Skip to main content

Hyfforddiant teithio pwrpasol yn cynyddu hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus

Travel Training final grid - Copy

Mae Hyfforddiant Teithio Annibynnol i ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus yn helpu i ddysgu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen arnyn nhw i deithio ar y bws yn annibynnol bob dydd.

Mae ein Cydlynydd Hyfforddiant Teithio Annibynnol y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i nodi'r disgyblion fyddai efallai'n elwa o dderbyn yr hyfforddiant. Rydyn ni’n rhoi cymorth pwrpasol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd mynd ar deithiau bob dydd ar eu pen eu hunain, gan gynnwys disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n aml yn cael eu cludo gan dacsi wedi'i drefnu i'w hysgol neu goleg.

Mae'r hyfforddiant yn cynorthwyo disgyblion nad oes ganddyn nhw ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd i gynllunio teithiau ac ennill sgiliau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn modd diogel. Bydd y sgiliau yma'n helpu'r disgyblion i fanteisio ar addysg, cyflogaeth a chyfleoedd eraill yn eu cymuned.

Mae modd ichi ddysgu rhagor am Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol ar ein gwefan.

Efallai bydd disgyblion (sy'n 19 mlwydd oed neu'n iau) yn elwa o'r cymorth, a fyddai'n ddefnyddiol yn benodol ar gyfer unigolion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'n amrywio o gymorth tymor byr yn ymwneud â sut mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio, hyd at gymorth hir dymor am ymwybyddiaeth bersonol, amser, arian a diogelwch ar y ffyrdd. Mae disgyblion yn gweithio gyda'r Cydlynydd Hyfforddiant Teithio ar sail un i un neu mewn grŵp.

Mae Rhys Noble a Zoe Phillips ymhlith y garfan gyntaf o ddisgyblion i elwa o'r hyfforddiant. Dyma sut gwnaethon nhw elwa o'r broses.

Rhys Noble, disgybl Coleg y Cymoedd yn Aberdâr

Roedd Rhys yn arfer teithio i'r ysgol ac yn ôl mewn tacsi, oedd yn cael ei ariannu gan y Cyngor am ei fod yn drafnidiaeth arbenigol. Daeth ei gyfnod pontio i'r coleg â sawl her newydd gan gynnwys cwrdd â phobl newydd, dysgu amgylchedd newydd a gorfod dal bws. Doedd Rhys, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, erioed wedi dal bws cyhoeddus ar ei ben ei hun o'r blaen a dyw e ddim yn hoffi bod mewn lleoedd prysur.

Cyn iddo fynd i'r coleg, dechreuodd Rhys yr hyfforddiant teithio ym mis Mehefin 2022 tra'r oedd yn ei fisoedd olaf yn yr ysgol gyfun. Roedd yn parhau i weithio'n galed dros wyliau'r haf, gan ddysgu sut i fynd i'r safleoedd bws ac yn ôl, cyn dechrau mynd ar fysiau cyhoeddus ar ei daith newydd i'r coleg.

Erbyn mis Medi 2022, roedd Rhys wedi rhoi pob dim roedd wedi'i ddysgu ar waith er mwyn dal y bws i'r coleg dair gwaith yr wythnos. Mae bellach yn llai dibynnol ar ei rieni ac yn fwy annibynnol yn gyffredinol – mae modd iddo nawr deithio i'w gymuned leol.

Zoe Phillips, myfyriwr Coleg y Cymoedd yng Nghwm Rhondda

Roedd Zoe hefyd yn teithio i'w hysgol uwchradd mewn tacsi arbenigol, wedi'i ariannu gan y Cyngor. Haf y llynedd, dechreuodd yr hyfforddiant teithio er mwyn ennill cymorth a hyder wrth baratoi ar gyfer ei haddysg bellach. Roedd hi eisiau dilyn ôl troed ei chwaer hŷn, oedd wedi mynychu Coleg Cwm Rhondda.

Mae gan Zoe anghenion dysgu ychwanegol, awtistiaeth ac ADCG (ADHD), ac mae'n dawel ac yn orbryderus yn aml yng nghwmni pobl newydd. Roedd hi wedi gorfod wynebu heriau newydd wrth ddechrau yn y coleg – megis cwrdd â phobl ac athrawon newydd, amgylchedd newydd, a dal bws cyhoeddus am y tro cyntaf. Roedd gan Zoe sgiliau diogelwch ar y ffyrdd cyfyngedig ac roedd hi'n cael trafferth wrth ddefnyddio apiau ffôn teithiau – ond roedd hi'n benderfynol o gyflawni ei nodau. 

Dysgodd Zoe y llwybrau i'r safle bws ac yn ôl ar ei ffordd i'r coleg, gan gynyddu ei hyder i ddal y bws i'r coleg dair gwaith yr wythnos gyda'r Cydlynydd Hyfforddiant Teithio. Aeth yn ei blaen i deithio ar ei phen ei hun ac o ganlyniad i'w hannibynniaeth newydd, mae modd i Zoe bellach ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ymweld â'i ffrindiau a'i Mam-gu, sy'n byw ym Mhorthcawl, ar y penwythnosau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'n wych gweld sut mae ein Hyfforddiant Teithio Annibynnol wedi helpu unigolion i oresgyn y rhwystrau oedd yn eu hatal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, boed ar gyfer yr ysgol, gwaith, neu yn eu bywydau bob dydd. Mae Rhys a Zoe wedi gweithio'n galed iawn gyda Chydlynydd Hyfforddiant Teithio'r Cyngor, ac maen nhw bellach yn dal y bws i'w colegau ac yn ôl bob dydd.

"Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'n hysgolion a cholegau er mwyn nodi disgyblion fyddai efallai'n elwa o dderbyn hyfforddiant teithio, sydd yna'n cael ei deilwra er mwyn cwrdd â'u hanghenion unigol. Mae hyn yn amrywio o gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cynllunio eu llwybr neu ddysgu rhagor am ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae'r hyfforddiant yn sgil bywyd, gan agor drysau i gyfleoedd nawr ac yn y dyfodol.

"Da iawn Rhys a Zoe am eu holl waith caled, ac yn enwedig am eu hymroddiad dros y misoedd cyn dechrau yn y coleg! Maen nhw'n enghreifftiau gwych o sut mae'r fenter hyfforddi yma gan y Cyngor yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn."

Wedi ei bostio ar 24/07/23