Skip to main content

Grantiau Gwresogi ac Arbed

Cymorth grantiau sydd ar gael i drigolion RhCT i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

Os ydych chi'n berchen-feddiannwr a does gyda chi ddim system wresogi sy'n gweithio neu mae gyda chi ddiddordeb mewn gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref drwy wella system wresogi bresennol aneffeithlon, mae cymorth grant ar gael drwy Grant Wresogi'r Cyngor.  Mae'r Grant yn darparu cymorth ariannol ar gyfer amrywiaeth o uwchraddo systemau gwresogi gan gynnwys dewisiadau gwresogi ag ynni adnewyddadwy a (lle bo angen) mesurau effeithlonrwydd ynni bychain ynghyd â dewisiadau gwresogi.  Mae'r grant yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac mae modd iddo ddarparu cymorth ariannol hyd at uchafswm o £5,000 ar gyfer perchen-feddianwyr. 

Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid i chi fod yn berchen-feddiannwr sy'n bodloni'r gofynion isod:

  • Meddu ar incwm cartref net o dan £30,576 ar ôl unrhyw gostau ad-dalu morgais.
  • Cynilion dan £16,000

 

Mae rhestr o'r holl dystiolaeth bydd rhaid i chi ei darparu wrth wneud cais yn y dogfennau cysylltiedig.

Sylwch nad oes angen i chi dderbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd i wneud cais. Mae'r cymorth grant yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'ch cymhwysedd.

Grantiau Gwresogi ac Arbed 

Beth sydd angen i chi ei wybod

  • Mae gan y Cyngor 'Rhestr o Ddarparwyr Profedig' ble all osodwyr lleol ymgeisio i fod yn rhan o restr y cyngor ar gyfer cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni yn RhCT i helpu drigolion i ddod o hyd i osodwyr cofrestredig addas

  • Y contractwr a ddewisir yw dewis perchennog y cartref ac mi fydd y holl gytunebau rhwng perchennog y cartref a'r gosodwr, nid y cyngor

  • Rhaid i berchennog yr eiddo dalu unrhyw gostau ychwanegol (mae modd gwneud hyn trwy geisio cymorth pellach megis benthyciadau neu gymorth grant yn amodol ar gymhwysedd).

  • Bydd unrhyw waith sydd wedi'i gwblhau cyn cymeradwyo'r grant ddim yn gymwys ar gyfer y grant.
  • Bydd taliad grant ond yn cael ei ryddhau unwaith bod anfoneb am y gwaith wedi'i dderbyn a'r ffurflen caniatad grant wedi'i gwblhau

Cymorth ychwanegol

Mae modd i'n hymgynghorwyr hefyd gynnig cymorth ac atgyfeiriadau ar gyfer;

  • Gwneud y gorau o'ch arian
  • Rheoli dyledion a rheoli arian
  • Lleihau biliau cyfleustodau
  • Cymorth grant ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'ch cartref

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yma.

Mae hefyd modd i ni eich cyfeirio chi at grantiau allanol y gallwch chi fod yn gymwys ar eu cyfer megis Cynllun Nyth Llywodraeth Cymru neu cynllun ariannu ECO Llywodraeth y DU.

Os hoffech chi gopi caled o'r ffurflen gais,

Ffoniwch 01443 281136

E-bostiwch gwresogiacarbed@rctcbc.gov.uk