Skip to main content

Priodo - Y trefniadau a'r seremoni

Priodi – Y trefniadau a'r seremoni

Rydyn ni’n gwybod bod trefnu priodas yn gallu bod yn waith mawr. Serch hynny, mae’n carfan ni yma i roi cymorth ichi drefnu seremoni bersonol ac ystyrlon yn unol â’r gyfraith.

Gall ystyriaethau pwysig gynnwys trefnu seremoni sy’n bersonol i chi, trefnu darlleniadau neu farddoniaeth, cerddoriaeth a blodau, a dod o hyd i ganolfan o’ch dewis.

Mae modd i barau drefnu seremoni sifil unigryw sy wedi’i theilwra’n arbennig, naill ai yn y swyddfa gofrestru neu mewn canolfan o’u dewis. Dewch o hyd i wybodaeth am y canolfannau yma

Cofrestrydd Arolygu

Y Swyddfa Gofrestru Ranbarthol,

Prif Adeiladau'r Cyngor

Heol Gelliwastad

Pontypridd

CF37 2DP

E-bost Cofrestrydd@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 494024

 

Rhagarweiniadau cyfreithiol i briodas yng Nghymru a Lloegr

Cyn bod hawl gyda chi i briodi mewn Seremoni Sifil yng Nghymru a Lloegr, rhaid rhoi Hysbysiad o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi yn y lle cyntaf.

Mae Hysbysiad o Briodas yn ddogfen gyfreithiol sy’n ddilys am flwyddyn.

Mae gofyn bod y ddau ohonoch chi wedi byw mewn Ardal Gofrestru yng Nghymru neu Loegr am o leiaf saith diwrnod cyn rhoi hysbysiad cyfreithiol. Os ydy’r ddau ohonoch chi’n byw yn yr un cylch, mae gofyn bod y naill a’r llall yn galw heibio i’ch swyddfa gofrestru leol mewn person, i roi hysbysiad cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygu.

Rhaid rhoi'ch hysbysiad cyfreithiol drwy law ac yn annibynnol.

Os ydych chi’n byw mewn ardaloedd gwahanol, mae gofyn bod y ddau ohonoch chi’n rhoi hysbysiad cyfreithiol i’r Ardaloedd Cofrestru perthnasol.

Ar ôl i chi gyflwyno hysbysiad cyfreithiol, rhaid aros 28 diwrnod clir, cyn priodi. Mae’r cyfnod aros yn elfen hanfodol o’r Gyfraith ac mae disgwyl i bawb gydymffurfio â hi.

Sylwch: Efallai bydd hyn yn cael ei ymestyn i 70 diwrnod mewn rhai amgylchiadau a byddwch chi'n cael gwybod os yw hyn yn berthnasol i chi.

Mae ffi statudol ar gyfer rhoi hysbysiad cyfreithiol a rhaid talu’r gost adeg rhoi hysbysiad. Rydyn ni’n derbyn arian parod, cerdyn credyd neu gerdyn debyd. Mae gofyn i chi dalu ffi’r Seremoni ymlaen llaw bryd hynny hefyd.

Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae modd ichi roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi yn y Swyddfa Gofrestru, Prif Adeiladau’r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd. Ffoniwch i drefnu apwyntiad ar (01443) 494024. 

Seremoni Swyddfa Gofrestru

Mae’r Swyddfa Gofrestru yng nghanol tref Pontypridd, ym Mhrif Adeiladau’r Cyngor ar Heol Gelliwastad.

Mae seremonïau'n cael eu cynnal yno rhwng 9.30am a 3pm yn ystod yr wythnos a rhwng 9.00am a 2pm ar ddydd Sadwrn.

Dewch i weld yr ystafelloedd hyfryd sydd ar gael cyn gwneud penderfyniad. Ar ôl i chi ddewis eich ystafell, a dyddiad ac amser y seremoni, mae modd gwneud trefniadau dros dro drwy dalu ffi archebu does dim modd ei had-dalu.

