Skip to main content

Y sesiynau hyfforddiant beicio cydbwysedd nesaf ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

balance-bike - Copy

Bydd ein hachlysur beiciau cydbwysedd AM DDIM nesaf i blant 3-5 oed yn cael ei gynnal ym Mharc Gwledig Cwm Dâr #Aberdâr! 

Bydd sesiynau'n cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod (dydd Mercher 9 Awst a dydd Iau 10 Awst). Mae digon o leoedd i 120 o blant gymryd rhan.

Bydd y cyfle gwych yma'n helpu'r plant i ddysgu sgiliau sylfaenol a dod yn fwy hyderus ar eu beic. Croeso i blant sydd heb feicio o'r blaen!

Bydd yr holl offer sydd eu hangen, gan gynnwys y beiciau cydbwysedd a helmedau, yn cael eu darparu ar y diwrnod.

Rydyn ni'n rhagweld galw mawr ac felly mae rhaid i rieni sydd eisiau i’w plentyn gymryd rhan gadw lle ymlaen llaw – yma.

Bydd lleoedd yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin.

Dylai rhieni aros am e-bost ar ôl cyflwyno cais. Yna bydd angen iddyn nhw ymateb i'r e-bost er mwyn cadarnhau lle'r plentyn.

Byddwn ni'n cau'r ffurflen cyflwyno cais pan fydd yr holl leoedd wedi'u cynnig. Diolch

Wedi ei bostio ar 24/07/2023