Skip to main content

Canolfannau Croeso yn y Gaeaf yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf!

Am fod y tywydd yn aeafol a'r tymheredd yn gostwng, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'i bartneriaid allweddol yn y gymuned unwaith yn rhagor i ddarparu gwasanaethau cymorth i'n holl drigolion gyda'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf a rhagor.

Agorodd 96 Canolfan Groeso yn y Gaeaf eu drysau'r llynedd er mwyn helpu i gadw Rhondda Cynon Taf yn ddiogel a chynnes - roedd hyn yn cynnwys 82 sefydliad trydydd sector ac 14 o gyfleusterau'r Cyngor.

Mae'r Cyngor unwaith eto wedi gofyn i grwpiau a sefydliadau cymunedol yn RhCT a ydyn nhw'n gallu cynnig mannau cynnes i'r rhai mewn angen y gaeaf yma. Diolch i'w cefnogaeth bydd 86 o Ganolfannau Croeso Cymunedol ar agor ledled y Fwrdeistref Sirol eto y gaeaf yma. Bydd hyn yn cynnwys 73 o sefydliadau trydydd sector ac 13 o gyfleusterau'r Cyngor.

Mae cyfanswm o 56 o grwpiau a sefydliadau wedi gwneud cais am gymorth ariannol drwy Gronfa Galedi'r Gaeaf eleni. Mae dros £107,000 yn cael ei ddyfarnu i ddarparu Canolfannau Croeso yn y Gaeaf yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd y canolfannau, a fydd yn cael eu sefydlu unwaith eto er mwyn darparu lle diogel i gadw'n gynnes, cael byrbryd, paned gynnes a sgwrs, wedi helpu dros 3199 o oedolion drwy gydol gaeaf y llynedd. Cafodd dros 1500 o sesiynau eu darparu, dros 3200 o ddiodydd a byrbrydau cynnes eu paratoi a dros 2000 o becynnau cynnes angenrheidiol eu dosbarthu.

Mae'r pecynnau cynnes yn cynnwys eitemau sy'n helpu pobl i gadw'n gynnes a/neu ddefnyddio llai o ynni. Roedden nhw'n cynnwys eitemau megis blanced/carthen, potel dŵr poeth, mwg thermol, gŵn tŷ, sliperi/sanau cynnes, menig, cardigan, sgarff, llenni thermol. Roedden nhw hefyd yn cynnwys eitemau sy'n arbed ynni fel ffrïwr aer, popty araf, allweddi rhyddhau aer ar gyfer rheiddiaduron, cotiau boeler, addaswyr pen tap aer, tâp inswleiddio, peli sychwr dillad, ataliwr drafft, bylbiau arbed ynni.

Mae'r canolfannau croeso ond yn gallu cael eu gweithredu diolch i'r gwirfoddolwyr ymroddedig yn ein cymuned. Daeth bron i 350 o bobl anhygoel atom ni'r llynedd er mwyn helpu'r rheiny mewn angen drwy gyfnod y gaeaf oer.

Os ydych chi'n teimlo'n oer ac angen lle diogel i aros yn gynnes, cael byrbryd, paned a sgwrs, neu wefru eich ffôn symudol, derbyn cyngor am ddim yn ymwneud ag ynni a hyd yn oed cymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim - bydd y canolfannau yma'n cynnig cymorth hynod bwysig i chi.

Bydd pob llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu gweithredu yn Ganolfan Croeso yn y Gaeaf unwaith yn rhagor. Bydd modd i drigolion fynd yno am groeso cynnes a lle i ymlacio a gwefru eu dyfeisiau symudol.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae'r Cyngor yn effro i'r pwysau mae teuluoedd yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn gwneud popeth mae'n gallu er mwyn eu helpu nhw. Ers mis Ebrill 2022, mae'r Cyngor wedi talu miliynau i drigolion mewn perthynas â Chynlluniau Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi cynyddu hyn i gynnig cymorth ariannol pellach mewn perthynas â Chynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnig cymorth ariannol ychwanegol trwy ei Gynlluniau Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn. Mae'r cynllun yn cynnwys Taliadau i Deuluoedd sydd â phlant o oedran addysg gorfodol. Mae'r Cyngor hefyd wedi defnyddio cyllid pellach i wneud Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i aelwydydd sydd angen y mwyaf o gymorth gyda'u costau tai.  Mae hyn yn ychwanegol at y Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn a wnaed o'r arian grant a ddyrannwyd i'r Cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

"Mae'r Cyngor wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol i fanciau bwyd lleol i'w helpu nhw i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol."

Mae modd i drigolion sy'n teimlo eu bod nhw angen cymorth ychwanegol gysylltu â'r Cyngor ar unrhyw adeg drwy'r Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned drwy gwblhau 'ffurflen gais am gymorth' ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/CymorthCostauByw. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan Staff y Cyngor, Gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned, Partneriaid Trydydd Sector a Phartneriaid Cymunedol.

Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf dderbyn cyngor yn ymwneud â'r gwasanaethau sydd ar gael hefyd drwy Garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Cymorth Grant neu Fenthyciad - efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi gyda (examples of work)
  • RCT Switch - Cyngor diduedd am ddim ynglŷn â newid tariff.
  • Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed ynni yn y cartref.
  • Cyngor ynghylch dyled cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr).
  • Cyngor ynghylch cynyddu incwm a rheoli arian. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.rctcbc.gov.uk/gwresogiacarbed neu anfonwch e-bost at y garfan: gwresogiacarbed@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Os ydych chi'n wynebu digartrefedd, mae modd i chi gael cymorth a chyngor drwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/digartrefedd neu ffoniwch 01443 495188.

Am fanylion llawn a lleoliadau'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauCroesoynyGaeaf ac am gyngor cyffredinol am y cymorth costau byw sydd ar gael, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CostauByw.

Mae modd dod o hyd i wybodaeth yn ymwneud â'r rhybuddion tywydd diweddaraf a'r sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â gwasanaethau ar wefan y Cyngor: www.rctcbc.gov.uk neu drwy ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol y Cyngor ar Twitter neu Facebook. Serch hynny, os oes gyda chi unrhyw faterion brys, ffoniwch Rif Ffôn Brys y Cyngor y tu allan i oriau arferol ar 01443 425011.

Wedi ei bostio ar 04/12/23