Skip to main content

Gofal Ychwanegol

Yn dilyn ymrwymiad gan y Cabinet ym mis Medi 2017, mae buddsoddiad arfaethedig o £50 miliwn mewn Gofal Ychwanegol yn cael ei wneud yn Rhondda Cynon Taf. Yn rhan o hyn, bydd pum cyfleuster newydd yn agor ledled y Fwrdeistref Sirol. Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol am ofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf.

Beth yw Gofal Ychwanegol?

Mae Gofal Ychwanegol yn darparu llety modern a gofal 24 awr i ddiwallu anghenion a bodloni disgwyliadau newidiol y boblogaeth hŷn sy'n tyfu, gan roi'r cyfle iddyn nhw fyw bywydau mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. 

Mae tai Gofal Ychwanegol yn rhoi dewis gwahanol i ofal preswyl, gofal nyrsio, a thai lloches,  Ei nod yw darparu 'cartref am oes' i lawer o bobl hyd yn oed os yw eu hanghenion gofal yn newid dros amser. Mae tai gofal ychwanegol yn wahanol i'r ffurfiau mwy traddodiadol o ofal a thai lloches oherwydd:

  • Mae pobl yn byw yn eu cartref eu hunain
  • Mae'n ymwneud ag ansawdd bywyd nid dim ond ansawdd y gofal
  • Mae gan bobl eu cartref hunangynhwysol eu hunain a'u drws ffrynt eu hunain
  • Gall cyplau a ffrindiau aros gyda'i gilydd
  • Mae cymysgedd o bobl â lefelau gwahanol o angen
  • Mae ein gwasanaethau gofal i'w cael ar y safle ac yn darparu gofal hyblyg wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion yr unigolyn
  • Mae pobl yn cael cymorth i gadw eu hannibyniaeth
  • Mae modd i bobl ymuno â gweithgareddau sy'n cael eu trefnu
  • Mae sicrwydd tai - y nod yw cynnig cartref am oes
cwrt-yr-orsaf-1
Dyma enghraifft o'r cyfleusterau sydd ar gael yn natblygiad gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf a agorodd yn Y Graig, Pontypridd yn 2021.

Cyfleusterau sydd ar gael ar safleoedd Gofal Ychwanegol

Mae fflatiau fel arfer yn cynnwys 1 neu 2 ystafell wely. Mae gan bob fflat ystafelloedd gwely hygyrch, ystafell fyw, cegin ar wahân a chyfleusterau ystafell wlyb..

Mae tai gofal ychwanegol hefyd yn debygol o gynnwys:

  • lifftiau a rheiliau llaw yn yr holl fannau cymunedol
  • gwasanaethau technoleg gynorthwyol/larwm cymunedol
  • cyfleusterau seibiant
  • lolfeydd, bwytai a chaffi
  • ystafell weithgareddau, ystafell gyfrifiaduron ac/neu ystafell sinema
  • siop drin gwallt neu ystafell les
  • golchdy
  • storfa sgwter symudedd
  • ystafell ymolchi â chymorth
  • cyfleusterau ar gyfer gwestai
  • gerddi wedi'u tirlunio
  • parcio.
cwrt-yr-orsafs
Dyma rai o'r cyfleusterau sydd yn natblygiad gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf.

Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol hefyd yn rhoi'r cyfle inni gynnig gwasanaethau oriau dydd penodol ar gyfer pobl hŷn, yn ogystal ag adnodd cymunedol sy'n cynnig cyfleoedd yn y gymuned.

Mae staff ar ddyletswydd 24 awr y dydd. Mae'n ddelfrydol ar gyfer pobl sydd â chyflyrau iechyd sy'n gwaethygu yn y tymor hir, pobl sydd angen gofal yn ystod y nos neu bobl sydd ag anghenion sy'n gallu newid yn gyflym. Mae'r gofal yn hyblyg ac mae'n gallu cael ei addasu ar gyfer eich anghenion personol.

