Skip to main content

Cyllid ECO 4 Flex

Cynllun effeithlonrwydd ynni’r llywodraeth ledled y DU yw'r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) 4. Mae wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau allyriadau carbon. Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan gyflenwyr ynni sydd â rhwymedigaeth i wneud hynny (megis British Gas, EON, EDF) ac yn cael ei gyflawni gan gwmnïau gosod neu eu hasiantiaid. Dyma restr lawn o'r cyflenwyr ECO Manylion Cyswllt Cyflenwr ECO | Ofgem

Bydd y cynllun yma ar waith nes mis Mawrth 2026 a bydd yn cynnig mesurau megis insiwleiddio a gwresogi. Diben y cynllun yw lleihau tlodi tanwydd a biliau ynni yn ogystal ag allyriadau carbon. 

Cynllun Flex ECO4 

Mae ein Datganiad o Fwriad (yma) yn nodi meini prawf llawn cynllun ECO 4 LA FLEX ac mae crynodeb o'r meini prawf isod.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma.

Os ydych chi neu aelod arall o'ch aelwyd yn bodloni’r meini prawf canlynol, mae'n bosibl eich bod chi'n gymwys:

  • Incwm aelwyd is na £31,000
  • Cyflwr iechyd difrifol/hir dymor sy'n gwaethygu drwy fyw mewn cartref oer (angen cadarnhad trwy atgyfeiriad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Bwrdd Iechyd Lleol neu Feddyg Teulu)
  • Rhaid bodloni cyfuniad o ddau o'r procsis canlynol ond does dim modd defnyddio procsi 1 a 3 gyda'i gilydd
    • Procsi 1: Cartrefi mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is 1-3 ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 sydd yn Nhylorstown 1, Penrhiw-ceibr 1 a Phen-y-waun 2. Cliciwch yma i weld a yw eich cod post chi o fewn y ffin MALlC (dataunitwales.gov.uk) Mae rhagor o wybodaeth a map rhyngweithiol ar-lein hefyd ar gael yma MALlC - Explore (gov.wales).
    • Procsi 2: Deiliaid cartrefi sy'n derbyn ad-daliad Treth y Cyngor (ad-daliadau'n seiliedig ar incwm isel yn unig, ddim yn cynnwys gostyngiad person sengl)
    • Procsi 3: Deiliaid cartrefi sy'n agored i fyw mewn cartref oer fel sydd wedi'i nodi yng Nghanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). 
    • Procsi 4: Deiliad cartref sy'n derbyn prydau ysgol am ddim o ganlyniad i incwm isel
    • Procsi 5: Ddim ar gael ar hyn o bryd
    • Procsi 6: Person sy'n byw yn yr eiddo sydd wedi'i atgyfeirio at yr Awdurdod Lleol gan eu darparwr ynni, neu Gyngor ar Bopeth, i gael cymorth gan fod y sawl sy'n atgyfeirio wedi'i nodi'n berson sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau nwy neu drydan.

 GWNEUD CAIS AM GYMORTH CYLLID ECO 4 FLEX

Mae'r Cyngor wedi enwebu Cwmni Buddiant Cymunedol, Cymru Gynnes, i brosesu pob cais ar gyfer cyllid ECO 4 FLEX yn ardal Rhondda Cynon Taf. 

Os ydych chi o'r farn y gallech chi fod yn gymwys i gael cyllid ECO, gallwch wneud cais drwy un o'r contractwyr cymeradwy sydd wedi'u cofrestru gyda Cymru Gynnes https://www.warmwales.org.uk/rhondda-cynon-taf-eco-agents/

Bydd modd i osodwyr roi cyngor cychwynnol ynghylch cymhwysedd posibl, ac yna gallan nhw gynnal unrhyw arolygon perthnasol, gan gynnwys Tystysgrifau Perfformiad Ynni, yn rhad ac am ddim. 

Mae cryn alw am y Gwasanaeth Gwresogi ac Arbed ar hyn o bryd, yn sgil hynny gallai fod oedi wrth ymateb i chi.

