Skip to main content

Talu am wasanaethau Gwifren Achub Bywyd (Lifeline) a Theleofal (Telecare)

Byddwn ni'n gofyn am gyfraniad bach tuag at y gwasanaeth sy'n cynnwys darparu'r offer, gosod (a chynnal a chadw) yr offer ac yswiriant torri i lawr. Mae'r cyfraniad hefyd yn cynnwys cael eich cysylltu drwy Uned Gwifren Achub Bywyd i'n canolfan fonitro 24 awr.

Bydd rhaid talu am y gwasanaethau yma trwy gydol y cyfnod mae'r offer wedi'i osod yn eich tŷ, gan gynnwys cyfnodau pan fydd y tŷ yn wag.

Bydd taliadau ond yn dod i ben unwaith bod y cyfarpar wedi cael ei ddadosod ac wedi'i ddychwelyd i'r Cyngor.

  • Gwifren Achub Bywyd - Pris yr uned a'r teclyn gwddf yw £2.97 fesul wythnos.
    Rydyn ni'n cyflwyno anfoneb unwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, does dim angen
    talu'r anfoneb yn llawn ac mae modd talu fesul dipyn; byddwch chi'n derbyn bil
    blynyddol ym mis Ebrill ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'r Adran Gyllid yn
    cynnig sawl dull talu, megis trwy siec, debyd uniongyrchol, ayyb.
  • Pecyn Diogelwch Cartref y Wifren Achub Bywyd  - Pris y pecyn yma yw £5.82 fesul wythnos. Rydyn ni'n cyflwyno anfoneb unwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, does dim angen talu'r anfoneb yn llawn ac mae modd talu fesul dipyn; byddwch chi'n derbyn bil blynyddol ym mis Ebrill ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'r Adran Gyllid yn cynnig sawl dull talu, megis trwy siec, debyd uniongyrchol, ayyb.
  • Teleofal - Mae swm y cyfraniad i'w dalu tuag at yr offer Teleofal
    yn ddarostyngedig i Bolisi Codi Tâl am Wasanaethau Cymdeithasol Dibreswyl y Cyngor a bydd e felly, yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich incwm ac arbedion, yn ogystal ag unrhyw wasanaethau Gofal Cymdeithasol rydych chi'n eu derbyn. 

Os ydych chi'n derbyn gwasanaeth Teleofal yn unig gan y Cyngor, y swm mwyaf y byddwch chi'n ei dalu yw £5.88 yr wythnos. 

Mae'r pris yma'n cael ei dalu bob 4 wythnos a bydd yn aros yr un fath beth bynnag yw nifer y darnau offer sy'n cael eu gosod, oni bai fod eich amgylchiadau ariannol yn newid.

Ym mhob achos, bydd y swm y bydd rhaid i chi'i dalu, yn ôl yr asesiad, yn cael ei gadarnhau mewn llythyr.

  • Offer Teleofal Digyswllt - Fydd dim rhaid i chi dalu am unrhyw offer sy'n cael ei osod sydd ddim yn cael ei fonitro gan ein Canolfan Fonitro Gwifren Achub Bywyd, i gefnogi cynhalwyr preswyl neu aelodau o'r teulu.

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?