Arwerthiannau Cist Car
Mae modd cadw lle ar gyfer pob achlysur Arwerthiant Cist Car hyd at fis Awst! Dyma ddyddiadau'r achlysuron sydd ar y gweill:
23 Awst, 13 Medi, 11 Hydref. Mae modd cadw lle am £10.
Tocynnau ar werth yma
Sesiwn Ymchwil Am Ddim
26 Awst, 30 Medi, 28 Hydref
Oes diddordeb gyda chi yn hanes De Cymru? Ymunwch â'n grŵp ymchwil! Yn ystod ein sesiyn sydd ar y gweill, rydyn ni'n canolbwyntio ar ymchwil i gofebion rhyfel. Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal ar 29 Gorffennaf, 10am – 12pm Mae'r holl sesiynau am ddim – dewch yn llu, ymunwch â'r grŵp yma yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Rhialtwch Calan Gaeaf
29 & 30 Hydref
Byddwch yn barod i gael eich dychryn!
Mae’r Rhialtwch Calan Gaeaf yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda – 29 a 30 Hydref!
Ym mis Hydref eleni, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn trawsnewid yn lle llawn hwyl i deuluoedd wrth i'r Rhialtwch Calan Gaeaf poblogaidd ddychwelyd unwaith eto! Wedi'i leoli yng nghanol Trehafod, mae'r atyniad twristiaid poblogaidd yn paratoi ar gyfer dau ddiwrnod o gyffro brawychus a chwerthin arswydus.
Atyniadau newydd yn 2025! Mae'r cyffro hyd yn oed yn fwy eleni, gyda sesiynau cyfnos newydd sbon yn dod â pherfformwyr tân a pherfformwyr eraill wrth i'r syrcas arswydus gyrraedd!
Mae tocyn pob plentyn yn cynnwys 7 profiad arswydus:
Pigo Pwmpen o'r Bwmpenfa: Crwydrwch drwy ein pwmpenfa berffaith i ddewis eich pwmpen eich hun i fynd â hi adref a'i cherfio.
Helfa Calan Gaeaf: Chwiliwch am ysbrydion cudd o amgylch yr amgueddfa, casglwch stampiau, ac enillwch losin...neu lanast!
Sioe Calan Gaeaf: Mwynhewch berfformiad newydd sbon yn llawn hwyl arswydus.
Crefftau Codi Ofn: Creu celf ryfeddol mewn gweithdai Calan Gaeaf ymarferol.
Mannau Lluniau Arswydus: Tynnwch hunluniau bwganllydyn ein gorsafoedd tynnu lluniau brawychus.
Adfail y Pwll Glo: Mentrwch o dan y ddaear i gwrdd â sgerbydau sy'n canu a mwy! Bydd Patch y Bwmpen yn aros i ddweud helo!
Ffair Hwyl Fang-tastig: Neidiwch ar ddwy reid glasurol i blant - gwych ar gyfer eich angenfilod bach.
Sesiynau cyfnos: Mae ein sesiynau cyfnos newydd sbon yn cynnwys yr holl bethau uchod YN OGYSTAL ag adloniant o'r syrcas arswydus… bydd perfformwyr tân a mwy yno!
Amseroedd
- 10am – 12pm
- 12.30pm – 2.30pm
- 3pm – 5pm
- Sesiwn gyfnos 6pm – 8pm
Prisiau'r Tocynnau
- £10 fesul plentyn sy'n cymryd rhan (mae babanod dan 12 mis oed am ddim)
- £3.50 yr oedolyn
P'un a ydych chi'n ymweld yn ystod y dydd neu gyda'r nos, mae tocyn i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda bob amser yn addo rhaglen lawn o weithgareddau a hwyl i'r teulu.
Mae tocynnau ar gyfer Rhialtwch Calan Gaeaf ar werth yma.
Ogof Siôn Corn
22 Tachwedd - 24 Rhagfyr
Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Antur Nadoligaidd hudol ar gyfer teuluoedd a theithiau ysgol!
Ydych chi'n clywed sŵn clychau? Mae Ogof Siôn Corn yn ôl - ac mae'n fwy hudol nag erioed! Rhwng 22 Tachwedd a 24 Rhagfyr, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cael ei thrawsnewid yn lleoliad Nadoligaidd lle bydd modd i deuluoedd a grwpiau ysgolion fynd ar antur dwymgalon er mwyn dod o hyd i Siôn Corn yn nyfnderoedd y pwll glo. Mae llawer o bethau’n digwydd eleni, gan gynnwys:
- Sesiynau Stori gyda Siôn Corn newydd sbon – bydd sesiynau Cymraeg, Saesneg ac ADY ar gael
- Teithiau Ysgolion
- Sesiynau ADY yn Ogof Siôn Corn
Mae manylion llawn wedi'u nodi isod.
