Skip to main content

Mynediad i weld delweddau Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)

Rhaid i'r mynediad i gyrchu data system Teledu Cylch Cyfyng RhCT gydymffurfio ag amcanion y cynlluniau. Mae delweddau yn cael eu cadw ar y system am gyfnod o 31 diwrnod hyd nes bod cais ffurfiol yn cael ei wneud.

Mae data yn cael ei ryddhau i'r Heddlu ac asiantaethau partneriaeth fel tystiolaeth i ategu ymholiadau ac achosion llys.  Mae trosglwyddo data yn rhan o gytundeb rhannu gwybodaeth wedi'i sefydlu gan Heddlu De Cymru RhCT a phartneriaid cysylltiedig.

Mae hawl gyda unigolyn ofyn i weld data, serch hynny caiff data (darnau o ffilm) ei ryddhau yn unig os yw'r wybodaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac os felly, am y cyfnod penodol y mae'r unigolyn yn y darn o ffilm.

Ceisiadau Cyfreithiol

Mae mynediad i weld delweddau dan Atodlen 2, Paragraff 5 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn ddiamod. Mae'n bosibl y bydd mynediad yn cael ei awdurdodi mewn achosion cyfreithiol neu wrth amddiffyn hawliau cyfreithiol.

Er enghraifft, ceisiadau gan gynrychiolwyr cyfreithiol neu gwmnïau yswiriant.  Mae darnau o ffilmiau yn cael eu dadansoddi ac mae gwiriadau yn cael eu cynnal i sicrhau bod ceisiadau yn gyfreithlon a bod rhaid talu ffi.

Mae ceisiadau mewn perthynas ag atal a chanfod trosedd.

Caiff asiantaethau erlyn gyflwyno ceisiadau yn hytrach na'r bobl wedi'u nodi yn y bartneriaeth.  Mae'r ceisiadau yma yn cael eu gwneud dan Atodlen 2, Paragraff 2 o Ddeddf Diogelu Data ac maen nhw'n berthnasol i ymchwilio i droseddau.

Trwy ddwyn i lys

Mae'n bosibl y bydd y llys yn cymeradwyo cyhoeddi delweddau Teledu Cylch Cyfyng os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau uchod yn berthnasol. 

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd delweddau yn datgelu gwybodaeth breifat pobl nad ydyn nhw'n berthnasol i'r cais. Mae'n bosibl y bydd angen golygu delweddau neu guddio darnau ohonyn nhw i amddiffyn gwybodaeth bersonol.  Mae'n bosibl y bydd ffi yn cael ei chodi am hyn.

Am gyngor pellach am ryddhau data, cysylltwch â'r rheolydd data. 

Rheolydd Data – 01443 490111

E-bost – wayne.bluck@rhondda-cynon-taf.gov.uk