Mae Rhondda Cynon Taf yn un o ranbarthau cofrestru mwyaf Cymru. Mae ein staff profiadol, sydd wedi cael hyfforddiant o’r safon gorau, yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf ar gyfer cynnal seremonïau priodas, gwasanaethau sifil a seremonïau enwi.
Mae modd cynnal y seremonïau yma yn y Swyddfa Gofrestru, sydd â’i chanolfan yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd, neu yn un o westai gwledig ledled y fwrdeistref sirol.
Swyddfa Gofrestru Pontypridd – Ystafelloedd sydd ar gael i'w llogi
Mae modd dewis o blith 3 o ystafelloedd sy wedi’u haddurno’n chwaethus yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd.
Swyddfa Gofrestru Rhondda Cynon Taf
- Mae modd llogi’r ystafell yma o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
- Mae lle i 10 o westeion.
Ystafell Evan James
- Mae Ystafell Evan James ar gael i’w llogi o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
- Mae lle i 45 o westeion.
Y Siambr Ddinesig
- Caiff seremonïau dinasyddiaeth eu cynnal yn y Siambr Ddinesig. Rhaid cael gwahoddiad i’r seremonïau. Dydyn nhw ddim ar agor i’r cyhoedd.
- Noder: I gadw lle ac amser ar gyfer eich seremoni, mae rhaid talu blaendal. Does dim modd ad-dalu’r arian yma.
Yn anffodus, does dim cyfleusterau parcio ar gael y tu allan i'r Swyddfa Gofrestru. Er hynny, mae maes parcio mawr yn yr ‘Iard Nwyddau’ gerllaw (y tu ôl i'r orsaf fysiau).
Canolfannau cymeradwy ar gyfer seremonïau
Mae nifer o Ganolfannau sy wedi’u Cymeradwyo ar gyfer cynnal Priodasau, Seremonïau Sifil a Seremonïau Enwi i’w cael yn Rhondda Cynon Taf. Yn ôl y gyfraith, mae modd i’n Swyddogion Cofrestru gynnal seremonïau yn y canolfannau yma.
Gan weithredu o'r 1 Ionawr 2014, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf trwy hyn yn hysbysu y bydd y Swyddfa Gofrestru'n cynnig yr ystafelloedd canlynol yn fangre ar gyfer gweinyddu priodasau yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodasau 1949 ac adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.
Tabl Enghreifftiol
|
Ystafelloedd
|
Cyfeiriad
|
Ystafell Evan James
|
Adeiladau'r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP
|
Siambr Ddinesig
|
Adeiladau'r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP
|
Mae modd archwilio'r cais a'r cynlluniau ar gyfer y fangre yn y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau'r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, rhwng 9.30am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os byddwch chi’n penderfynu priodi yn un o’n Mangreoedd sy wedi’u Cymeradwyo, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r ganolfan o’ch dewis i wneud trefniadau dros dro gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb.
Mae’n rhaid i chi gadarnhau’r trefniadau yma gyda’r Cofrestrydd Arolygol yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd, i ofalu bod swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod, i gynnal y seremoni a chofrestru’r briodas.
Ffioedd perthnasol ar gyfer seremoni mewn canolfannau cymeradwy
Am ragor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â ni:
Cofrestrydd Arolygol
Y Gofrestrfa Ranbarthol
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP
Ffôn: 01443 494024