Skip to main content

Cynlluniau wedi'u nodi ar gyfer buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth priffyrdd

Supplementary capital programme - Copy

Mae’r Cabinet wedi cytuno ar fanylion rhaglen atodol ar gyfer priffyrdd, strwythurau a chynlluniau lliniaru llifogydd – i’w chynnal yn ystod gweddill 2023/24 gan ddefnyddio cyllid a ddyrannwyd i’r gwasanaeth yn ddiweddar.

Ym mis Medi 2023, cytunodd y Cabinet ar fuddsoddiad ehangach untro gwerth £7.73 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor – a oedd hefyd yn cynnwys parciau a mannau gwyrdd, canol trefi, canolfannau hamdden a llety i bobl hŷn. Cytunwyd ar ddyraniad o £4.75 miliwn ar draws priffyrdd (£1.5 miliwn), lliniaru llifogydd (£200,000), strwythurau (£2.5 miliwn) a'r Rhaglen Gwneud Gwell Defnydd (£550,000).

Nododd adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 20 Tachwedd, sut y gellid defnyddio'r cyllid ychwanegol yma, sy'n ychwanegol at Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Chludiant barhaus ar gyfer 2023/24. Nododd swyddogion gyfres o gynlluniau o fewn rhaglen atodol newydd ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol – a chytunodd y Cabinet ag argymhellion i'w chymeradwyo.

Bydd y £1.5 miliwn a ddyrannwyd i briffyrdd yn cael ei ddefnyddio i gyflawni 23 o gynlluniau ail-wynebu ffyrdd (£1.146 miliwn) ac 16 o gynlluniau gwella llwybrau troed (£304,000), yn ogystal â mân waith trwsio lle bo angen (£50,000). Mae’r cynlluniau ffyrdd a llwybrau troed wedi’u rhestru’n llawn mewn adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Llun.

Bydd y £200,000 a neilltuwyd ar gyfer lliniaru llifogydd yn helpu i ariannu gwaith parhaus sydd wedi gwella'r rhwydwaith carthffosydd dŵr wyneb mewn llawer o leoliadau. Mae gwaith nodweddiadol yn cynnwys arolygon teledu cylch cyfyng (TCC) a glanhau'r rhwydwaith, nodi a gwneud atgyweiriadau, a gwella trefniadau mynediad i geuffosydd.

Bydd y £2.5 miliwn ar gyfer strwythurau yn symud pum cynllun atgyweirio neu adnewyddu yn eu blaenau – yr A4059 Pont Afon Cynon yng Nghwm-bach, Pont Rheola yn y Porth, Pont Heol Glan yn Aberdâr, Pont Reilffordd Heol Llanwynno yn Stanleytown a Phont Glan y Llyn yng Nglantaf. Dyrennir cyllid hefyd ar gyfer gwaith paratoi ar strwythurau amrywiol eraill, ac adnewyddu waliau cynnal mewn llawer o leoliadau.

Bydd y £550,000 a glustnodwyd ar gyfer y Rhaglen Gwneud Gwell Defnydd yn bwrw ymlaen â'r gwaith dylunio rhagarweiniol a datblygiad prosiect ar gyfer gwelliannau i goridor yr A4059, a hynny er mwyn gwella llif y traffig ymhellach ar y brif ffordd yma drwy Gwm Cynon.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Cafodd y cyllid ychwanegol gwerth £4.75 miliwn ar gyfer Priffyrdd a drafodwyd gan y Cabinet ddydd Llun ei ddyrannu i’r gwasanaeth yn ddiweddar yn rhan o fuddsoddiad ehangach ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor. Bellach, mae swyddogion wedi manylu ar sut y bydd y cyllid yma'n cael ei ddefnyddio mewn rhaglen atodol i'w chyflwyno yn ystod y flwyddyn ariannol yma, a hynny'n ychwanegol at y Rhaglen Gyfalaf barhaus gwerth £27.6 miliwn ar gyfer Prosiectau'r Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol.

“Bydd y cyllid gwerth £1.5 miliwn ar gyfer ffyrdd yn ehangu cynlluniau ail-wynebu eleni, gan ychwanegu at y dyraniad Rhaglen Gyfalaf gwerth £5.2 miliwn ar gyfer 2023/24. Bydd yn cynnwys 23 cynllun gosod wyneb newydd ychwanegol a 16 o welliannau i lwybrau troed. Mae ein rhwydwaith ffyrdd bellach wedi elwa ar 12 mlynedd o fuddsoddiad gwell, gan gyfrannu at wella cyflwr cyffredinol ein ffyrdd ‘A’, ‘B’ ac ‘C’.

“Mae cynnal strwythurau priffyrdd yn dasg enfawr, ac mae ein buddsoddiad cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi adlewyrchu’r nifer fawr o briffyrdd sydd angen gwaith – sy’n aml yn gymhleth ei natur. Mae dyraniad y Rhaglen Gyfalaf gwerth £4.45 miliwn wedi sicrhau cynnydd da hyd yn hyn – gan gynnwys y Bont Imperial yn y Porth sydd ar fin cael ei chwblhau, a Phont Glan-élai yn Nhonysguboriau a Phont Graig Las yn Hendreforgan, sydd wedi’u cwblhau. Bydd y cyllid ychwanegol gwerth £2.5 miliwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pum cynllun newydd yng Nghwm-bach, Porth, Aberdâr, Stanleytown a Glantaf.

“Yn olaf, mae'r Rhaglen Gwneud Gwell Defnydd wedi bod yn mynd rhagddi ers llawer o flynyddoedd i nodi gwelliannau cost isel, gwerth uchel, ar rannau o'n rhwydwaith priffyrdd sy'n llawn tagfeydd. Mae hyn gyda'r bwriad o wella llif traffig, lleddfu tagfeydd a gwella diogelwch ar y ffyrdd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cyflwyno llawer o gynlluniau effeithiol ar yr A4059 yng Nghwm Cynon, a bydd y cyllid ychwanegol gwerth £550,000 yn helpu i ddylunio a datblygu mesurau ychwanegol ar hyd llwybr yma.

“Rwy’n falch bod y Cabinet bellach wedi cymeradwyo manylion y rhaglen gyfalaf atodol a bod modd bwrw ymlaen â’r cynlluniau wedi’u henwi.”

Tra bod y rhaglen atodol wedi'i chlustnodi ar gyfer 2023/24, mae swyddogion wedi cydnabod y bydd yr holl gynlluniau newydd a phresennol yn parhau i gael eu hadolygu fesul achos – a bydd rhywfaint o hyblygrwydd o ran amserlenni cyflawni. Bydd hyn yn seiliedig ar lawer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd adnoddau a dyraniad cyllid grant, a bydd pob un o'r rhain yn cael eu hystyried.

Wedi ei bostio ar 23/11/2023