Skip to main content

Trosglwyddo'r Gwasanaeth Llinell Fywyd i Ddigidol

Mae rhwydwaith ffôn y DU yn newid. Rhwng nawr a diwedd 2025, bydd pob darparwr ffôn yn symud llinellau ffôn sefydlog eu cwsmeriaid o dechnoleg o'r enw analog i un sy'n ddigidol. 

Mae 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn golygu bod angen diweddaru neu ailgyflunio eich offer presennol, megis larwm argyfwng Llinell Fywyd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithio'n effeithiol.  

Mae'r Cyngor wrthi'n cynllunio gwaith uwchraddio ar gyfer trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y gwaith uwchraddio yn cael ei gwblhau dros y ddwy flynedd nesaf a phan fydd eich dyfais/dyfeisiau Llinell Fywyd yn barod i gael ei huwchraddio/eu huwchraddio, bydd aelod o'n carfan yn cysylltu â chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i beiriannydd ymweld â'ch eiddo ar amser sy'n gyfleus i chi.

Byddwch yn effro bod adroddiadau wedi'u derbyn am sgamiau lle gofynnwyd i bobl am wybodaeth bersonol ac ariannol mewn perthynas â'r 'Trosglwyddo i Ddigidol'. Cofiwch fod y 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn rhad ac a ddim ac ni fydd y Cyngor byth yn gofyn am wybodaeth ariannol mewn perthynas â'r trosglwyddiad yma. Bydd holl beirianwyr RhCT yn cario cerdyn adnabod er mwyn eich cadw chi'n ddiogel.

Isod mae rhestr o gwestiynau cyffredin a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r broses o 'Drosglwyddo i Ddigidol', beth sydd angen i chi ei wneud a sut bydd Rhondda Cynon Taf yn eich cefnogi chi drwyddo.

Cwestiynau Cyffredin

C: Beth sy'n digwydd?

A: Mae rhwydwaith ffôn y DU yn newid. Bydd pob darparwr ffôn yn symud llinellau ffôn sefydlog eu cwsmeriaid yn raddol o system ffôn analog i system ddigidol fodern. Mae hyn yn cael ei alw'n 'Trosglwyddo i Ddigidol'. Bwriedir cwblhau’r broses o 'Drosglwyddo i Ddigidol 'erbyn diwedd 2025.

C: Pam mae'n digwydd?

A: Mae’r 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn digwydd i wella ansawdd a dibynadwyedd rhwydwaith ffôn y DU. Dydy hen rwydweithiau, sy'n cynnwys gwifrau copr, bellach ddim yn addas i'r diben ac mae angen eu diweddaru er mwyn cadw i fyny â gofynion y dyfodol.

C: Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

A: Mae 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn golygu bod angen diweddaru neu ailgyflunio eich offer presennol, megis larwm argyfwng Llinell Fywyd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithio'n effeithiol.

C: Beth fydd y Cyngor yn ei wneud?

A: Mae'r Cyngor wrthi’n cynllunio i uwchraddio dyfeisiau Llinell Fywyd ar gyfer trigolion ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd y gwaith uwchraddio yn cael ei gwblhau dros y ddwy flynedd nesaf. Pan fydd eich dyfais/dyfeisiau Llinell Fywyd yn barod i gael ei huwchraddio/eu huwchraddio, bydd aelod o'n carfan yn cysylltu â chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i beiriannydd ymweld â'ch eiddo ar amser sy'n gyfleus i chi. Yna bydd y peiriannydd yn gosod yr offer newydd. Mae'r newidiadau yma'n rhad ac am ddim a dylen nhw fod yn syml.

Os dydych chi ddim wedi derbyn llythyr gan eich darparwr ffôn gyda dyddiad ar gyfer trosglwyddo, does dim angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.

Os bydd eich darparwr ffôn yn cysylltu â chi i symud ymlaen â'r broses drosglwyddo cyn i ni gysylltu â chi, rhowch wybod iddyn nhw fod gyda chi ddyfais Llinell Fywyd a allai gael ei heffeithio gan newid i'ch llinellau. Weithiau bydd pobl yn adnabod y dyfeisiau yma wrth enw gwahanol, fel “Gwasanaeth Larwm Teleofal (Telecare Alarm Service)”, “Larymau Llinell Ofal (Careline Alarms)”, “Larwm Argyfwng (Emergency Alarm)”, “Larwm Crogdlws (Pendant Alarm)”, neu “Crogdlysau Iechyd (Health Pendants)”.  Ar ôl i’ch darparwr ffôn gysylltu â chi, cysylltwch â ni’n uniongyrchol drwy ffonio 01443 425050. 

C: Pryd fydd hyn yn digwydd? 

A: Rhwng nawr a diwedd 2025, bydd pob darparwr ffôn yn symud llinellau ffôn sefydlog eu cwsmeriaid o dechnoleg analog i dechnoleg ddigidol. Os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes, bydd eich darparwyr (e.e. BT, TalkTalk, Sky), yn rhoi gwybod i chi am eu cynlluniau i symud ymlaen â’r newid yma a phryd mae’n debygol o ddigwydd. 

Bydd uwchraddiadau i ddyfeisiau Llinell Fywyd ar gyfer trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol hefyd yn cael eu cwblhau dros y ddwy flynedd nesaf. Pan fydd eich dyfais/dyfeisiau Llinell Fywyd yn barod i gael ei huwchraddio/eu huwchraddio, bydd aelod o'n carfan yn cysylltu â chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i beiriannydd ymweld â'ch eiddo ar amser sy'n gyfleus i chi.

C: Sut byddwn ni'n cysylltu â chi? 

A: Byddwn ni'n cysylltu â chi drwy alwad ffôn i wneud y trefniadau angenrheidiol i beiriannydd ymweld â'ch eiddo ar ddyddiad cyfleus. Wedi hynny, os bydd angen gwneud hynny, efallai y byddwn ni hefyd yn cysylltu â chi eto trwy lythyr.

C: A fydd y 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn effeithio ar fy ngwasanaeth Llinell Fywyd neu Teleofal?

A: Mae 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn golygu bod angen diweddaru neu ailgyflunio eich offer presennol, megis larwm argyfwng Llinell Fywyd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithio'n effeithiol.

Bydd angen i'r Cyngor ymweld â'ch eiddo ar amser cyfleus a gosod yr offer newydd. Mae'r newidiadau yma'n rhad ac am ddim a dylen nhw fod yn syml.

C: A fydd yn rhaid i mi dalu unrhyw beth? 

A: Na, mae'r newidiadau yma'n rhad ac am ddim.

Cofiwch fod y 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn rhad ac a ddim ac ni fydd y Cyngor byth yn gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol dros y ffôn. Bydd holl beirianwyr RhCT yn cario cerdyn adnabod er mwyn eich cadw chi'n ddiogel.