Skip to main content

Derbyn caniatâd i adeiladu ysgol ar gyfer datblygiad tai Llanilid

Mae’r cynlluniau manwl ar gyfer ysgol gynradd newydd yn rhan o ddatblygiad tai Llanilid wedi'u cymeradwyo, ar ôl i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu eu trafod yn ei gyfarfod diweddar. Mae’r rhain yn dilyn y caniatâd cynllunio amlinellol presennol a gafodd ei gymeradwyo’n flaenorol. 

Cymeradwyodd y Pwyllgor y cais am faterion wedi'u cadw yn ôl ddydd Iau, 23 Tachwedd, yn unol ag argymhelliad swyddogion. Mae'r cais yn cynnwys ysgol ar gyfer 540 o ddisgyblion ac isadeiledd cysylltiedig (gan gynnwys mynediad a thirlunio). 

Mae rhagor o fanylion am yr ysgol newydd wedi'u nodi ar waelod y diweddariad yma. 

Roedd adroddiad y swyddog cynllunio i’r Pwyllgor yn nodi'r rhesymau pam fod y cais wedi'i argymell ar gyfer ei gymeradwyo. Nodwyd bod y safle wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol, a bod yr egwyddor o’i ddatblygu at ddibenion preswyl, ynghyd ag ysgol a chanol pentref, yn hirsefydlog, a hynny ers 2016. Fydd y cynllun ddim yn effeithio'n amhriodol ar wedd na chymeriad yr ardal, ac mae mesurau lliniaru a gwella ecoleg derbyniol hefyd wedi’u sicrhau yn rhan o’r datblygiad. 

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y byddai'r ysgol yn un o'r radd flaenaf, a'r bwriad byddai sicrhau bod y cyfleuster ar gael at ddefnydd y gymuned. Byddai'r ysgol yma'n lleihau'r pwysau ar ysgolion sydd eisoes ym Mryncae a Llanharan, ac yn mynd i'r afael â'r galw am lefydd mewn ysgolion yn sgil y datblygiad mawr yn Llanilid. 

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Rwy'n falch bod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi cymeradwyo manylion am faterion wedi’u cadw’n ôl ar gyfer ysgol gynradd newydd ar safle Llanilid. Bydd galw enfawr am yr ysgol yma wrth i'r cynllun preswyl mawr fynd yn ei flaen. Mae ysgolion eraill yn yr ardal yn agos at fod yn llawn, ac wrth i ragor o dai gael eu hadeiladu, bydd angen yr ysgol newydd er mwyn parhau i ddarparu llefydd i bob plentyn sy'n byw yn y dalgylch. 

"Y bwriad yw adeiladu ysgol newydd o'r radd flaenaf sydd â chyfleusterau addysgol sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd yr adeilad hefyd yn hwb i'r gymuned – bydd mannau dan do ac awyr agored ar gael i'w defnyddio gyda'r nos ac ar benwythnosau. Bydd lle i 60 plentyn yn y feithrinfa, a bydd yn ehangu'r ddarpariaeth addysg ddwyieithog sydd ar gael i deuluoedd lleol. 

"Bydd y Cyngor yn parhau i weithio'n agos â Persimmon Homes i ddatblygu a darparu ysgol newydd sy'n bodloni ein safonau uchel o ran ysgolion yr 21ain Ganrif ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys y nod o ddod yn Gyngor Carbon Sero-Net. Byddwn ni'n rhannu newyddion â thrigolion dros yr wythnosau a misoedd sydd o'n blaenau wrth i ni ddatblygu ysgol fodern yn Llanilid ar gyfer cymuned sy'n parhau i dyfu." 

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu gan gwmni Persimmon Homes, a bydd y costau cyfalaf yn cael eu talu trwy ei gyfrifoldebau Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn perthynas â'r datblygiad tai. Felly fydd dim costau cyfalaf i'r Cyngor eu talu. 

Bydd yr adeilad dau lawr, siâp L yn cynnwys adain o ddosbarthiadau a bloc neuadd ar ochr ogledd-ddwyreiniol y safle. Bydd buarth/ardal chwarae i'r de a maes parcio yn y gorllewin. Bydd yr adeilad yn cynnwys 10 dosbarth ar y llawr gwaelod (dau ar gyfer dosbarth meithrin, dau ar gyfer dosbarth derbyn a chwech ar gyfer dosbarthiadau'r adran fabanod). Bydd wyth dosbarth ar gyfer yr adran iau, ardal adnoddau dysgu ac ystafell staff ar y llawr cyntaf. Bydd cyfleusterau amrywiol eraill hefyd ar y ddau lawr. 

Tu allan i'r adeilad bydd buarth, cae chwarae 3G, a mannau anffurfiol caled a meddal amrywiol wedi'u tirlunio. Bydd mynediad i gerbydau oddi ar gyffordd i gyfeiriad gogledd-orllewinol y safle, a bydd yn arwain at faes parcio staff â 39 o lefydd parcio. Bydd man gollwng/casglu disgyblion a lle i dri bws yn gyfagos, a bydd mynediad penodol i gerddwyr ar ochr orllewinol y safle. 

Nododd adroddiad y swyddog ddydd Iau waith Persimmon Homes i ddarparu'r datblygiad preswyl ehangach. Mae disgwyl i'r datblygiad gael ei rannu'n ddeg cam (wyth ohonyn nhw'n gamau preswyl, un yn elfen gymysg/yn ymwneud â'r pentref, a'r llall yn ymwneud â'r ysgol gynradd). Cafodd cam 1 (216 o gartrefi) ei gymeradwyo yn 2019 ac mae'r gwaith bellach yn dirwyn i ben. Cafodd cam 2 (421 o gartrefi) a chamau 3 a 4 (494 o gartrefi) eu cymeradwyo yn 2021, ac mae gwaith oddi ar y safle yn mynd rhagddo ar gyfer y camau yma. 

Wedi ei bostio ar 07/12/23