Skip to main content

Gofalwn

#Gofalwn Mae Ymgyrch Denu Gweithwyr Cwm Taf Morgannwg yn un sy'n falch o hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o swyddi gwerth chweil sydd i'w cael yn y maes Gofal, ar draws Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr (Cwm Taf Morgannwg). Dan arweiniad y carfanau recriwtio Gofal o'r awdurdodau lleol, ar draws tair ardal yr awdurdod lleol, bydd Gofalwn: Cwm Taf Morgannwg yn arddangos pam mae cymaint o bobl o bob cefndir yn dewis gweithio yn y maes Gofal, gan rannu eu profiadau a'u gwerthoedd personol.

Pwy yw'r bobl sy bwysicaf i chi?

Eich plant, wyrion, rhieni, brodyr neu chwiorydd, neiniau neu deidiau?

Mae angen pobl arnon ni gyd er mwyn meithrin, arwain a gofalu amdanon ni ar wahanol adegau o'n bywydau. 

Mae Cwm Taf Morgannwg wedi ymrwymo i recriwtio pobl leol sy'n blaenoriaethu pobl eraill yn gyntaf.

Pwy yw'r bobl sy bwysicaf i chi?

Eich plant, wyrion, rhieni, brodyr neu chwiorydd, neiniau neu deidiau?

Mae angen pobl arnon ni gyd er mwyn meithrin, arwain a gofalu amdanon ni ar wahanol adegau o'n bywydau. 

Mae Cwm Taf Morgannwg wedi ymrwymo i recriwtio pobl leol sy'n blaenoriaethu pobl eraill yn gyntaf.

P'un a ydych chi am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi yn eu bywydau bob dydd neu'n anelu at arwain carfan o weithwyr Gofal, mae yna rôl ar gael i chi.  Gall fod yn gyfle heriol, ond gallwch ddylanwadu ar fywydau nifer o bobl trwy ddilyn eich gwerthoedd chi, a byddwch chi'n sicr o gael boddhad mawr o unrhyw swydd yn y maes yma.  Mae gofal yn darparu cefnogaeth ac anogaeth hanfodol bwysig ar gyfer plant, pobl ifainc a phobl o bob oedran, o'r blynyddoedd cynnar i ofal am bobl hŷn.

Trwy gydol mis Mawrth byddwn ni'n rhannu straeon gan rai o'n Gweithwyr Gofal ein hunain, fydd yn disgrifio pam maen nhw'n gweithio yn y maes; mae gweithio ym maes Gofal yn fwy na swydd yn unig!  I lawer o bobl mae Gofal yn cynnig sefydlogrwydd rôl y mae modd ei chadw am oes, ac mae modd arbenigo mewn maes penodol ond hefyd gan wneud gwahaniaeth bob dydd. I eraill, mae'n gyfle gwych i ddatblygu gyrfa a dilyn cyrsiau hyfforddiant pellach, ac ennill cymwysterau.  Mae llwybr hyfforddi a datblygu strwythuredig ar gyfer gweithwyr gofal o'r diwrnod y maen nhw'n dechrau yn eu gwaith a bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi iddyn nhw i ennill y cymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer eu swydd. Gyda digon o lwybrau i'w dilyn, dyma sector sydd â'r modd i ddarparu sefydlogrwydd yn ogystal â chyfleoedd.

Dewch i weithio yn y maes gofal yn Rhondda Cynon Taf a gwnewch eich gorau dros y rhai sydd angen eich cymorth yn eich cymuned.

Darganfyddwch ragor am ymgyrch cenedlaethol Gofalwn ar www.gofalwn.cymru

Mynnwch sgwrs gyda'r person cyswllt ar gyfer y swydd, am y bydd modd iddyn nhw roi llawer o wybodaeth i chi am y gwaith.