Skip to main content

Adeilad o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Gynradd Pentre'r Eglwys

Llanilltud Faerdref grid - Copy

Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ym Mhentre'r Eglwys bellach wedi symud i'w cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf sydd newydd eu hadeiladu yn eu cymuned – gyda'r adeilad newydd sbon wedi agor am y tro cyntaf.

Mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ar y cyd yn y cyfleuster newydd drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol - ffrwd cyllid refeniw Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Dechreuodd gwaith adeiladu cam un y llynedd, gan arwain at agor prif adeilad yr ysgol yn unol â'r amserlen y gwanwyn hwn..

Cliciwch yma i weld fersiwn fawr o'r llun uchod

Mae'r adeilad unllawr yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer grwpiau oedran meithrin a derbyn, ynghyd â thair ystafell ddosbarth babanod a phedair ystafell ddosbarth ar gyfer yr iau. Fe'i trefnir o amgylch 'heartspace' canolog a phrif neuadd, ynghyd â mannau cefnogi armywiol eraill. Fe'i hadeiladwyd gan ddefnyddio'r lle sydd ar gael ar safle presennol yr ysgol.

Mae'r gwaith o osod a sefydlu pethau'n derfynol, a gosod cysylltiadau TGCh, wedi mynd yn ei flaen yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cwblhawyd y rhain mewn pryd i ddisgyblion symud i'r amgylchedd dysgu newydd ddydd Mercher, 24 Ebrill.

Mae arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan garfan Priffyrdd y Cyngor i gyflawni gwaith Llwybrau Diogel yn y Gymuned. Mae gwelliannau amrywiol wedi'u gwneud i gyffyrdd lleol a llwybrau cerdded, er mwyn hybu cerdded a beicio diogel i'r ysgol. Ynghyd â hyn mae storfa feiciau dan do ar dir yr ysgol newydd.

Bydd y contractwr Morgan Sindall nawr yn symud ymlaen i gam dau y prosiect ysgol, a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ardaloedd allanol safle ehangach yr ysgol. Bydd hyn yn cynnwys dymchwel hen adeilad yr ysgol, a sefydlu dwy Ardal Chwaraeon Amlddefnydd, sef maes chwarae glaswellt (5 bob ochr), a maes parcio gyda gwefru cerbydau trydan. Bydd cam dau yn cael ei gwblhau yn hydref 2024.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Rwy'n falch iawn bod y datblygiad mawr hwn ym Mhentre'r Eglwys wedi symud ymlaen yn dda yn ystod y misoedd diwethaf, gan alluogi'r staff a'r disgyblion yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref i symud i mewn i’w hadeilad o’r radd flaenaf y gwanwyn hwn, fel y bwriad. Bydd y gymuned gyfan yn elwa ar yr adeilad gwych hwn, a fydd yn dod â chyfleoedd newydd i bobl ifanc yn eu haddysg am genedlaethau i ddod.

“Rydym ni'n parhau i fod â pherthynas gref â Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau addysg newydd ar y cyd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Buddsoddiad Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei darparu drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a’r cyntaf o dri adeilad ysgol newydd i’w darparu ar gyfer Rhondda Cynon Taf drwy’r dull ariannu yma – gydag Ysgol Gynradd Penygawsi i’w chwblhau erbyn mis Medi 2024. , ac yna Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn 2025.

“Mewn man arall, mae’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu hefyd yn ein helpu i ddarparu cyfleusterau sylweddol gwerth £79.6m ar draws ardal Pontypridd Fwyaf eleni. Bydd ysgolion newydd sbon yn agor yng Nghilfynydd, y Ddraenen Wen a Rhydfelen ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2024, gyda chyfleusterau chweched dosbarth ac addysg newydd yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog yn y Beddau eisoes wedi’u darparu.

“Mae'r cyfleusterau newydd yn  Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn edrych yn wych, ac alla i ddim aros i ymweld â disgyblion a staff yn fuan i weld sut y maen nhw'n ymgartrefu. Bydd ail gam y gwaith yn dechrau yn awr, sef dymchwel yr hen ysgol a darparu meysydd chwaraeon awyr agored, cyfleusterau parcio a chyfleusterau amrywiol eraill. Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’i gontractwr i barhau i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo dros y misoedd nesaf.”

Ychwanegoedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae’n wych bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu’r cyfleusterau newydd gwych yma. Dyma’r ysgol gyntaf i gael ei hariannu drwy ein Model Buddsoddi Cydfuddiannol a bydd yr ystafelloedd dosbarth modern hyn o fudd i ddisgyblion a staff ac yn gwella dysgu. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau cam nesaf y gwaith ar fannau awyr agord yr ysgol.”

Yn ogystal â’r prosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol a’r buddsoddiad ar draws Pontypridd Fwyaf yn ystod 2024, mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar ysgol newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog – i agor yn gynnar yn 2025. Mae cyllid Her Ysgolion Cynaliadwy hefyd wedi'i sicrhau ar gyfer ysgol newydd a chanolbwynt cymunedol yng Nglyn-coch, i'w gyflwyno mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 25/04/24