Mae Arweinydd y Cyngor a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ymweld â safle datblygiad Heol y Darren yn Aberpennar, lle mae gwaith clirio yn paratoi'r ardal ar gyfer llety gofal newydd i bobl hŷn.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi penodi contractwr i baratoi'r tir i'w ddatblygu, sy'n parhau i gael ei ddatblygu drwy gydol mis Mawrth 2025. Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi i'r prosiect ar y cyd rhwng Linc Cymru (Linc) a'r Cyngor, a fydd yn darparu 25 o fflatiau Gofal Ychwanegol, 15 o welyau gofal preswyl dementia, ac 8 byngalo 'Byw'n Hŷn'.
Ymwelodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE a'r Cynghorydd Gareth Caple â'r safle gwaith ddydd Iau 13 Mawrth, i weld y cynnydd. Cawson nhw eu croesawu ar daith o amgylch y safle gan y contractwr a benodwyd i gynnal y gwaith clirio, JG Hale Group, ac ymunodd cynrychiolwyr o Linc â'r grŵp hefyd.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Hoffwn i ddiolch i'n contractwr am y croeso cynnes iawn i'r safle gwaith yn Aberpennar ddydd Iau, a oedd yn gyfle gwych i weld cam cyntaf y gwaith i drawsnewid yr ardal yn gyfleuster gofal modern o'r radd flaenaf. Bydd y cymysgedd o lety Gofal Ychwanegol, dementia a 'Byw'n Hŷn' yn diwallu angen yn lleol, a dyma enghraifft arall o'n hymrwymiad i ehangu a moderneiddio opsiynau gofal ar gyfer pobl hŷn.
“Mae cynllun Aberpennar yn dilyn tai Gofal Ychwanegol modern a ddarparwyd yn Aberaman ac ardal Graig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bod nifer o gynlluniau eraill yn cael eu datblygu. Mae trydydd cyfleuster Gofal Ychwanegol yn cael ei adeiladu yn ardal Porth, ynghyd â llety gofal arbenigol yn ardal Gelli – tra ein bod wedi ymrwymo i ddarparu llety newydd yn ardaloedd Glynrhedynog a Phentre'r Eglwys yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar ofal dementia ac oedolion ag anableddau dysgu.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Fel yr Aelod Lleol dros Aberpennar, mae'n wych gweld y gwaith yma'n mynd rhagddo'n dda – y cam cyntaf tuag at adfywio safle amlwg yr hen bafiliwn. Bydd darparu llety gofal newydd yn bodloni galw lleol yng Nghwm Cynon, tra'n ailddefnyddio'r safle. Mae'r tai Gofal Ychwanegol newydd rydyn ni wedi'u darparu hyd yma wedi bod yn ganolbwyntiau poblogaidd iawn yn eu cymunedau, ac rydyn ni am wneud yr un peth yma yn Aberpennar.
“Mae'r gwaith clirio wedi tarfu cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol hyd yn hyn, a disgwylir i hyn barhau yn yr amser sydd i ddod. Ar ôl i'r safle gael ei glirio, bydd saib yn y gwaith wrth i ddechrau prif gam adeiladu'r datblygiad gael ei baratoi. Bydd swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am brif gamau nesaf y prosiect cyffredinol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.”
Ymrwymodd y Cyngor a Linc i Gytundeb Partneriaeth pum mlynedd yn 2017 i ddarparu cynlluniau tai Gofal Ychwanegol ledled Rhondda Cynon Taf, a chafodd y trefniant cydweithio yma ei ymestyn tan fis Ionawr 2026. Yn dilyn y cynlluniau a gyflawnwyd yn llwyddiannus yn Aberaman ac ardal Graig, a'r prosiect parhaus yn ardal Porth, mae datblygiad Aberpennar yn nodi pedwerydd cynllun y bartneriaeth yma.
Meddai Jo Yellen, Rheolwr Prosiectau yn Linc Cymru: “Mae'n wych gweld gwaith yn mynd rhagddo ar y safle, gan nodi cam pwysig tuag at ddarparu llety gofal ychwanegol y mae mawr ei angen yn Aberpennar. Bydd y datblygiad yma'n darparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol, gyda gofal a chymorth ar gael pan fo angen. Rydyn ni'n falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf i greu cymuned groesawgar sy'n diwallu anghenion trigolion lleol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ei gweld yn datblygu dros y misoedd nesaf.”
Wedi ei bostio ar 19/03/2025