Ogof Siôn Corn
Ymunwch â glowyr yr ogof ar daith a fydd yn llawn rhyfeddodau a chyffro.
Ewch i ddyfnderoedd Ogof Siôn Corn, lle byddwch chi'n cwrdd â rhagor o lowyr yr ogof a dod o hyd i syrpreisys ar hyd y ffordd. Pan fyddwch chi'n cyrraedd yr ogof, bydd pawb eisiau gwybod ateb y cwestiwn pwysig yma – a ydy Siôn Corn yno?
Mae pris tocyn yn cynnwys:
- Antur hudol wedi'i goleuo drwy Ogof Siôn Corn
- Ymweld â Siôn Corn yn ei ogof
- Bydd pob plentyn yn derbyn cloch hudol arbennig gan Siôn Corn ei hun, cyn mynd i'r Siop Deganau i'w chyfnewid am anrheg.
- Profiad i'w gofio – Gwenwch! Ewch i gael llun wedi'i dynnu o'ch teulu gyda Siôn Corn! Bydd modd prynu lluniau ymlaen llaw neu ar y diwrnod, gydag amrywiaeth o opsiynau argraffu ar gael.
Nodwch: Bydd teithiau'n cynnwys nifer o grwpiau felly byddwch chi'n rhannu'ch ymweliad â Siôn Corn yn ei ogof gyda gwesteion eraill!
Stori gyda Siôn Corn Ymunwch â Siôn Corn ei hun ac un o lowyr yr ogof ar gyfer sesiwn adrodd stori glyd yn llawn hwyl yr ŵyl. Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd sesiynau i blant ag ADY gyda llai o bobl ac amgylchedd tawelach ar gael hefyd.
Mae pris tocyn yn cynnwys:
- Ymweld â Siôn Corn yn ei ogof
Stori Nadoligaidd hyfryd wedi'i hadrodd gan un o lowyr yr ogof.
Cloch hudol i'w chyfnewid yn y Siop Deganau
Taith i'r Siop Deganau, lle bydd modd i blant ddewis eu hanrheg
Bydd cyfle hefyd i dynnu llun Nadoligaidd gyda Siôn Corn, a bydd modd prynu lluniau ymlaen llaw neu ar y diwrnod.
Nodwch: Dydy sesiynau Stori gyda Siôn Corn ddim yn cynnwys taith lawn Ogof Siôn Corn.
Teithiau Ysgolion
Mae modd i ysgolion drefnu taith yn ystod yr wythnos rhwng 10am a 2pm – dyma daith addysgol Nadoligaidd wych!
Mae modd i ysgolion drefnu taith drwy ffonio 01443 682036.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Rydyn ni'n falch iawn o groesawu teuluoedd ac ysgolion yn ôl i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer Ogof Siôn Corn 2025. Mae'r achlysur poblogaidd yma'n parhau i gynnig profiad hudol i blant o bob oed, gan gyfuno storïau Nadoligaidd, antur ryngweithiol, a llawenydd cwrdd â Siôn Corn. Gydag elfennau newydd, gan gynnwys sesiynau stori a sesiynau tawelach i blant ag ADY, rydyn ni'n falch o wneud dathliad eleni yn fwy cynhwysol a hudol nag erioed.”
Oriau Agor
- Ogof Siôn Corn.
- 19 Tachwedd tan 23 Rhagfyr, 10am – 8pm
- Noswyl Nadolig: 9am – 3pm
- Sesiynau ADY, 8a 9 Rhagfyr, 4pm – 6pm
- Stori gyda Siôn Corn. Yn ystod yr wythnos yn unig, 24 Tachwedd – 18 Rhagfyr, 3pm.
Prisoedd Ogof Siôn Corn ar gyfer Ysgolion
- £10.50 fesul plentyn
- £5.50 fesul oedolyn
- Un tocyn am ddim i athro/athrawes fesul pob 10 plentyn
- Mae modd i ysgolion drefnu taith drwy ffonio 01443 682036
Prisoedd Mynediad Cyffredinol Ogof Siôn Corn
- £13.50 fesul plentyn (4+ oed)
- £13.50 fesul oedolyn
- £6.00 fesul plentyn rhwng 0 a 18 mis oed
- Diwrnodau Brig (19 – 24 Rhagfyr)
- £15 fesul plentyn
- £15 fesul oedolyn
- £8 fesul plentyn rhwng 0 a 18 mis oed
- Ffi Archebu (ar gyfer pob archeb):
Stori gyda Siôn Corn
Bydd tocynnau ar werth o 9am, ddydd Mercher 10 Medi