Skip to main content

Adnewyddu llyfr

Mae modd i chi adnewyddu llyfr ar-lein 
Defnyddiwch ein catalog ar-lein i adnewyddu eich eitem llyfrgell
Mae modd i unrhyw un chwilio drwy gatalog y Llyfrgell ar-lein, ond, os ydych chi’n bwriadu archebu neu adnewyddu eitem, bydd rhaid i chi ymaelodi â’r llyfrgell.

Benthyg/adnewyddu eitemau

Mae modd i chi fenthyg hyd at 10 llyfr neu lyfrau llafar ar y tro am gyfnod o 3 wythnos.

Mae modd ymestyn y cyfnod benthyca cyn belled â bod yr eitem heb gael ei harchebu gan rywun arall. Caiff cost ychwanegol ei hychwanegu am adnewyddu eitem sydd eisoes rhaid talu amdani.

Mae modd adnewyddu eich benthyciadau drwy ymweld â’ch llyfrgell leol neu ddefnyddio’r catalog ar-lein hyd at 3 gwaith, neu drwy ffonio eich llyfrgell leol cyn y dyddiad dychwelyd.

Os nad ydych chi’n dychwelyd yr eitem cyn y dyddiad sydd wedi’i nodi arni, bydd rhaid i chi dalu ffi ‘dychwelyd yn hwyr’. Gweler ein tudalen ‘Ffioedd’ am y costau perthnasol.

Cliciwch yma i weld lleoliad a manylion eich llyfrgell leol.

Archebu eitemau y tu allan i ardal Rhondda Cynon Taf

Mae modd archebu eitemau sydd mewn stoc yn ogystal â llyfrau sydd y tu allan i’r sir.

Cliciwch yma i weld y ffioedd archebu.

Eitemau coll/wedi’u difrodi

Rhaid i ddefnyddwyr dalu tuag at ailosod eitemau sydd wedi mynd ar goll neu sydd wedi’u difrodi. Caiff y tâl ei godi ar sail y raddfa ganlynol:

  • Eitemau o dan 6 mis oed - cost lawn yr eitem
  • Eitemau rhwng 6 mis a 2 flwydd oed - dau dreian o’r gost wreiddiol
  • Eitemau dros 2 flwydd oed – treuan o’r gost wreiddiol