Skip to main content

Recriwtio, Swyddi Gwag a Hyfforddiant sy'n berthnasol i Sector Benodol

Mae ein Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth ar gael i gefnogi busnesau lleol gyda nifer o wasanaethau AM DDIM sy'n cynnwys:
  • Recriwtio am ddim – cymorth megis hidlo CVs, sgrinio cyn asesu a threfnu cyfweliadau ar gyfer ceiswyr gwaith
  • Cyngor am ddim a chymorth i wneud ceisiadau – ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn cynlluniau cyflogaeth
  • Hysbysebu am ddim – ar ein cyfryngau cymdeithasol neu rwydweithiau mewnol ac allanol
  • Gwiriadau cyn cyflogaeth am ddim – cynnal gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar weithwyr ac asesu llythrennedd / rhifedd os ydych chi'n recriwtio drwy ein carfan
  • Cysylltiadau am ddim i'n gwasanaeth cymorth yn y gwaith, hyfforddiant un wrth un i helpu'ch gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu diswyddo neu i gynyddu gallu gweithio posibl
  • Cymorth i osod cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith
  • Mae modd i’n clybiau gwaith hefyd roi cymorth gyda Ffurflenni Cais a CVs
  • Hyfforddiant am ddim – cynnig hyfforddiant neu drwyddedau hanfodol sy'n berthnasol i'r sector ble mae modd eu haddasu i ddiwallu anghenion eich busnes

Hyfforddiant Penodol i'r Sector Gwaith

Hyfforddiant wedi'i achredu i ddiwallu anghenion eich busnes.

Mae'r sectorau'n cynnwys: 

Sample Table
Canolfan Alwadau/Gwaith Gweinyddol

Gofal (Domestig/Preswyl) 

Gofal Plant/Cynorthwywyr Addysgu 

Adeiladu

Garddwriaeth 

Lletygarwch ac Arlwyo 

   

Lletygarwch ac Arlwyo 

Hamdden  Y Rheilffyrdd   
Manwerthu       Diogelwch/Stiwardio  
Trafnidiaeth

Cyflenwi Warws

E-bostiwch cymorthigyflogwyr@rctcbc.gov.uk i gael gwybod mwy am yr uchod.