Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman wedi'i gwblhau

Cwmaman FAS 2 - Copy

Mae gwaith lliniaru llifogydd sylweddol wedi'i gwblhau'n ddiweddar yng Nghwmaman, ac mae wedi cryfhau seilwaith Nant Aman Fach i helpu i leihau perygl llifogydd ar gyfer eiddo cyfagos yn ystod stormydd. 

Dechreuodd Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman (Cam 2) yn yr hydref, 2023, a'i nod yw lleihau perygl llifogydd ar gyfer tua 78 o eiddo ar Heol Glanaman a Brynhyfryd. Bwriad y cynllun yw cynyddu capasiti'r rhwydwaith lliniaru llifogydd presennol, gyda Nant Aman Fach yn llifo gerllaw’r ddwy stryd breswyl.

Mae'r cynllun wedi cynnwys gwella wal bresennol rhwng y cwrs dŵr a'r clwb cymdeithasol, ac adeiladu wal newydd rhwng y cwrs dŵr a Heol Glanaman / Brynhyfryd. Yn ogystal â hyn, bydd gwaith gwella'r ffordd gerbydau yn golygu bydd llifoedd o ddŵr dros y tir yn cael eu rheoli'n well os yw lefel y dŵr yn mynd yn uwch na glan yr afon yn ystod cyfnodau o law trwm iawn. Byddai'r dŵr yn cael ei ddargyfeirio'n fwy effeithlon i'r system ddraenio bresennol.

Cafodd y cynllun ei gwblhau yn ôl yr amserlen yn ystod y gwanwyn, a bydd gwaith terfynol i osod wyneb newydd ar y ffordd yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 22 Ebrill.

Mae'r cynllun wedi'i gyflawni gyda chyfraniad o 85% o'r buddsoddiad cyfan gan Raglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Daeth yr arian cyfatebol sy'n weddill o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth barhaus y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Mae gwaith pwysig yng Nghwmaman bellach wedi'i gwblhau, a hynny er mwyn lleihau perygl llifogydd yn y gymuned fel ymateb rhagweithiol i'r risg uwch o dywydd eithafol yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Mae gwaith wedi cynnwys atgyweirio wal ger y cwrs dŵr, adeiladu wal newydd a chynnal gwelliannau ar y ffordd i ddargyfeirio llif dŵr yn well. Mae'n cynrychioli buddsoddiad gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd ar gyfer y gymuned.

“Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gwaith lliniaru llifogydd o'r fath ledled y Fwrdeistref Sirol. Yn 2023/24, cawson ni gyllid gwerth £4.8 miliwn o raglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach. Ar gyfer blwyddyn 2024/25, rydyn ni wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer 15 cynllun lliniaru llifogydd mawr ac 14 cynllun ar raddfa fach, gwerth £4 miliwn ac £1.11 miliwn yn y drefn honno. Mae cyfanswm o £1.18 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer arian cyfatebol y Cyngor yn ein rhaglen gyfalaf newydd.

“Y llynedd, cynhalion ni ymgynghoriadau helaeth â'r cyhoedd ar ddau gynllun lliniaru llifogydd yn y dyfodol ar gyfer Treorci a Phentre. Mae'r ddau yma'n symud ymlaen at y cam dylunio. Mae'r cynlluniau wedi'u harwain gan dystiolaeth a gasglwyd yn ystod stormydd blaenorol, yn ogystal â rhagamcanion yn seiliedig ar y newid yn yr hinsawdd. Byddan nhw'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol ar gyfer y ddwy gymuned.

“Rwy'n falch bod y cynllun pwysig yng Nghwmaman wedi dod i ben yn ddiweddar, a hynny yn ôl yr amserlen. Bwriad y cynllun yw lliniaru perygl llifogydd ar gyfer 78 o eiddo preswyl ger Nant Aman Fach, a hoffwn i ddiolch i'r gymuned am ei chydweithrediad yn ystod y gwaith gwella yma.”

Wedi ei bostio ar 24/04/2024