Skip to main content

Gwaith gyda'r nos ar gynllun draenio ar yr A4058 yn Nhonypandy

Llwynypia Road, Tonypandy - Copy

Nodwch, bydd yr A4058 Heol Llwynypia ar gau yn ystod y nos ger Asda Tonypandy am ddwy noson yr wythnos yma – ar y rhan o’r ffordd sydd i'r gogledd o'r gyffordd yn y llun.

Rhaid cau'r ffordd er mwyn cynnal gwelliannau draenio lleol. Mae’r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer y nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Bydd y gwaith yn dechrau am 8pm bob nos, gan ddod i ben erbyn 5am y bore canlynol - ddydd Mercher/Iau (29 - 30 Tachwedd) a dydd Iau/Gwener (30 Tachwedd - 1 Rhagfyr).

Bydd yr holl waith cysylltiedig wedi'i gwblhau erbyn 5am ddydd Gwener, 1 Rhagfyr.

Mae'r safle gwaith tua 90 metr o hyd, ac mae modd bwrw golwg ar ei union leoliad ar fap ar wefan y Cyngor.

Llwybr Amgen - Ewch ar hyd Heol Llwynypia, Teras Salem, Heol y Dywysoges Louise, Heol y Betrisen, Heol Ynyscynon, Heol Meisgyn, Heol Trealaw, Cylchfan Trealaw, yr A4058, Cylchfan Tonypandy a Ffordd y Glowyr.

Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys, a bydd mynediad ar gael i bob eiddo lleol.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 28/11/2023