr blac er cof am Mr Gregory a'i grefftwaith sgilgar, yma ym Mhont-y-gwaith, lle bu'r cwmni Fernvale Brewery Co. yn ffynnu am fwy na hanner canrif, cyn i'r drysau gau am y tro olaf ym 1970.

Mae treftadaeth gyfoethog ein bwrdeistref sirol yn cael ei chadw'n fyw mewn sawl ffordd, ac mae'r Cynllun Placiau Glas, yn un ohonyn nhw.  Gallwch anfon enwebiadau ar gyfer placiau glas i'r garfan treftadaeth, drwy gydol y flwyddyn. Mae modd cysylltu â'r Gwasanaeth Treftadaeth drwy e-bostio GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk i gael gwybodaeth ynghylch y cynllun a sut i enwebu.  Mae achlysuron ymchwil, am ddim, yn cael eu cynnal ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar hyn o bryd.  I gael rhagor o wybodaeth am y rhain, cliciwch yma.

Wedi ei bostio ar 02/05/24