Skip to main content

Rhybuddion Tywydd a Rhybuddion Llifogydd

Mae rhybuddion tywydd a rhybuddion llifogydd yn hanfodol er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am beryglon posibl a chymryd y rhagofalon angenrheidiol i reoli effeithiau posibl.

Mae modd i chi gofrestru i gael rhybuddion tywydd a rhybuddion llifogydd drwy’r asiantaethau/dulliau canlynol:

Y Swyddfa Dywydd

Y Swyddfa Dywydd yw gwasanaeth tywydd cenedlaethol y DU ac mae'n darparu rhagolygon a rhybuddion tywydd cywir a chyfredol.

 

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd (www.metoffice.gov.uk) neu lawrlwythwch ap y Swyddfa Dywydd i weld rhagolygon y tywydd a rhybuddion tywydd. Mae modd i chi gofrestru i dderbyn rhybuddion tywydd ar gyfer eich ardal naill ai trwy e-bost neu ar ap swyddogol y Swyddfa Dywydd ar eich ffôn.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

CNC yw'r corff amgylcheddol sy'n gyfrifol am reoli adnoddau naturiol a risgiau amgylcheddol yng Nghymru. Nhw hefyd yw'r Awdurdod Rheoli Risg sydd â phwerau i reoli'r perygl o lifogydd o brif afonydd.

 

Mae CNC yn darparu rhybuddion llifogydd am ddim, rhybuddion llifogydd, a gwybodaeth sy’n ymwneud â llifogydd sy’n benodol i Gymru drwy ei Wasanaeth Rhybuddion Llifogydd.

 

Ewch i wefan CNC (https://naturalresources.wales/?lang=cy) neu cofrestrwch ar gyfer eu gwasanaeth rhybuddion llifogydd i dderbyn hysbysiadau amserol am beryglon llifogydd yn eich ardal.

Y Cyfryngau Cymdeithasol ac Apiau Ffonau Symudol

Dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol y Swyddfa Dywydd, CNC, a’r Cyngor i dderbyn diweddariadau a rhybuddion byw ynghylch risgiau tywydd a llifogydd.

 

Lawrlwythwch ap swyddogol y Swyddfa Dywydd er mwyn i rybuddion tywydd gael eu hanfon yn syth i'ch dyfais symudol.

Gwefan y Cyngor

Edrychwch ar wefan y Cyngor am wybodaeth berthnasol am dywydd, llifogydd a chau ffyrdd sy’n benodol i’ch ardal chi.

Deall Rhybuddion Tywydd a Rhybuddion Llifogydd 

Rhybuddion Tywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion tywydd pan mae modd i dywydd garw effeithio ar y DU. Rhoddir lliw i'r rhybuddion hyn (melyn, ambr, neu goch) yn dibynnu ar gyfuniad o'r effaith y gallai'r tywydd ei chael a'r tebygolrwydd y bydd yr effeithiau hynny'n digwydd.

Mae'n bwysig deall beth mae'r rhybuddion tywydd gwahanol yn golygu er mwyn i chi ddeall beth i'w ddisgwyl pan mae rhybudd yn cael ei gyhoeddi.

Rhybudd Tywydd

Beth allai fod yn digwydd?

Beth ddylech chi ei wneud?

 

 

MELYN

Mae modd cyhoeddi rhybuddion melyn ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd tywydd. Mae llawer yn cael eu cyhoeddi pan mae'n debygol y bydd y tywydd yn achosi rhai effeithiau ar raddfa fach, gan gynnwys rhywfaint o darfu ar deithio mewn rhai lleoedd.

Dylech wirio manylion y rhagolwg ac ystyried cymryd camau i leihau'r effeithiau arnoch chi a'ch cartref.

 

 

AMBR

Mae'n fwy tebygol y bydd tywydd garw yn cael effaith ac mae modd i hyn amharu ar eich cynlluniau. Mae hyn yn golygu bod posibilrwydd o oedi wrth deithio, cau ffyrdd a rheilffyrdd, colli pŵer ac mae perygl posibl i fywyd ac eiddo.

Mae'n fwy tebygol y bydd tarfu a bydd hyn yn fwy eang. Dylech chi newid cynlluniau a allai gael eu heffeithio gan y tywydd a chymryd camau i amddiffyn eich hun a'ch eiddo.

 

 

COCH

Disgwylir tywydd peryglus, ac mae’n debygol iawn y bydd perygl i fywyd, gyda tharfu sylweddol i deithio, cyflenwadau ynni a difrod eang posibl i eiddo a'r seilwaith.

Dylech chi weithredu nawr i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel rhag effaith y tywydd garw. Dylech chi osgoi teithio, lle bo modd, a dilyn cyngor y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol.

Am ragor o wybodaeth am ganllawiau rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd cliciwch yma.

Rhybuddion Llifogydd

Rhoddir tri math o rybudd pan ragwelir llifogydd, sef hysbysiad llifogydd, rhybudd llifogydd a rhybudd llifogydd difrifol.

Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd am ddim a rhybuddion am lifogydd o afonydd neu'r môr ar-lein yn https://naturalresources.wales/flooding?lang=cy neu cysylltwch â Llifogydd 0345 988 1188 neu Type Talk: 0345 602 6340.

Cod llifogydd

Beth allai fod yn digwydd?

Camau gweithredu

 


Hysbysiad Llifogydd
Mae llifogydd yn bosibl, byddwch yn barod.

 

  • Llifogydd mewn caeau, tir hamdden a meysydd parcio
  • Llifogydd ar ffyrdd bach
  • Llifogydd ar dir fferm
  • Bydd tir isel a ffyrdd yn cael eu heffeithio gyntaf
  • Paratowch eich cartref, busnes neu fferm ar gyfer llifogydd
  • Cadwch lygaid ar lefelau afonydd lleol ar-lein a'r perygl llifogydd 5 diwrnod
  • Dylai ffermwyr ystyried symud da byw ac offer i ffwrdd o ardaloedd sy'n debygol o ddioddef llifogydd.

 

 

Rhybudd Llifogydd

Disgwylir llifogydd, mae angen gweithredu ar unwaith.

 

  • Llifogydd mewn cartrefi a busnesau
  • Llifogydd yn effeithio ar seilwaith y rheilffyrdd a ffyrdd
  • Mannau helaeth o orlifdir dan ddŵr (gan gynnwys meysydd carafanau a meysydd gwersylla)
 
  • Symudwch deulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i le diogel
  • Diffoddwch y cyflenwad nwy, trydan a dŵr os yw'n ddiogel i chi wneud hynny
  • Rhowch offer amddiffyn rhag llifogydd yn eu lle

 


Rhybudd Llifogydd Difrifol

Perygl i fywyd.

  • Dŵr llifogydd dwfn a chyflym
  • Malurion yn y dŵr yn achosi perygl
  • Posibilrwydd y bydd adeiladau a strwythurau yn cwympo neu mae adeiladu eisoes wedi cwympo
  • Cymunedau'n cael eu hynysu gan lifddyfroedd
  • Seilwaith hanfodol ar gyfer cymunedau ddim yn gweithio
  • Cymunedau'n cael eu gwacáu

 

  • Arhoswch mewn lle diogel gyda ffordd o ddianc
  • Byddwch yn barod i adael eich cartref
  • Cydweithredwch gyda’r gwasanaethau brys
  • Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol

Am ragor o wybodaeth am y Rhybuddion Llifogydd a’r hyn y maen nhw'n ei olygu bwriwch olwg ar ganllawiau'r Flood Hub yma.