Cael rhagor o wybodaeth am y Swyddfa Gofrestru a'i hystafelloedd seremoni.

Seremoni Canolfan Gymeradwy

Mae modd ichi hefyd ddewis cael eich priodas yn un o'n canolfannau cymeradwy, sy'n cynnwys parciau hardd a gwestai gwledig.

Cysylltwch â’r ganolfan o’ch dewis i wirio a yw ar gael ac i drafod opsiynau, ond peidiwch â chadarnhau unrhyw archebion nes eich bod wedi gwirio gyda’r Swyddfa Gofrestru bod cofrestrydd ar gael.

Cael rhagor o wybodaeth am ganolfannau cymeradwy yn Rhondda Cynon Taf

Nodwch: Mae'n hanfodol eich bod chi'n cytuno ar ddyddiad ac amser eich seremoni gyda'r Cofrestrydd Arolygu A'R Person Cyfrifol yn eich canolfan o ddewis CYN gwneud unrhyw drefniadau eraill ar gyfer eich seremoni. Rhaid talu ffi archebu does dim modd ei had-dalu ar gyfer cadw dyddiad ac amser y seremoni dros dro, cyn i chi roi eich hysbysiad cyfreithiol.

Unwaith y byddwch chi wedi cadarnhau dyddiad ac amser eich priodas, bydd angen i chi drefnu apwyntiad i roi Hysbysiad Cyfreithiol o'ch Bwriad i Briodi, i Gofrestrydd Arolygu'r ardal rydych chi'n byw ynddi.

Unwaith eich bod chi wedi rhoi hysbysiad cyfreithiol, byddwch chi’n derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’r trefniadau, fydd yn sicrhau y byddwn ni yno yn eich seremoni. Ar yr un pryd, byddwn ni’n gofyn i chi drefnu apwyntiad tua 6 wythnos cyn y seremoni i drafod trefn a chynnwys eich seremoni ynghyd â thalu’r ffioedd presenoldeb.

Ar y diwrnod, dylai gwesteion gyrraedd tua 30 munud cyn dechrau’r seremoni. Gofynnwn i chithau fod yn brydlon hefyd, gan fod gofyn yn aml iawn i’r cofrestryddion fynychu seremonïau eraill ar amserlen eithaf tyn.

P’un a ydych yn dymuno cael seremoni anffurfiol fer gyda dim ond ychydig o westeion, neu un ffurfiol estynedig gyda llawer o westeion, bydd ein carfan gofrestru ymroddedig yn hapus i gynnig awgrymiadau ar sut i wneud eich seremoni yn un gofiadwy wedi’i theilwra i chi fel cwpl.

Er bod rhai addunedau cyfreithiol y mae rhaid i chi eu dweud yn ystod y seremoni, mae gyda ni ddewis amrywiol o frawddegau mae modd i chi eu hychwanegu at eich addunedau. Neu efallai y byddai'n well gyda chi lunio testun eich hun. Beth bynnag yw'ch dewis, bydd ein carfan brofiadol a chyfeillgar yn eich helpu i gynllunio eich seremoni berffaith.

Weithiau mae cyplau yn dewis barddoniaeth neu ddarlleniadau ar gyfer eu seremoni. Fe gewch chi ddewis rhywbeth sydd yn ein detholiad ni, neu fe gewch chi gyflenwi cerdd neu ddarlleniad. Os penderfynwch chi ddewis cerdd sydd ddim yn ein detholiad ni, sicrhewch fod copi ar gael i'r Cofrestrydd Arolygu ei weld cyn eich seremoni.

Bydd angen i chi siarad â'r person cyfrifol yn y ganolfan ynghylch cyfleusterau ar gyfer eich cerddoriaeth. Yn gyffredinol, bydd angen o leiaf pedwar darn o gerddoriaeth arnoch chi:

  • Wrth i'ch gwesteion gyrraedd
  • Wrth gyrraedd / cerdded i'r blaen
  • Wrth arwyddo'r gofrestr
  • Wrth i'r cwpl adael

Nodwch: rhaid i unrhyw beth ychwanegol rydych chi'n ei ddewis, gan gynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth neu ddarlleniadau, ddim bod yn grefyddol.

