Skip to main content

Deng mlynedd ers cynnig parcio AM DDIM yng nghanol ein trefi dros gyfnod y Nadolig

shop-local-2023_WELSH

Bydd menter barcio AM DDIM y Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd dros y Nadolig yn dychwelyd am y degfed flwyddyn yn olynol yn 2023. Bydd modd parcio am ddim o 10am bob dydd ym mis Rhagfyr. Y bwriad yw annog trigolion i siopa'n lleol a chefnogi ein masnachwyr ar y stryd fawr dros y Nadolig.

Unwaith eto, fydd dim rhaid talu am barcio ym meysydd parcio'r Cyngor yn y ddwy dref ar ôl 10am bob dydd drwy fis Rhagfyr i gyd – o ddydd Gwener, 1 Rhagfyr, i ddydd Sul, 31 Rhagfyr. Bwriad y cynnig yw annog trigolion i wneud cymaint o’u siopa Nadolig yn lleol â phosibl, gan roi hwb i’n masnachwyr gwych yng nghanol y dref yr adeg yma o’r flwyddyn.

Mae'r fenter barcio eleni yn cyd-fynd â chynllun uchafswm o £1 ar gyfer pob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r cynnig, sydd wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar, yn weithredol ar draws yr holl gwmnïau bysiau a bydd yn berthnasol o’r daith gyntaf i’r olaf bob dydd ym mis Rhagfyr 2023. Dyma ragor o wybodaeth.

Yn Aberdâr, bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio Adeiladau'r Goron, y Stryd Las, y Llyfrgell, Stryd y Dug, Stryd Fawr, Rhes y Nant, Rock Grounds a'r Ynys. Ym Mhontypridd, bydd modd parcio am ddim ym meysydd parcio Heol y Weithfa Nwy, Iard y Nwyddau (dim ond y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor), Dôl-y-felin, Heol Berw a Heol Sardis.

Cofiwch fod meysydd parcio'r Llyfrgell, y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr a chewch chi ddim parcio am fwy na phedair awr yno. Dyma atgoffa'r rheiny sy'n parcio cyn 10am bod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Dyma’r ddegfed flwyddyn yn olynol i barcio am ddim gael ei gyflwyno ledled Rhondda Cynon Taf ar gyfer mis Rhagfyr i gyd. Unwaith eto yn 2023 byddwn ni'n hepgor yr holl daliadau rheolaidd o 10am bob dydd yn Aberdâr a Phontypridd.

“Rydyn ni'n gofyn i drigolion barhau i gefnogi ein hardaloedd siopa, archwilio’r amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau y mae masnachwyr lleol yn eu cynnig, ac ymuno â’r dathliadau yng nghanol ein trefi yr adeg yma o’r flwyddyn. Y gobaith hefyd yw y bydd y cynnig parcio am ddim am fis yn Aberdâr a Phontypridd yn helpu trigolion mewn rhyw ffordd fach gyda chostau byw sy'n parhau’n uchel iawn.

“Am y tro cyntaf eleni, rydyn ni hefyd yn cyflwyno uchafswm pris o £1 ar gyfer pob taith bws lleol ym mis Rhagfyr o fewn ffin Rhondda Cynon Taf. Felly p’un a yw trigolion yn bwriadu dal y bws neu ddefnyddio ein meysydd parcio i siopa’n lleol y Nadolig yma, bydd cost gyffredinol eu taith yn cael ei lleihau.”

Wedi ei bostio ar 28/11/23