Faint o leoedd Gofal Ychwanegol sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf?

Cyn i'r Cyngor ymrwymo i fuddsoddi £50 miliwn mewn cyfleusterau gofal ychwanegol yn 2017, dim ond un cyfleuster o'r math oedd yn Rhondda Cynon Taf, sef Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau. Mae 40 o welyau yn y cyfleuster yma. Bydd y buddsoddiad yma'n darparu 300 o leoedd gofal ychwanegol newydd yn Rhondda Cynon Taf ar draws 5 cyfleuster newydd.

Agorwyd dau o'r cyfleusterau yma yn 2020 a 2021, sef Maes-y-ffynnon yn Aberaman (40 o welyau gofal ychwanegol) a Chwrt yr Orsaf ym Mhontypridd (60 o welyau gofal ychwanegol newydd). Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn caniatâd cynllunio i greu cyfleuster arall ar safle hen gartref gofal Dan-y-Mynydd yn y Porth. Bydd 60 o welyau gofal ychwanegol yn y cyfleuster yma.

Ym mis Tachwedd 2022, trafododd aelodau o'r Cabinet gynlluniau i foderneiddio'r opsiynau gofal preswyl i'r henoed yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y cynlluniau yma'n cynnwys tri chyfleuster newydd yn cynnig gofal ychwanegol a gofal dementia preswyl, a llety arall i oedolion ag anableddau dysgu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Ponty-extra-care
Agorwyd cyfleusterau gofal ychwanegol o'r radd flaenaf yn y Y Graig, Pontypridd (ar y chwith) ac yn Aberaman (ar y dde) yn 2021.
Extra-Care-Facility---Aberaman---Outside

Ydy Gofal Ychwanegol yn addas i mi?

Mae Gofal Ychwanegol yn gallu cwrdd ag ystod eang o anghenion gofal a chymorth. Serch hynny, fyddwch chi ddim yn cael cynnig gofal ychwanegol nes eich bod chi wedi cael asesiad i weld a ydych chi'n gymwys i gael cymorth ac a ydych chi angen gofal ychwanegol. Os bydd yr asesiad yn nodi eich bod chi'n gymwys bydd modd i ni eich symud chi i mewn i lety addas.

I fod yn gymwys i gael Tŷ Gofal Ychwanegol:

  • rhaid i chi fod yn 50 oed neu'n hŷn
  • rhaid bod gyda chi anghenion gofal cymdeithasol, anabledd corfforol neu anabledd dysgu neu salwch meddwl

Cost

Bydd angen i chi dalu:

  • rhent am y fflat
  • tâl gwasanaeth am gynnal yr adeilad a'r cyfleusterau
  • pryd poeth canol dydd
  • costau cartref cyffredinol fel biliau cyfleustodau, biliau ffôn a threth y cyngor
  • gofal a chymorth
Extra-Care-Facility---Aberaman-Toilet
Dyma enghraifft o'r cyfleusterau ymolchi sydd ar gael yn rhan o gynllun gofal ychwanegol Maes-y-ffynnon.

Efallai bydd modd i chi gael cymorth "tuag at gost y rhent a'r tâl gwasanaeth a threth y cyngor".

Bydd costau gofal a chymorth yn amrywio yn ôl eich anghenion. Mae’r swm rydych chi'n ei dalu am eich gofal yn dibynnu ar eich anghenion a'ch amgylchiadau ariannol. Byddwn ni'n gwneud  "asesiad ariannol gofal dibreswyl" i gyfrifo yn union y swm mae modd i chi ei dalu.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau:

Mae'r cynlluniau gofal ychwanegol arfaethedig yn seiliedig ar egwyddorion  Housing Lin ar gyfer datblygu'r cyfleusterau gofal ychwanegol arfaethedig.  Mae manylion llawn am yr egwyddorion a phrosesau yn cael eu darparu gan Housing Lin