Priodi mewn eglwys neu adeilad crefyddol arall

Dylai cyplau sy’n dymuno priodi mewn eglwys (Yr Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr) fynnu gair â'r ficer priodol gyntaf. Yn gyffredinol, dim ond os ydych chi neu’ch partner yn byw ym mhlwyf yr eglwys y cewch chi briodi yno. Bydd ef/hi yna'n trefnu i’r Gostegion (Banns) gael eu galw ar dri Sul cyn dyddiad y briodas, neu i drwydded gyffredin gael ei chyhoeddi.

Yn yr amgylchiadau uchod, does dim angen cynnwys Cofrestrydd Arolygu fel arfer.

Fodd bynnag, os ydych chi'n dymuno priodi mewn unrhyw Eglwys neu adeilad crefyddol arall, dylech chi gysylltu â’r Gweinidog neu gorff llywodraethu’r adeilad priodol gyntaf i gytuno ar ddyddiad ac amser ar gyfer y seremoni. Rhaid i chi hefyd gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru i wneud apwyntiad i gofnodi hysbysiad cyfreithiol o’ch bwriad i briodi. Fel arfer, cewch chi dim ond priodi yn yr Eglwys neu adeilad crefyddol arall os ydych chi neu’ch partner yn byw yn yr ardal ble mae’r Eglwys honno neu'r adeilad crefyddol hwnnw. Dim ond mewn adeilad sydd wedi’i gofrestru ar gyfer priodas mae modd cynnal priodas a rhaid i’r seremoni fod yn unol â defodau anghydffurfiol er enghraifft, Bedyddwyr, Methodistiaid, Catholig. Rhaid talu ffi archebu does dim modd ei had-dalu ar gyfer cadw dyddiad ac amser y seremoni dros dro, cyn i chi roi eich hysbysiad cyfreithiol.

Er bod y briodas yn debygol o gael ei chynnal gan Weinidog, Offeiriad, Imam ac ati, fel arfer mae angen Cofrestrydd i gofrestru’r briodas. Bydd angen i chi sicrhau bod Cofrestrydd ar gael cyn gwneud unrhyw drefniadau eraill ar gyfer y seremoni.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r sawl sy’n bwriadu priodi roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal maen nhw’n byw ynddi hi. Chaiff priodas ddim digwydd oni bai bod rhagofynion sifil i'r briodas wedi'u cofnodi. Bydd gofyn i chi dalu'r ffi am bresenoldeb y Cofrestrydd cyn y seremoni, pan fyddwch chi'n cofnodi'ch hysbysiadau cyfreithiol.

Er y bydd cynnwys eich seremoni’n cael ei drafod gyda’r gweinidog sy’n cynnal eich seremoni, dylid gofyn i’ch gwesteion gyrraedd y ganolfan tua 30 munud cyn i’r seremoni ddechrau. Mae gofyn i chi fod yn brydlon gan fod rhaid i Gofrestryddion fynychu seremonïau eraill yn aml ar amserlen dynn.

Trefnu dyddiad dros dro

Mae hysbysiad o briodas yn ddilys am flwyddyn ond mae hi’n syniad da i drefnu seremoni cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn berthnasol p’un a ydych yn priodi yn y Swyddfa Gofrestru, yn un o’n canolfannau cymeradwy neu mewn eglwys neu gapel ble mae gofyn i gofrestrydd fod yno.

Mae'r rhan fwyaf o ganolfannau yn yr ardal yn cynnal system trefnu dyddiad dros dro, sy'n eich galluogi i drefnu eich priodas ymhellach ymlaen llaw. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi wneud yr holl drefniadau angenrheidiol mewn da bryd.

