Skip to main content

Gwaith gyda'r nos i wella wyneb y ffordd yng nghanol tref Aberdâr

Aberdare TC road closure

Sylwch, bydd Stryd Caerdydd yng nghanol tref Aberdâr ar gau gyda'r nos yr wythnos nesaf i gynnal gwaith i wella wyneb y ffordd. Bydd y gwaith yn cael ei wneud gyda'r nos i leihau aflonyddwch.

Bydd y ffordd ar gau rhwng 7pm a hanner nos am bedair noson – o nos Lun 20 Tachwedd i nos Iau 23 Tachwedd.

Yn ystod oriau cynnal y gwaith, bydd Stryd Caerdydd ar gau rhwng ei chyffyrdd â Stryd y Masnachwr a Sgwâr Fictoria.

Mae llwybr amgen i gerbydau trwy Gylchfan Tinney, yr A4059, yr A4233, y Stryd Fawr, Stryd y Canon a Sgwâr Fictoria.

Bydd mynediad o hyd ar gyfer y gwasanaethau brys ac i gerddwyr, ond dyma argymell i feicwyr ddod oddi ar y beic a dilyn y llwybr i gerddwyr. Bydd mynediad hefyd ar gael i eiddo.

Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Priffyrdd yn rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor 2023/24 gydag arian o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Diolch ymlaen llaw i drigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 17/11/2023