Nodwch, nid yw’r grant yn darparu cymorth ar frys , ac os ydych chi heb wres a/neu angen cymorth ar frys, efallai bydd modd i asiantaethau eraill eich helpu chi;

Local Energy Advice Partnership Cynllun Boeler LEAP | LEAP (applyforleap.org.uk)  Rhif ffôn: 0800 060 7567

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni; Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru - Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Rhif ffôn: 0808 808 2244

Cyngor ar Bopeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf (carct.org.uk) Rhif ffôn: 01443 409284    

Cyngor Ynni Gofal a Thrwsio careandrepair.org.uk/cy/agencies/care-repair-cwm-taf/  Rhif ffôn: 01443 755696

BETH SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD

  • Os ydych chi'n effro i berfformiad ynni eich cartref ac yn credu eich bod chi'n bodloni'r meini prawf, mae modd gwneud cais yn uniongyrchol.  Os nad ydych chi'n effro i'ch perfformiad ynni, mae modd gwirio ar-lein am ddim i weld a oes Tystysgrif Perfformiad Ynni wedi'i chofrestru i'ch cartref www.gov.uk/dod-o-hyd-i-dystysgrif-ynni . Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â chwmni gosod yn gyntaf er mwyn trafod.
  • Mae amrywiaeth o fesurau ynni ar gael yn rhan o'r cynllun ac maen nhw'n dibynnu ar berfformiad eich cartref o ran ynni a pha fesurau sy'n dechnegol addas. Bydd y cwmni gosod yn cynnal asesiad ynni cartref a bydd y cwmni'n cynnig cyngor ar fesurau posibl a'ch cymhwysedd.
  • Mae lefelau cyllid yn amrywio ac mae modd i hyn amrywio o fesurau wedi'u hariannu'n llawn i fesurau wedi'u hariannu'n rhannol sy'n gofyn am gyfraniad gan y cwsmer. Mae modd i lefelau cyllid amrywio trwy gydol y cynllun (sy'n rhedeg nes mis Mawrth 2026). Y cyngor i aelwydydd y mae angen i gwsmeriaid gyfrannu'n ariannol yw gwneud ymchwil i ddod o hyd i'r cynnig gorau.
  • Mae'n rhaid i bob cwmni gosod sy'n cynnal gwaith o dan y rhaglen ECO 4 gofrestru gyda'r Cynllun sydd wedi'i Hardystio gan y Llywodraeth trwy 'Trustmark'. Bwriwch olwg ar-lein i wirio a yw cwmni wedi'i gofrestru a'i achredu. Find trusted tradespeople with the only Government Endorsed Quality Scheme • TrustMark (Saesneg yn unig)
  • Rôl y Cyngor yw cyhoeddi meini prawf y cynllun a gwirio cymhwysedd cartrefi. Does dim gyda ni reolaeth uniongyrchol dros lefelau cyllido neu argaeledd cyllid trwy gydol y cynllun. 
  • Mae pob perthynas cytundebol rhwng perchennog y cartref a'r cwmni gosod sy'n cynnal y gwaith. Mae dewis contractwr yn seiliedig ar ddewis y cwsmer ac mae'n bwysig bod trigolion yn dilyn yr un drefn â phrynu mathau eraill o welliannau neu wasanaethau i'w cartrefi. 
  • Cyn cytuno i unrhyw waith, dyma gynghori trigolion i gymryd eu hamser a gwneud eu hymchwil eu hunain. Peidiwch â gadael i gwmni roi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad. 
  • Os oes rhaid talu cyfraniad preswylydd, mynnwch mwy nag un dyfynbris a chwilio am y gwerth am arian gorau. Os oes angen cymorth arnoch chi gyda chyfraniad y cwsmer, mae modd gwirio a ydych chi'n gymwys am fathau eraill o gyllid (bwriwch olwg ar wefan Gwresogi ac Arbed).
  • Wrth gymryd rhan yn unrhyw gynllun ECO 4, dyma gynghori trigolion i sicrhau eich bod chi'n derbyn pob gwarant angenrheidiol a/neu wybodaeth ôl-ofal yn dilyn cwblhau'r gwaith, yn ogystal â chadw cofnod o fanylion y cwmni ac unrhyw gytundebau.  
  • Os ydych chi o'r farn bod cwmni yn annilys, dylid rhoi gwybod i Wasanaethau Cyngor i Ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1133 neu drwy fynd ar-lein Cyngor ar Bopeth. Mae modd i'r gwasanaeth yma hefyd roi rhagor o wybodaeth am eich hawliau fel defnyddiwr.  O ran gweithgarwch twyllodrus, mae modd i Wasanaeth Safonau Masnach y Cyngor gynnig rhagor o gyngor ac arweiniad - 01443 425001 neu safonaumasnach@rctcbc.gov.uk Masnachu Teg | Rhondda Cynon Taf County Borough Council (rctcbc.gov.uk)
  • Mae'n bosibl y bydd rhai preswylwyr yn darganfod eu bod nhw'n gymwys am fwy nag un cynllun ynni (megis cynllun Nyth Llywodraeth Cymru ac ECO 4). Rydyn ni'n annog preswylwyr i ystyried pob opsiwn cyn parhau â gwaith gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, ac ystyried nad ydych chi'n gymwys ar gyfer mesurau o gynllun arall ar ôl derbyn cymorth gan un cynllun. Os ydych chi'n ansicr o ran pa gymorth sydd ar gael, cysylltwch â'r garfan Gwresogi ac Arbed.