Dylid trefnu dyddiad dros dro yn ysgrifenedig i Gofrestrydd Arolygu'r ardal rydych chi'n bwriadu priodi ynddi. Yna rhaid rhoi eich hysbysiad o briodas cyfreithiol i Gofrestrydd Arolygu'r ardal rydych yn byw ynddi, o fewn blwyddyn i ddyddiad y seremoni, ni waeth ble yng Nghymru neu Loegr y caiff y briodas ei chynnal.

Nodwch: Mae Rhondda Cynon Taf yn codi ffi i gadw dyddiad ac amser eich seremoni dros dro. Does dim modd ei had-dalu.

Ardystio hysbysiad o briodas

Chaiff y ddau barti na neb arall ddim rhoi hysbysiad o briodas ar y cyd. Rhaid i bob parti fynd gerbron Cofrestrydd Arolygu'r ardal maen nhw'n byw ynddi fel arfer, i roi eu hysbysiad o briodas. Os yw'r ddau barti yn byw yn yr un ardal gofrestru, dylen nhw fynd gyda'i gilydd. Mae modd rhoi hysbysiad o briodas hyd at flwyddyn cyn y briodas a chaiff ei ardystio gan gyfweliad personol annibynnol. Mae'r broses yn cymryd tua 20 munud y person a rhaid trefnu apwyntiad.

Os ydych chi'n ddinesydd tramor sy'n destun rheolaeth fewnfudo'r DU, dylech chi gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol ar unwaith i gael cyngor ar sut i fwrw ymlaen.

I ddod o hyd i'ch swyddfa gofrestru agosaf, edrychwch ar wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a gwefan y Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd.

Pa ddogfennau fydd eu hangen arnaf?

Rhaid i chi ddod â'r dogfennau canlynol gyda chi i'ch apwyntiad:

  • Eich pasbort dilys cyfredol NEU'ch tystysgrif geni (os oeddech chi wedi cael eich geni ar ôl 1 Ionawr 1983 a does dim pasbort gyda chi, bydd angen cyflwyno tystysgrif geni lawn ar y cyd â thystysgrif geni neu basbort eich mam).
  • Cadarnhad o'ch cyfeiriad (trwydded yrru, bil cyfleustodau ac ati).
  • Os ydych chi'n ŵr neu’n wraig weddw, bydd angen i chi ddod â thystysgrif marw eich priod blaenorol a'ch tystysgrif priodas.
  • Os ydych chi wedi ysgaru, dylech ddod ag archddyfarniad absoliwt (rhaid i hwn gynnwys stamp gwreiddiol).
  • Os ydych chi wedi newid enw'n ffurfiol, dewch â’r dogfennau sy'n profi hyn.
  • Os cawsoch chi eich geni y tu allan i'r DU, dewch â'ch pasbort neu Ddogfen Deithio.
  • (Wrth drefnu apwyntiad, bydd y Cofrestrydd yn cadarnhau’r dogfennau perthnasol y bydd angen i chi ddod â nhw gyda chi ar gyfer eich apwyntiad.) 

Seremoni Ddwyieithog

Os ydych chi'n siarad Cymraeg ac yn dymuno i'ch seremoni gael ei chynnal yn Gymraeg, trafodwch hyn gyda'r Cofrestrydd Arolygu pan fyddwch chi'n ffonio i drefnu apwyntiad.

Os oes angen cymorth arbennig arnoch chi

Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, bydd angen cyfieithydd arnoch chi i ddod i'r Swyddfa Gofrestru gyda chi i gofnodi eich hysbysiad cyfreithiol ac ar ddiwrnod y seremoni i gyfieithu i chi. Does dim modd i'ch darpar ŵr/wraig wneud hyn.

Partïon sy'n Preswylio Dramor

Os ydych chi neu'ch darpar ŵr/wraig yn byw y tu allan i Gymru neu Loegr ac eisiau priodi naill ai mewn eglwys neu gapel, neu drwy seremoni sifil yng Nghymru neu Loegr, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am ragor o wybodaeth/cyngor.

 

 

Cofrestrydd Arolygu

Swyddfa Gofrestru
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd

Ffôn: 01443 494024