 GWYBODAETH I OSODWYR

Os ydych chi'n osodwr neu'n asiant ECO4 ac rydych chi am wneud cais i fod ar y Rhestr o Ddarparwyr Wedi'u Cymeradwyo ar gyfer ECO 4 Flex, cysylltwch â Cymru Gynnes Cysylltwch â Cymru Gynnes –  Cymru Gynnes

Gwybodaeth i Osodwyr sy'n cyflwyno ceisiadau ar ran ymgeiswyr:-

  • Dim ond ceisiadau a ddaw i law gan osodwyr sydd wedi'u cofrestru ar y Rhestr o Ddarparwyr Wedi'u Cymeradwyo y bydd Cymru Gynnes yn eu derbyn. Dylai gosodwyr sydd heb gofrestru eto gysylltu â Cymru Gynnes i gael gwybodaeth ynghylch sut mae gwneud cais i gofrestru.
  • Fydd ceisiadau ddim yn cael eu hasesu oni bai eu bod yn cael eu cyflwyno gyda'r dystiolaeth angenrheidiol h.y. prawf o berchnogaeth, prawf deiliadaeth (fel sy'n berthnasol i ganllawiau'r cynllun), ynghyd â'r dystiolaeth ofynnol o gymhwysedd ar gyfer deiliaid.
  • Dylai gosodwyr lenwi a chyflwyno'r Ffurflen Hysbysiad o Fesurau Contractwr (mae modd gwneud hyn yn ystod y cam cyflwyno cais neu’n hwyrach, ond gwell fyddai ei chyflwyno gyda’r cais cychwynnol)

Mae'n bosibl y bydd methu â darparu'r uchod wrth gyflwyno cais yn achosi oedi yn y broses asesu.

FFYNONELLAU ERAILL O GYNGOR CYFFREDINOL A/NEU GYMORTH

Siaradwch â chynghorydd yn yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Dewch o hyd i ffyrdd i arbed ynni yn eich cartref

Rhif ffôn: 0800 098 7950

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-6pm (heblaw am Wyliau'r Banc)

Dydd Sadwrn, 9am-12pm

Cysylltwch â ni - Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

BETH Y DYLECH EI WNEUD OS OES ARNOCH CHI ANGEN GWNEUD CWYN

Trustmark yw'r unig gynllun ansawdd a gymeradwyir gan Lywodraeth y DU, ar gyfer gwaith sy'n cael ei wneud yn eich cartref neu o'i gwmpas, ac mae gofyn i bob gosodwr ECO fod wedi'i gofrestru gyda Trustmark.  Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael yma ynghylch ei brosesau gwneud cwyn: Complaints Process • TrustMark

 OFGEM

Er mai Trustmark yw'r corff achredu a gymeradwyir gan Lywodraeth y DU, sy'n gallu bod o gymorth o ran cwynion unigol, Ofgem yw gweinyddwr cyffredinol y Cynllun ECO.  Ac yntau'n weinyddwr cyffredinol ar y cynllun ECO, mae gofyn i Ofgem, yn rhan o’i rôl, osod targedau ar gyfer pob cyflenwr ynni sydd dan rwymedigaeth yn rhan o'r cynllun yma; a hynny er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio a monitro eu cynnydd o ran y targedau dan sylw. 

Serch hynny, os hoffech chi roi adborth negyddol i Ofgem ynghylch y gwaith gosod neu'r gwasanaeth rydych chi wedi'i gael trwy'r Cynllun ECO, gallwch wneud hyn drwy ei brosesau gwneud cwyn Proses gwneud cwyn ECO4 | Ofgem 

 Cysylltu â ni

Mae modd i garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor eich cynorthwyo a rhoi gwybodaeth i chi ar yr amrywiaeth o gymorth a grantiau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael. Am ragor o gymorth, ffoniwch 01443 281136 neu e-bostio GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk.

Gwasanaeth Gwresogi ac Arbed ar hyn o bryd yn gweld cynnydd yn y galw am y grant, mae'n bosibl y bydd hyn yn achosi peth oedi wrth ymateb.  Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod yma.